Opportunities & Events

Galwad: Hywel Dda - Rhaglen Cydweithredol Creadigol Llesiant Staff 2025

Location: Hywel Dda UHB | Start Date: Dyddiad cau: 23/04/2025

Summary:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ceisio cynigion gan artistiaid/ymarferwyr creadigol profiadol ar gyfer darparu cyfres o weithgareddau creadigol ar-lein bob 6 wythnos er lles staff.

Content:

Bydd y ddarpariaeth yn rhan o’n rhaglen o weithgareddau creadigol ar gyfer lles staff. Wedi’i gyflwyno drwy ein Celfyddydau Ar y Cyd – cymuned ar-lein garedig a diogel o staff gofal iechyd sydd â diddordeb mewn creadigrwydd ar gyfer llesiant.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am:

  • Cynigion cyfres 6 wythnos o weithgareddau creadigol ar gyfer lles staff gofal iechyd
  • Yn digwydd yn wythnosol, yn para hanner awr ac yn cael ei gynnig ar ddiwrnod, amser a dyddiad sy'n gyfleus i staff
  • Yn cynnig amrywiaeth o ffurfiau celf a phrofiadau celfyddydol
  • Darparu gweithgareddau sy’n hybu’r defnydd o’r celfyddydau i ofalu, gorffwys, myfyrio, a chodi ysbryd
  • Yn ddelfrydol gellir ei gyflwyno'n ddwyieithog
  • Gellir ei gyflawni trwy lwyfan ar-lein Hywel Dda, Microsoft Teams
  • Nid oes angen unrhyw ddeunyddiau neu ddeunyddiau cyfyngedig a allai fod gan unrhyw un wrth law (er enghraifft - papur, pensil a/neu feiro)
  • Galluogi dull ‘galw heibio’ i staff gofal iechyd

Rydym yn chwilio am artistiaid sy’n gallu gweithio ar y cyd â Thîm Celfyddydau ac Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu cyfrwng creadigol deniadol i staff gymryd amser i ffwrdd o’r rolau pwysau uchel traddodiadol er mwyn arbrofi, dysgu a rhannu syniadau drwy’r celfyddydau a diwylliant.

Rydym yn awyddus i hyrwyddo ‘dewis’ a chynnig dewis eang o weithgareddau creadigol i staff Hywel Dda sy’n addas ar gyfer ystod eang o chwaeth, diddordebau a galluoedd.

Ffioedd: £600 am 6 sesiwn ½ awr. Mae'r holl gostau ac amser paratoi wedi'u cynnwys

Ymhlith y themâu a awgrymir ar gyfer gweithdai mae:

  • Hunanofal, ymlacio, ymwybyddiaeth ofalgar, anadl, cymryd sylw
  • Atgof, myfyrio
  • Gofal/caredigrwydd, tosturi, iachâd
  • Seibiant, adferiad, adfywiad, ysbrydoliaeth
  • Amrywiaeth/hunaniaeth

Bydd aelod o’r Tîm Celfyddydau ac Iechyd yn bresennol drwy gydol y gweithdai i gefnogi’r artist a rhoi adborth pan fo angen.

Anfonwch gynigion byr (dim mwy nag 1 dudalen) at ein Gweinyddwr Celfyddydau ac Iechyd Gabrielle Walters – Gabrielle.Walters@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 23 Ebrill 2025, 5pm.

Rydym yn croesawu ac yn annog artistiaid i rannu eu CV’s ac enghreifftiau o’u gwaith (hyd at 5 delwedd), a dolenni i wefannau neu fformatau gweledol eraill.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y prosiect neu os hoffech drafod y briff yn fwy manwl, cysylltwch â:

Gabrielle.Walters@wales.nhs.uk 

Dyddiad cau: 23/04/2025

Search