Opportunities & Events
Frân Wen - Penwythnosau Stiwdio Lles
Location: Nyth, Ffordd Garth, Bangor
Summary:
Dewch i brofi penwythnos llawn creadigrwydd, cyfeillgarwch a lles yn Y Stiwdio Lles.
Content:
Mae’r sesiynau creadigol gyda cherddorion, artistiaid, ‘sgwennwyr a pherfformwyr wedi eu cynllunio i helpu ddelio efo gorbryder, diffyg hyder ac unigrwydd.
Mae’r penwythnosau yn rhan o brosiect Y Stiwdio Lles sy’n cynnig gofod croesawgar a diogel i oedolion ifanc rhwng 18-30 oed gymryd rhan mewn sesiynau creadigol.
Deuddydd cyfan o weithgareddau
Bydd y penwythnosau yn cael eu hwyluso gan yr artistiaid proffesiynol canlynol: Casi Wyn , Mirain Fflur, Robin Edwards, Mari Gwent ac Elgan Rhys.
Pa bryd mae’n digwydd?
14-15/06/25 | Sad - Sul | 10am - 3pm | gyda Casi, Robin, Mari + Elgan
28-29/06/25 | Sad - Sul | 10am - 3pm | gyda Robin, Mari, Mirain + Elgan
Yn lle?
Mae’r sesiynau yn anffurfiol ac am ddim ac yn digwydd yng nghartref Frân Wen yn Nyth, Ffordd Garth, Bangor.
Sut i gofrestru?
Cliciwch ar y linc yma i gofrestru
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y cyfle hwn. Wrth gofrestru, bydd gennyt ti gyfle i nodi unrhyw anghenion mynediad.
Eisiau gwybod mwy?
Os hoffet sgwrs am y sesiynau neu os am ymweld â Nyth o flaen llaw, cysyllta efo Elgan drwy:
☎️ 01248 715 048
???? elgan@franwen.com
???? neu galwa heibio Nyth am sgwrs!
Bydd y sesiynau yn cael eu rhedeg yn ddwyieithog, yn Gymraeg a’r Saesneg.
Mae Y Stiwdio Lles yn bartneriaeth rhwng Frân Wen a Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth gan Meddygfa Bodnant Bangor ac Adran Llesiant Myfyrwyr Prifysgol Bangor.