Opportunities & Events
Gwehyddu 2025, Galwad am Wirfoddolwyr
Location: Wrecsam | Start Date: Dyddiad Cau: canol dydd ar 6 Awst
Summary:
Fel rhan o’r gynhadledd Celfyddydau ac Iechyd genedlaethol 2025, rydyn ni’n chwilio am 6-8 o wirfoddolwyr i ymuno â thîm y staff fel Cynorthwywyr i’r Digwyddiad ym Mhrifysgol Wrecsam ar 8 a 9 Medi. Dyddiad Cau: canol dydd ar 6 Awst
Content:
Fel rhan o’r gynhadledd Celfyddydau ac Iechyd genedlaethol 2025, rydyn ni’n chwilio am 6-8 o wirfoddolwyr i ymuno â thîm y staff fel Cynorthwywyr i’r Digwyddiad ym Mhrifysgol Wrecsam ar 8 a 9 Medi.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio anfonwch eich CV ac ebost gan ddisgrifio:
- Pam fod gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn Gwehyddu
- Pa fudd fyddech chi’n ei gael o wneud hyn
- Pa sgiliau/profiad fyddech chi’n dod gyda chi
Ebostiwch hwn at Tracy, Rheolwr Rhaglen Gwehyddu - events@wahwn.cymru - erbyn canol dydd ar 6 Awst.
Caiff ymgeiswyr eu hysbysu am y canlyniad ar 7 Awst.
Cynorthwyydd Digwyddiad Gwehyddu – Disgrifiad Rôl
Mae Cynorthwywyr Digwyddiad yn chwarae rhan bwysig yn creu profiad cyfeillgar, difyr ac addysgiadol i gynrychiolwyr sy’n dod i Gwehyddu. Mae’r Cynorthwywyr Digwyddiad Gwirfoddol yn rhan allweddol o’r tîm - dim ond 4 aelod o staff sydd gan WAHWN, felly bydd y gwirfoddolwyr yn fwy na dyblu ein gallu i groesawu a gofalu am y cynrychiolwyr yn y digwyddiad.
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
- Helpu i drefnu lleoliad y digwyddiad a’r gweithgareddau drwy osod byrddau, cadeiriau, arwyddion ac offer
- Croesawu’r ymwelwyr yn gynnes
- Esbonio’r digwyddiad neu’r gweithgaredd fel bod ymwelwyr yn gwybod ble i fynd a beth sydd ar gael
- Helpu ar y ddesg gofrestru
- Dyletswyddau stiwardio cyffredinol
Ble fyddwch chi:
- Bydd mannau allweddol yn cael eu neilltuo i chi ofalu amdanyn nhw bob dydd - o leiaf un gwirfoddolwr ym mhob lle.
Ymrwymiad Amser:
- Dydd Llun 8 Medi - cyrraedd 9am (y digwyddiad yn dechrau am 11.15am, ac yn gorffen am 5.30pm)
- Dydd Mawrth 9 Medi - cyrraedd 8.30am (y digwyddiad yn dechrau am 9am, ac yn gorffen am 4.30pm)
- Ymsefydlu: 1 awr ar-lein
Nodweddion a Sgiliau angenrheidiol:
- Cyfeillgar
- Trefnus
- Dibynadwy
- Digyffro
- Cyfathrebwr da
- Unigolyn dwyieithog – Cymraeg a Saesneg – yn ddymunol
- Bydd rhai Ystafelloedd Trafod yn defnyddio taflunydd/gliniadur – bydd sgiliau TG i oruchwylio hyn yn ddefnyddiol
Hyfforddiant a chefnogaeth:
Bydd aelod o staff WAHWN yn cynnal sesiwn ymsefydlu ar-lein ym mis Awst. Caiff y sesiwn ei hailadrodd ddwy waith os bydd angen er mwyn i bawb allu dod. Dyddiadau i’w cadarnhau. Mae’n hanfodol fod pob gwirfoddolwr yn ymgymryd â’r ymsefydlu.
Costau Teithio:
Cewch hawlio hyd at £50 o ad-daliad costau teithio. Bydd angen i chi gyflwyno anfoneb gyda’ch manylion banc am y cyfanswm ar ôl y gynhadledd.
Ystyriaethau ymarferol:
- Bydd angen i chi wisgo Crys-T Gwehyddu ar y ddau ddiwrnod (byddwn ni’n darparu’r rhain)
- Byddwch yn aros mewn un ardal benodol am hyd at 1.5 awr ar y tro
- Bydd amseroedd egwyl yn cael eu neilltuo i chi er mwyn sicrhau bod rhai gwirfoddolwyr ar ddyletswydd drwy’r amser
- Bydd angen i chi gwblhau tasgau ymsefydlu sylfaenol cyn dod, megis darllen yr asesiad risg, ymgyfarwyddo â’r rhaglen ac ati.