Opportunities & Events

Gwaith ‘ar Sail Lle’ i Gefnogi Iechyd a Lles Ieuenctid yn Wrecsam a Chonwy

Location: Wrecsham, Conwy

Summary:

Cyfle i ddarparu cefnogaeth mewn dwy gymuned yn ardaloedd awdurdod lleol Wrecsam (Cefn Mawr a Gwersyllt) a Conwy (Llysfaen a Bae Cinmel)

Darllen mwy yma

Content:

Cyfle i ddarparu cefnogaeth mewn dwy gymuned yn ardaloedd awdurdod lleol Wrecsam (Cefn Mawr a Gwersyllt) a Conwy (Llysfaen a Bae Cinmel).

Yn gweithio ‘ar sail lle’ bwriad y prosiectau yw cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw yn y cymunedau yma yng Ngogledd Cymru i fod yn actif, gan wella eu hiechyd, lles a chydlyniant cymdeithasol.

Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan y cymunedau a chanolbwyntio ar roi’r pŵer iddynt helpu i ddatblygu atebion hirdymor a chynaliadwy i’w galluogi i fod yn actif bob dydd.

Rydym yn chwilio am geisiadau fydd yn arwain ar feysydd yn cynnwys:

  • Datblygu strategaeth
  • Mapio asedau
  • Ymgynghori ac ymgysylltu cymunedol
  • Gweithio ochr yn ochr â’r pobl sy’n byw yn y cymunedau
  • Datblygu a chynnal perthynas gadarnhaol gydag ystod eang o rhanddeiliaid allweddol
  • Ffurfio Grŵp Llywio lleol i gefnogi’r prosiect a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y ffordd hon o weithio
  • Gweithio’n agos gyda’r timau Actif perthnasol yn yr Awdurdodau Lleol (Wrecsam a Conwy)

Darllen mwy yma

Search