Cyfleodd yn y celfyddydau ac iechyd

Amrywiaeth eang o gyfleoedd i weithwyr celfyddydau ac iechyd proffesiynol yng Nghymru a thu hwnt.

Y Cyfleoedd Diweddaraf

Ymunwch â WAHWN fel Ymddiriedolwr yn 2025

Summary:

Os ydych yn gwerthfawrogi creadigrwydd fel arf hanfodol i hybu iechyd a lles pobl, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn chwilio am unigolion a fydd yn cynyddu’r ystod o sgiliau, gwybodaeth a safbwyntiau o fewn ein bwrdd, a yn bwysicaf oll, rydym eisiau pobl sy'n dod â brwdfrydedd, dychymyg ac ymrwymiad i rôl ymddiriedolwr WAHWN.

Network Meetings - Eventbrite Banner (4)

Read More

Arian i Sefydliadau Gefnogi Amddiffyn Swyddi a Magu Gwytnwch

Start Date: hanner dydd ar 28 Hydref 2024

Summary:

Yn sgil trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am sefyllfa ariannol anodd ein sector celfyddydol, rydym wedi cael arian i ddiogelu swyddi a magu gwytnwch yn y sector. 

Read More

Mae Gwobrau Cynghrair Iechyd a Lles ar agor i geisiadau!

Start Date: 25 Mis Tachwedd

Summary:

Mae’n bleser gan y Cynghrair Iechyd a Llesiant gyhoeddi bod Gwobrau 2025 bellach ar agor i dderbyn cyflwyniadau!

Mwy o gwybodaeth yma

Read More

Gwaith ‘ar Sail Lle’ i Gefnogi Iechyd a Lles Ieuenctid yn Wrecsam a Chonwy

Location: Wrecsham, Conwy

Summary:

Cyfle i ddarparu cefnogaeth mewn dwy gymuned yn ardaloedd awdurdod lleol Wrecsam (Cefn Mawr a Gwersyllt) a Conwy (Llysfaen a Bae Cinmel)

Darllen mwy yma

Read More

Cronfa arloesi o hyd at £50k i helpu i gynyddu lefelau gweithgarwch ymhlith menywod ifanc a merched

Location: Gogledd Cymru | Start Date: 23 Hydref

Summary:

Rydym yn gwahodd sefydliadau i weithio gyda ni ac i wneud cais am gefnogaeth o’n Cronfa Arloesi o hyd at £50,000 ar gyfer prosiectau yng Ngogledd Cymru i gynyddu’r nifer o ferched ifanc a genethod sy’n actif bob dydd.

Darllen mwy

Read More

Rhaglen Llesiant 6 wythnos Creu Cymru

Location: Ar lein | Start Date: 03rd Mis Hydref 2024

Summary:

Byddwn yn gorchuddio ‘Deall Llesiant’, ‘Magu Cadernid’, ‘Straen a Gorbryder’, ‘Hunanofal’, 'Rhoi Hwb i'ch Hyder’ and ‘Creu Eich Pecyn Cymorth Llesiant'.

Mwy o wybodaeth yma

Read More

Cyfarfod Rhwydwaith Heneiddio Creadigol, Mis Medi 2024

Location: Ar Lein | Start Date: Dydd Llyn 19 Mis Medi

Summary:

Ymunwch â ni yn y cyfarfod rhwydwaith chwarterol i gysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill yn y maes a chlywed am yr amrywiol brosiectau heneiddio sy’n digwydd ledled Cymru.

Tocynnau Yma

Read More

Economi Llesiant Cymru: Gwyl Syniadau

Location: Arena Abertawe | Start Date: Dydd Llun 18 Mis Tachwedd

Summary:

Mae 4theRegion, Economi Llesiant Cymru, Oxfam Cymru, Cwmpas a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn trefnu cynhadledd gyntaf erioed Economi Llesiant Cymru ym mis Tachwedd 2024.

Read More

Age Cymru: Prosiect Eiriolaeth ementia

Location: Cymru

Summary:

Mae ein prosiect eiriolaeth dementia annibynnol yn ymwneud â galluogi pobl sydd a diagnosis o ddementia i gael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth y mae eu hangen arnynt a chael llais mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Mae’r prosiect yma i’w cefnogi gyda sefyllfaoedd lle gallent gael eu cam-drin ac angen dod o hyd i ffordd o ddiogelu eu hun. Bydd yr eiriolaeth rydyn ni'n ei gynnig yn annibynnol o unrhyw wasanaeth arall y mae pobl sy'n byw gyda dementia yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y bydd yr unigolyn â dementia wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a gallwn eu cefnogi a'u cynrychioli heb unrhyw wrthdaro buddiannau.

Mwy o Gwybodaeth Yma

Read More

Datganiad gwrth-hiliaeth

Location: Online

Summary:

Yn dilyn yr achosion erchyll o hiliaeth a thrais a welwyd yn ddiweddar yn y DU, rydym ni wedi bod yn myfyrio ar ein hymateb fel sefydliad sy’n cefnogi’r sector.

Read More

The Body Hotel: Ystafell Hunanofal

Location: Velindre | Start Date: 14 Medi

Summary:

Bydd yr elusen yn cynnal gweithdai gyda’r timau therapïau yn Felindre, gan ganolbwyntio ar ofal lliniarol. Fel rhan o'r cyllid, mae’r Body Hotel hefyd yn agor gweithdai hunanofal misol ar gyfer y gymuned ehangach.

Read More

MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles) yn USW

Location: Caerdydd

Summary:

Mae Dr Thania Acarón wedi’i henwi’n Arweinydd Cwrs ar gyfer y radd MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles) ym Mhrifysgol De Cymru. Dymunwn ymddeoliad hapus i Carol Hiles, cyn-arweinydd y cwrs! Os oes gennych ddiddordeb
mewn dyfnhau eich ymarfer celf ac adeiladu cymuned gydag ymarferwyr eraill, beth am wneud cais ar gyfer y radd MA ran- amser hon, sy’n 18 mis o hyd?

Mwy o gwybodaeth yma

Read More

Ysgogwyr Newid

Location: Wales | Start Date: 15/08/2024

Summary:

Mae Age Cymru'n enwebu Karl Jenkins am wobr 'Ysgogwr Newid' i gydnabod ei waith yn herio stereoteipiau am bob hŷn. Mae'r cyfansoddwr o Ŵyr yn gwthio ffiniau cerddorol yn 80 oed.

Read More

Amgueddfa Cymru Galwad am artistiaid i gyflwyno gweithdai i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia

Location: Cenedlaethol – ar draws saith amgueddfa, Amgueddfa Cymru

Summary:

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am bobl greadigol i ddatblygu a chynnal sesiynau arloesol a deniadol i gyfoethogi’r rhaglen o waith o gwmpas Dementia

Read More

Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol 2024

Location: Glamorgan Cricket Club, Caerdydd | Start Date: 15 - 16 Mis Hydref 2024

Summary:

Bydd y digwyddiad eleni yn archwilio'r thema, 'Sut i wneud mwy, gyda'n gilydd'. Bydd cyfleoedd i rannu enghreifftiau o sut, boed drwy bartneriaethau arloesol ar draws y sector preifat a'r trydydd sector, neu drwy weithio gyda darparwyr technoleg mewn ffyrdd creadigol a arloesol, y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod ein hadnoddau yn cael yr effaith fwyaf ystyrlon ar yr unigolion a'r cymunedau ledled Cymru.

Tocynnau yma

Read More

Ysgogwyr Newid

Location: Wales | Start Date: 24/07/2024

Summary:

Rydyn ni’n arddangos pobl hŷn sydd wedi herio stereoteipiau heneiddio, neu sydd ar flaen y gad yn eu meysydd. Ydych chi’n nabod rhywun dros 50 oed sydd wedi gwneud gwahaniaeth i chi, yn lleol, neu yng Nghymru? Beth am eu henwebu nhw a disgrifio sut maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth.

Read More

Caerfyrddin: Byddwch yn rhan o Sqwrs Genedlaethol Hapus

Location: Caerfyrddin | Start Date: 9 Awst 2024

Summary:

Ymunwch â Hapus am weithdy AM DDIM i roi cynnig ar fod yn greadigol a darganfod ffyrdd eraill y gallwch chi amddiffyn a gwella eich lles meddyliol.

Read More

Merthyr Tudful: Byddwch yn rhan o Sgwrs Genedlaethol Hapus

Location: Merthyr Tudful | Start Date: 8 Awst 2024

Summary:

Ymunwch â Hapus am weithdy AM DDIM i roi cynnig ar fod yn greadigol a darganfod ffyrdd eraill y gallwch chi amddiffyn a gwella eich lles meddyliol.

Read More

Cyfarth Cyfnos, Harddangosfa yn Turner House

Location: Turner House | Start Date: 25 Gorffenaf - 1 Medi

Summary:

Cydweithrediad rhwng Arcade Campfa, cleifion, staff, a chwn therapi yn Uned Iechyd Meddwl Hafan Y Coed. 

Read More

Wrecsam: Byddwch yn rhan o Sawrs Genedlaethol Hapus

Location: Wrecsam | Start Date: 7 August 2024

Summary:

Ymunwch â Hapus am weithdy AM DDIM i roi cynnig ar fod yn greadigol a darganfod ffyrdd eraill y gallwch chi amddiffyn a gwella eich lles meddyliol.

Read More

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn chwilio am Uwch Swyddog Cefnogi Prosiect Celfyddydau mewn Iechyd PT

Location: Mold neu Llanfairfechan

Summary:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn chwilio am Uwch Swyddog Cefnogi Prosiect Celfyddydau mewn Iechyd brwdfrydig, deinamig a hunan-gymhellol, i fod yn rhan o'i dîm Celfyddydau mewn Iechyd ar gyfnod penodol/secondment rhan-amser tan 31 Mawrth 2025.

Read More

Y Gelfyddyd o Edrych Arnom Ein Hunain

Location: Llanrwst, Gwynedd | Start Date: 31fed Orffennaf 2024

Summary:

Bydd y digwyddiad tridiau hwn yn cyflwyno’r rhaglen meddwlgarwch 'Dod i’n Synhwyrau' trwy fewnwelediadau unigryw gan arbenigwyr profiadol mewn Theatr Cyd-destynnol, a thrwy ddarganfod sut y gall mannau naturiol fod yn drawsnewidiol ar gyfer lles a meddwlgarwch.

Read More

Comisiwn Artistiad gyda People Speak Up, Llanelli

Location: Llanelli | Start Date: 10 Gorffenaf 2024

Summary:

Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i newid hunaniaeth y tir a'r waliau allanol a'r ffiniau trwy greu darn o gelf / gweithiau celf a fydd yn ail-adrodd stori'r adeilad. Rydym am chwalu rhwystrau i fynd i mewn i'r Ffwrnes Fach. Ni allwch weld i mewn i'r adeilad felly rydym am ddangos i bobl beth y gallant gymryd rhan ynddo trwy gynrychioli cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu, ein gwerthoedd a'r hyn y gallwch ddisgwyl ei ganfod y tu mewn, ar flaen yr adeilad. Ffi: £5,500. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024.

Read More

Crefftwyr Campus Galw ar Wneuthurwyr Conwy

Location: sir Conwy | Start Date: Yn ystod y gwyliau haf

Summary:

‘Crefftwyr Campus’ yw thema Sialens Ddarllen yr Haf eleni ac mae’n ymwneud â bod yn GREADIGOL. Mae Creu Conwy yn chwilio am Artist-wneuthurwyr i gynnal bloc o sesiynau ½ diwrnod ym mhob un o’n Llyfrgelloedd Ardal ar y diwrnodau canlynol dros 5 wythnos:

Read More

Cydlynydd Prosiect am Newid Meddyliau, Archifdy Sir Gâr

Location: Sir Gâr

Summary:

Mae Archifdy Sir Gâr yn dymuno comisiynu Cydlynydd Prosiect ar gyfer ei brosiect Newid Meddyliau a ariennir gan y Celfyddydau, Diwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru.

Read More

Move 2 Health - Oriel Yr Aelwyd

Location: Llawr Daear, Ysbyty Athrofaol Llandochau, CF64 2XX | Start Date: 17 Mehefin - 29 Gorffenaf 2024

Summary:

Arddangosfa sy'n canolbwyntio ar y rhaglen 'Move 2 Health' a gyfwynir gan Rubicon Dance. Yn amlygu'r pwynsigrwydd a'r effaith o ddarparu sesiynau symud hygarch ac addasadwy ar y adef a'r lle cywir, gan gefnogi pobll mewn gwahanol gyfnodau o'u taith iechyd.

Ar agor bob dydd 9am - 8pm.

Read More

Gronfa Sbarduno I'r Celfyddydau - Gwynedd

Location: Gwynedd | Start Date: 25 Mehefin 2024

Summary:

Treialu ffyrdd newydd a chreadigol o weithio yng Ngwynedd Grantiau or £2000 ar gael i ymarferwyr creadigol. Cysylltu a celf@gwynedd.llyw.cymru. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 25ain o Fehefin 2024.

Read More

Rheolwr Prosiect Celfyddydau Mewn Iechyd Rhan-amser (Band 6) - BIP Bae Abertawe

Location: Abertawe

Summary:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) yn chwilio am Reolwr Prosiect Celfyddydau Mewn Iechyd profiadol a brwdfrydig.

Read More

Cysylltu a Ffynnu Pobl Greadigol Llawrydd

Location: Conwy | Start Date: Gorffennaf 2024 - Rhagfyr 2024 (efallai y gellir ei ymestyn)

Summary:

Rydym yn chwilio am Unigolion Creadigol arloesol o gymunedau Cymraeg, a chymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd a lleiafrifol, i’n helpu i ddarparu prosiect Cysylltu a Ffynnu/ Connect & Flourish a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sydd yn brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Menter Iaith Conwy, Race Council Cymru a Venue Cymr

Read More

Chwilio am Artistiaid Lleol i Ddylunio Gwobrau ar gyfer Gwobrau Cymunedau Bywiog DLL

Location: Denbighshire

Summary:

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) yn chwilio am artist proffesiynol neu artist ar gychwyn ei yrfa i ddylunio a chreu 12 gwobr ar gyfer Gwobrau Cymunedau Bywiog.

Read More

Opera Cenedlaethol Cymru Cais am Gynigion ar gyfer Dadansoddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad SROI

Location: Ar-lein

Summary:

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gwahodd cynigion gan sefydliadau neu unigolion sydd â chymwysterau addas i gynnal dadansoddiad cynhwysfawr o Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) ar gyfer ein rhaglen Lles gyda WNO.

Read More

Digwyddiadau Profiad Bywyd Iechyd Meddwl AaGIC

Location: Cymru | Start Date: 4 Mehefin - 16 Gorffenaf

Summary:

Bydd y digwyddiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth o gamau gweithredu Profiad Bywyd (cam gweithredu 18 a 19 o gynllun gweithlu iechyd meddwl strategol AaGIC ) trwy weithgareddau ymgysylltu lleol i gefnogi Cymorth Cymheiriaid, y Coleg Adfer a chydgynhyrchu. Byddwn yn darparu diweddariadau o adnoddau, sesiynau 'Sut i' a chymorth i baratoi timau ar gyfer rhoi'r camau gweithredu ar waith. 

Tocynnau yma

Read More

Ar Y Dibyn - Pwllheli

Location: Swyddfa Gisda, 25 Gaol St, Pwllheli LL53 5DB | Start Date: 3 June - 15 July, 12.30-14.00

Summary:

'Os dwi’n teimlo’n fregus, dyma’r lle y galla i neud synnwyr o betha. Mae fy mreuder yn cael ei ddallt yn iawn.’

Mae Ar y Dibyn yn lle ddiogel i unigolion sydd wedi eu heffeithio gan ddibyniaeth i ddod at ei gilydd i chwarae gyda syniadau’n greadigol.

Cysylltwch gyda Nia am fwy o wybodaeth: niawynskyrme@gmail.com

Read More

Ar Y Dibyn - Maesgeirchen, Bangor

Location: Canolfan Cymunedol a Ieuenctid Maesgeirchen, Bangor | Start Date: 6 June - 11 July, 12.30-14.00

Summary:

'Os dwi’n teimlo’n fregus, dyma’r lle y galla i neud synnwyr o betha. Mae fy mreuder yn cael ei ddallt yn iawn.’

Mae Ar y Dibyn yn lle ddiogel i unigolion sydd wedi eu heffeithio gan ddibyniaeth i ddod at ei gilydd i chwarae gyda syniadau’n greadigol.

Cysylltwch gyda Nia am fwy o wybodaeth: niawynskyrme@gmail.com

Read More

Ar Y Dibyn - Llangefni

Location: Canolfan Glanhwfa, Llangefni, LL77 7QX | Start Date: 7 June - 19 July, 12.30-14.00

Summary:

'Os dwi’n teimlo’n fregus, dyma’r lle y galla i neud synnwyr o betha. Mae fy mreuder yn cael ei ddallt yn iawn.’

Mae Ar y Dibyn yn lle ddiogel i unigolion sydd wedi eu heffeithio gan ddibyniaeth i ddod at ei gilydd i chwarae gyda syniadau’n greadigol.

Cysylltwch gyda Nia am fwy o wybodaeth: niawynskyrme@gmail.com

Read More

Creadigrwydd mewn Natur, Diwrnod Celf Amgylcheddol - Golygfa Gwydyr

Location: Caerdroia, Coedwig Gwydyr | Start Date: 23 Mis Mai, 10yb - 3yp

Summary:

Ymunwch a ni a chael ich ysbrydoli i greu gyda'r ddeunyddiau natriol sydd ar gael yn Caerdoia, Coedwig Gwydyr. 

Booking essential. Call for more information: 01492 642 110

Read More

Cyfleoedd Mentora i Ymarferwyr Creadigol - Camu i Mewn

Location: Cymru | Start Date: 15 Mis Mai

Summary:

Rhaglen hyfforddi a mentora gyffrous ar gyfer carfan o 4 mentai-ymarferwr creadigol o gymunedau lleiafrifedig yng Nghymru yw 'Camu i Mewn'.

Contact: stepping@wahwn.cymru

Read More

Natur am Byth! 10 Cyfle Preswyliad i Artistiaid Cyswllt

Location: Cymru | Start Date: 5pm, 24th May 2024

Summary:

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid, gwneuthurwyr, dylunwyr a phobl greadigol eraill sydd â dull cydweithredol a chyfranogol o weithio, a diddordeb mewn cyfathrebu materion ecolegol ehangach, i ymgymryd â phreswyliadau artist cyswllt fel rhan o Raglen Ymgysylltu drwy’r Celfyddydau Natur am Byth, sef prosiect cydweithredol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), naw elusen amgylcheddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Addo, ac fe’i hariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mwy o gwybodaeth yma

Read More

Rheolwr Rhaglen Llawrydd ar gyfer Camu i Mewn  

Location: croesryw | Start Date: Ebrill 2024

Summary:

Mae WAHWN yn chwilio am Reolwr Rhaglen llawrydd rhagorol yng Nghymru â phrofiad o oruchwylio a chyflenwi prosiectau aml-bartner, hyfforddiant neu raglenni mentora. 

Read More

Elusen y Celfyddydau a Lles, Inside Out Cymru, yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd

Location: Gwent

Summary:

Drwy ddod yn aelod o’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, gallwch helpu i lywio’r prosiect yn ei flaen, dysgu mwy am faes y celfyddydau ac iechyd, a datblygu arfer a chysylltiadau o fewn y sector hwn.

Read More

Gweinyddydd Cynorthwy ydd Personol i'r Cyfarwyddydd Artistig a Busnes

Location: Llanelli | Start Date: Ebrill

Summary:

Oriau gwaith: 15 awr yr wythnos – 3 awr y dydd o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Mae'r amseroedd yn hyblyg ond rhaid iddyn nhw fod rhwng ein horiau craidd – 9 tan 5.

Read More

Cynllun Grant Cymunedol HSDdCyf - Rwnd 2

Location: Online | Ar Lein | Start Date: 22/01/2024

Summary:

Bydd Cynllun Grantiau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych yn fodd i sefydliadau bach fel clybiau chwaraeon lleol a grwpiau celfyddydol i ymgeisio am gyllid i ariannu celfyddydau lleol, gweithgareddau diwylliannol a chreadigol a chyfleusterau chwaraeon i gynnal twrnameintiau a thyfu timau a chynghreiriau newydd.

Mwy o gwybodaeth yma

Read More

Galw ar Artistiaid - Creu Conwy Cymunedol

Location: Conwy | Start Date: January 2024

Summary:

Rydym yn chwilio am hwyluswyr celfyddydau cymunedol i helpu cyflwyno Creu Conwy Cymunedol, sef gweithdai dan arweiniad artistiaid mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol.

Diwylliant Conwy | Cyfleoedd Presennol 

Read More

Prosiect Cwilt Cymunedol

Start Date: Ion 2024

Summary:

Read More

Comisiwn Artist - Lle ar gyfer Geni

Location: Ysbyty Castell Nedd Port Talbot | Start Date: 15/01/2024

Summary:

Nod y prosiect yw cyfoethogi’r amgylchedd gofal iechyd yn y Ganolfan Geni yn ysbyty Castell Nedd Port Talbot drwy gyd-greu a gosod gwaith celf 2D ar wal.

Read More

cyfleoedd i artistiaid

Location: Sir Ddinbych | Start Date: Ebrill 2024

Summary:

DLL logo Mae tîm Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn awyddus i benodi nifer o artistiaid a chyfranogwyr creadigol llawrydd, gan weithio ar draws amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol, i gyflawni prosiectau celfyddydau cymunedol ledled Sir Ddinbych

Read More

Cais Tendr Ysbytai Cerdd

Location: Ysbyty Castell Nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe | Start Date: 2023

Summary:

Byddwn hefyd yn adeiladu fframwaith o gerddorion o safon ryngwladol gyda detholiad amrywiol o gerddorion lleol i ddarparu ar gyfer ystod eang o anghenion a diwylliannau, gan gynnwys cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg a cherddoriaeth i adlewyrchu ein grwpiau amrywiol o gleifion a staff. Bydd y grwpiau a'r cerddorion hyn yn rhan o'n cyfres gyngherddau newydd, a gynhelir yn Atriwm Ysbyty Castell Nedd.

Read More

CYSYLLTU

Location: Pontio, Bangor | Start Date: 14.01.24

Summary:

Ymunwch â ni yn

Pontio Bangor

ar ddydd Sul 14 Ionawr 2024

6-8 p m

Ac

ymgolli mewn symudiad, clai, ffilm, paent a sain wrth i ni rannu ein prosiect unigryw a chyffrous.

Read More

Ymarferydd Creadigol - Ysgolion Creadigol Arweiniol

Location: Ysgol y Bannau - Brycheiniog | Start Date: Ionawr 2024

Summary:

Mae Ysgol y Bannau yn awyddus i ddatblygu ei hadnodd awyr agored diweddaraf: Llwyfan Llafar. Mae’r llwyfan yn adlewyrchu nod yr ysgol i feithrin sgiliau llafaredd ac mae’r ysgol am recriwtio Ymarferydd iaith Gymraeg i ddatblygu prosiect wedi’i ysbrydoli gan y llwyfan i ddysgwyr Blwyddyn 2 a 3.

Read More

Cymerwch Ran

Location: Llandudno | Start Date: 2023

Summary:

Cymerwch Ran : Ymarferydd a pherfformiwr yn galw allan

Read More

Hwylusydd Prosiectau Creadigol

Location: Llanelli | Start Date: 2023

Summary:

Cyflog: £22,500 pro rata

Gweithio 22.5 awr yr wythnos (0.6 o gyflog amser llawn - cyfwerth â £13,500)

Cyfnod penodol tan ddiwedd Mawrth 2024

Read More

Cynhyrchydd Creadigol – Arwyddion Cyrchfan Creu Conwy

Location: Conwy

Summary:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwahodd ceisiadau gan unigolion / sefydliadau â phrofiad perthnasol i ddatblygu (o’r cysyniad i’r gosod) arwyddion effeithiol sy’n dathlu’r Gymraeg a’r synnwyr o le.

Read More

Disgrifiad o Rôl Cynrychiolydd Cleifion

Location: Bronglais | Start Date: 2023

Summary:

Ar gyfer Grŵp Gorchwyl a Gorffen Celf Gyhoeddus Bronglais Fel rhan o’n cynlluniau ar gyfer datblygu Uned Ddydd Cemotherapi newydd sy’n addas i’r diben yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, rydym yn gweithio gyda Thîm Celfyddydau ac Iechyd Hywel Dda i integreiddio celf gyhoeddus yn yr uned newydd. Disgrifiad o Rôl Cynrychiolydd Cleifion 

Read More

Comisiwn Hunaniaeth Weledol

Location: Uned Trin Canser Bronglais | Start Date: 2023

Summary:

Cyfres o weithiau celf bwrpasol i greu hunaniaeth weledol gyffredinol ar gyfer Uned Trin Canser Bronglais ac i gyflawni’r weledigaeth a rennir ar gyfer rôl gwaith celf yn yr uned i dynnu ar amgylchedd hardd Gorllewin Cymru i helpu i feithrin ein cleifion.

Read More

Comisiwn y Fynedfa

Location: Uned Trin Canser Bronglais | Start Date: 2023

Summary:

Comisiwn y Fynedfa

Prosiect Uned Trin Canser newydd Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth. Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 5pm ar 10 Hydref 2023

Read More

MWY

Location: Porthi Dre, Caernarfon | Start Date: 11th July 2023

Summary:

Mwy

Dychmygu, creu a byw yn fwy

Prosiect creadigol i ferched dros 18 oed i hyrwyddo llesiant yn y Gymraeg yn Porthi Dre, Caernarfon hefo Sioned Medi Evans a Iola Ynyr.

Read More

Gŵyl Gwanwyn

Location: Wales | Start Date: 1 Mai 2023

Summary:

Ers 2007, mae Gwanwyn wedi gweithio gydag artistiaid a sefydliadau o bob math i hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau yn ymwneud â’r celfyddydau, o Bollywood i glybiau llyfrau.

Read More

Dos o Gelf – Galwad am artistiaid

Location: Hywel Dda UHB

Summary:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dymuno comisiynu artist i greu darn o gelf pwrpasol sy’n anrhydeddu ymdrechion anhygoel staff gofal iechyd a
gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar draws rhanbarth Hywel Dda drwy gydol pandemig COVID 19 ac sy’n dathlu llwyddiant y Rhaglen Frechu ar draws Hywel Dda

Read More

Hwb Celf/Datganiad o ddiddordeb - Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd)

Location: Suth Gorllewin Cymru | Start Date: Ionawr 2022

Summary:

BIPHDd yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan fudiadau celfyddydol i ddatblygu a darparu Hwb Celf; rhaglen beilot y celfyddydau ym maes iechyd meddwl a fydd yn para am flwyddyn, ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw ag anhwylderau bwyta, hunan-anafu, hwyliau isel a/neu sy'n meddwl am hunanladdiad.

Read More

Chwilio