Opportunities & Events
Galwad agored i artistiaid Celfyddydau a Meddyliau ysgrifennwr creadigol a hwylusydd theatr
Location: Gogledd Cymru | Start Date: mis Hydref 2025
Summary:
Rydym yn awyddus i benodi artist profiadol gyda sgiliau mewn ysgrifennu creadigol, gwneud a hwyluso theatr i weithio gyda’r dynion mewn uned iechyd meddwl i ddynion sy'n oedolion i gynnal digwyddiad rhannu byw.
Content:
Crynodeb
Mae Celfyddydau a Meddyliau yn rhaglen 3 blynedd sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl drwy weithgareddau creadigol mewn Byrddau Iechyd dros Gymru gyfan. Yng Ngogledd Cymru, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweithio â chleifion a staff mewn uned iechyd meddwl i ddynion sy'n oedolion. Ar gyfer trydedd flwyddyn y prosiect, rydym yn defnyddio ysgrifennu creadigol, datblygu sgriptiau, ffilm, cerddoriaeth a dylunio i gynnal digwyddiad rhannu byw fel uchafbwynt i gyfnod ariannu'r prosiect. Rydym yn awyddus i benodi artist profiadol gyda sgiliau mewn ysgrifennu creadigol, gwneud a hwyluso theatr i weithio gyda’r dynion i gynnal digwyddiad rhannu byw.
Brîff y prosiect
Mae iechyd meddwl a llesiant meddyliol yn parhau i fod yn ganolbwynt ar draws y Bwrdd Iechyd a Chymru, gyda mwy o gyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl yn cael eu gwneud yn genedlaethol. Mae llawer o dystiolaeth ynghylch y celfyddydau ac iechyd meddwl a'r celfyddydau mewn carchardai (gweler Ymchwil Celfyddydau Iechyd Cymru – HARP – a Chynghrair Celfyddydau Cyfiawnder Troseddol Cenedlaethol) sy'n dangos effeithiolrwydd gweithgareddau celfyddydol ar draws ystod o ffurfiau creadigol (e.e., celf, cerddoriaeth, theatr, ffilm, dawns, ffasiwn), i bobl yn y carchar, ar brawf ac yn y gymuned. Ariennir y prosiect gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi ennill profiad a mewnwelediadau amhrisiadwy drwy’r rhaglen gelfyddydau uned diogelwch canolig fforensig yn Nhŷ Llewelyn.
Mae hyn wedi'i lunio gan werthusiadau annibynnol, yn ogystal ag adborth gan staff, artistiaid a chleifion. Mae hyn wedi cynnwys artistiaid preswyl drwy rap a bîtbocsio, animeiddio, celf amgylcheddol, ffotograffiaeth, ysgrifennu creadigol, celf graffiti a chanu. Ar gyfer trydedd flwyddyn y fenter hon, rydym yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â phopeth rydym wedi'i ddysgu a'i sianelu i gyfres o weithgareddau creadigol. Gweithgareddau creadigol sy'n pontio ar draws gweithgareddau unedau eraill sy'n mynd gyda’i gilydd i ffurfio'r seilwaith ar gyfer rhannu byw cymunedol ar y cyd ar ddiwedd y drydedd flwyddyn.
Datblygwyd syniad y prosiect hwn mewn partneriaeth â chleifion a staff yr uned, a gyda’n partneriaid i greu cynnig cyffrous ac ysgogol. Rydym yn awyddus i benodi ysgrifennwr creadigol a gwneuthurwr theatr sy’n meddu â’r sgiliau mewn hwyluso. Unigolyn sy’n gallu gweithio’n hyderus mewn uned iechyd meddwl diogelwch canolig gyda chleifion a staff, i annog cyfranogiad yn y prosiect a'i weithgareddau, ymateb i ddiddordeb ac anghenion cleifion, a sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel sy'n cefnogi anghenion y dynion sy'n profi heriau amrywiol o ran eu hiechyd meddwl. Yn anad dim, cyflwyno digwyddiad dathlu byw fel uchafbwynt y prosiect. Bydd yr artist yn ymgysylltu â chleifion a staff yn ystyrlon ac yn eu cynnwys ym mhob agwedd trwy ddull creu theatr - o ysgrifennu sgriptiau i gynhyrchydd llwyfan fel propiau a dylunio golygfeydd, a chyfarwyddo artistig.
Bydd y prosiect hwn yn galluogi cyfranogwyr i adeiladu ar eu gwaith tîm a bydd yn fodd i gyfrannu at eu sgiliau, eu creadigrwydd a'u gweledigaeth. Byddant yn gallu mynd i’r afael â llu o weithgareddau celfyddydol, gan gynnwys cerddoriaeth, canu, celfyddydau gweledol, cynhyrchu a pherfformio.
Bydd angen i'r artist weithio gydag ymarferwyr creadigol eraill sy'n ymwneud â'r prosiect i gydlynu profiad a dysg ar gyfer yr unigolion sy’n cymryd rhan. Bwriad y rhannu yw dod â’r dysgu ynghyd o bob rhan o'r prosiect, a dathlu cyflawniadau'r dynion, gan godi cydnabyddiaeth o'u hymgysylltiad hyd yma, ac edrych yn ôl ar eu profiad ar draws y prosiect. Y gobaith yw y bydd gweithgareddau creadigol yn dod yn rhan annatod o'r lleoliad, ac felly, mae'r prosiect a'r arddangosfa yn allweddol fel ffordd o ddangos pa mor bwysig yw parhau â’r gweithgareddau yn y dyfodol. Mae unedau diogelwch canolig yn darparu gofal a thriniaeth effeithiol, gan leihau risg. Maent yn hybu gwellhad ac yn cefnogi cleifion i symud trwy lwybr gofal i lefelau is o ddiogelwch neu er mwyn iddynt ailsefydlu eu hunain yn llwyddiannus yn y gymuned.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn amgylchedd diogel, gan gadw at y gweithdrefnau a’r protocolau i sicrhau amgylchedd clinigol sy’n ddiogel i bawb. Bydd angen i’r unigolyn llwyddiannus gyfathrebu’n rheolaidd â staff o’r tîm Celfyddydau ac Iechyd, er mwyn sicrhau bod arferion gorau yn cael eu dilyn, yn ogystal ag aelodau staff o'r uned.
Bydd angen asesu risg y gweithgareddau a bydd angen i staff yr uned roi eu sêl bendith arnynt ymlaen llaw. Dim ond gyda chymeradwyaeth a gwiriadau ar waith y gellir dod ag unrhyw ddeunyddiau i'r safle. Yn ystod ei amser y tu mewn i’r uned, bydd gan yr artist gwmni o leiaf un aelod o staff bob amser, a chaiff y staff sy'n bresennol ochr yn ochr â chleifion eu hannog i gymryd rhan er budd eu lles eu hunain. Sylwch, ni chaniateir ffonau symudol, allweddi nac eitemau personol. Mae cloeriau ar gael ar gyfer unrhyw eiddo personol.
Bydd gan yr artist gysylltiad rheolaidd â thîm y Celfyddydau mewn Iechyd ar gyfer unrhyw gymorth sydd ei angen. Mae'r prosiect yn cael ei werthuso'n annibynnol, ac felly bydd gofyn i'r artist a ddewisir gyfrannu at y gwerthusiad fel rhan o'r prosiect.
Nodau’r prosiect
- Gweithio mewn partneriaeth i ddarparu prosiect celfyddydol llwyddiannus mewn uned diogelwch canolig
- Sicrhau ymgysylltiad celfyddydol o ansawdd uchel sy'n ymateb i anghenion a diddordebau cleifion
- Hyrwyddo lles, iechyd da ac adferiad drwy’r celfyddydau a chreadigrwydd
- Gwella ansawdd y gwasanaeth
- Ymgysylltu â staff a chleifion
- Defnyddio arfer celfyddydau cyfranogol a chymunedol lle nad yw'r gwaith celf yn therapi, ond gall fod yn therapiwtig, gan gefnogi penderfyniad ehangach ar gyfer iechyd a lles, yn hytrach nag ymyrraeth therapi benodol
Allbynnau disgwyliedig
- Ymgysylltiad a phrofiadau datblygedig o'r celfyddydau trwy weithdai i gleifion mewn amrywiaeth o ffurfiau celfyddyd
- Profiad gwell i gleifion trwy feithrin hyder a chyfleoedd, cefnogi eu hwyliau a'u hiechyd, a chyflwyno sgiliau newydd
- Digwyddiad rhannu byw i'w gynnal o fewn yr uned ar gyfer gwesteion gwadd, gan gynnwys aelodau o'r teulu a staff.
Pwrpas hyn yw:
- Dathlu uchafbwynt y prosiect, y sgiliau a’r dysgu sydd wedi digwydd dros y tair blynedd ddiwethaf
- Codi hyder a gwybodaeth staff am werth y celfyddydau a chreadigrwydd
- Cefnogi datblygiad artistiaid drwy'r prosiect wrth geisio ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer gweithgareddau creadigol o fewn cyd
- Destunau iechyd meddwl a'r ffyrdd y gallwn annog a chefnogi artistiaid yn y lleoliad hwn.
Lleoliad: Ysbyty Bryn y Neuadd, Ffordd Aber, Llanfairfechan LL33 0HH
Cyfanswm y gyllideb/ffioedd
Mae'r gyllideb ar gyfer 12 diwrnod o waith rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2026, gyda pharatoad/trafodaeth o Hydref 2025, i'w gytuno gyda'r artist llwyddiannus. Dylai hyn gynnwys gweithdai, yr arddangosfa a sesiwn adrodd yn ôl. Fel arfer, cynhelir y sesiynau ar ddydd Gwener i fodloni anghenion clinigol ac anghenion eraill.
Dylai’r artist ddarparu ei ffioedd gan gynnwys TAW, yr holl ffioedd teithio a threuliau a’r deunyddiau, y gwaith paratoi a chyfarfodydd/ymweliadau â’r safle. Sylwch, cyllideb fach sydd ar gael ar gyfer celfi a dylunio – yn amodol ar gymeradwyaeth.
Dylai’r artist ddarparu dadansoddiad clir o'i ffioedd yn ôl y gyfradd ddyddiol. Sylwer efallai y bydd angen derbynebau arnom fel tystiolaeth o ddeunyddiau a brynwyd.
Dulliau/ffyrdd o drin a gofynion
Rydym yn awyddus i benodi artist gyda phrofiad mewn ysgrifennu creadigol, gwneud a hwyluso theatr. Dylai’r artist a benodir fod â phrofiad o weithio gyda phobl sy'n profi heriau iechyd meddwl, yn arbennig profiad sy'n berthnasol ar gyfer gweithio gyda chleifion mewn uned ddiogel. Bydd yr artist yn gweithio’n agos gyda staff yr uned, tîm y celfyddydau mewn iechyd, a phartneriaid/artistiaid celfyddydol eraill i ddarparu gweithgareddau celfyddydol/creadigol fel sydd wedi’u hamlinellu yn y brîff. Mae’n bosibl y bydd gofyn i’r artist gymryd rhan mewn gwerthusiad, ymarfer ystyriol, hyfforddiant neu ddatblygiad arall fel y cynghorir ym mrîff y prosiect.
Diogelu data a chyfrinachedd
Bydd y prosiect yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol BIPBC. Er mwyn sicrhau diogelwch holl gyfranogwyr a phartneriaid y prosiect gan gynnwys artistiaid, efallai y bydd gofyn i'r artist gytuno i gytundeb diogelu data a chyfrinachedd.
At ddiben y prosiect, a phe bai’r artist yn cydsynio, mae’n bosibl y gofynnir iddynt lofnodi ffurflen(ni) caniatâd i recordio ar fideo neu’n ffotograffig. Bydd yr artist yn rhoi sicrwydd i dîm y prosiect bod y safonau ansawdd uchaf ar gyfer y dulliau a ddefnyddir yn cael eu bodloni, gan gynnwys unrhyw nodau allweddol a gyflawnir.
O bryd i’w gilydd gall y tîm ofyn i artistiaid ddiwygio neu archwilio dulliau eraill i’w trafod o fewn cylch gorchwyl y prosiect.
Asesiad risg
Mae’n bosibl bydd gofyn i artistiaid ddarparu asesiad risg ar gyfer unrhyw weithgaredd a wneir gan gynnwys deunyddiau a ddefnyddir a/neu gellir gofyn iddynt gyfrannu at asesiad risg tîm neu wasanaeth ar gyfer y gweithgareddau. Mae’n bosibl y bydd angen i artistiaid addasu’r deunyddiau a ddefnyddir neu’r gweithgareddau, yn dibynnu ar y grŵp o gyfranogwyr a/neu’r lleoliad ac efallai y bydd angen iddynt gydymffurfio â phrotocolau lleol (e.e. rheoli heintiau, meddyginiaeth neu ofynion meddygol eraill).
Disgwyliadau
Gellir ychwanegu at neu newid yr adran hon yn ôl yr angen:
• 12 diwrnod o waith y dylid eu teilwra i'r cyfranogwyr, lleoliad a gofynion y prosiect
• Cynnig clir o'r hyn y bydd gweithgaredd yn ei gynnwys ynghyd â’i addasrwydd ar gyfer y grŵp o gyfranogwyr
• Darparu gweithgareddau sy'n meithrin hyder cyfranogwyr yn ystyrlon, yn gwella eu hwyliau, ac yn rhoi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd.
Yn ogystal â datblygu gwybodaeth artistig, a darparu mwynhad a datblygiad mewn celfyddydau a chreadigrwydd:
• Gweithio tuag at ddigwyddiad rhannu byw sy'n cyfoethogi profiad y cyfranogwr gyda'r prosiect hyd yma
• Annog ymgysylltiad staff a chleifion
• Darparu gwybodaeth amserol a diweddariadau ar y gweithgareddau fydd yn cael eu cynnal i dîm y prosiect a thrafod unrhyw newidiadau
Llinell amser y prosiect: Ceir llinell amser ar gyfer y broses ymgeisio ac amserlen prosiect arfaethedig isod.
Amserlen y cais a’r prosiect: Carreg filltir
Dyddiad Rhannu’r galwad agored 06/08/25
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion 05/09/25 am 5 pm BST
Llunio rhestr fer a phenderfynu 08-12/09/25
Contractio 15/09/25
Cyflawni’r prosiect gan gynnwys ymweliadau safle ac unrhyw hyfforddiant neu werthusiad gofynnol 01/10/25 (yn amodol ar gytundeb ar gyfer dyddiadau ac wythnosau penodol) paratoi/trafodaeth o Hydref 2025
Gweithdai Ionawr - Mawrth 2026
Arddangosfa Mawrth 2026
Cymhwysedd
Mae hon yn alwad agored i artistiaid sy'n gallu bodloni brîff y prosiect, yr hyn sydd i’w gyflawni, a'r amserlen.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Mae’r gallu i weithio mewn lleoliad diogelwch canolig yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Gofynnir i’r artist ddarparu tystiolaeth o’i statws DBS ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Sut i wneud cais
• Anfonwch eich datganiad o ddiddordeb i: BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk cyn 5pm BST ar 05/09/25
• Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad eich cais erbyn y dyddiad yn y llinell amser uchod
• Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect yn dechrau fel y nodir yn y llinell amser uchod
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r alwad agored, cysylltwch â ni drwy e-bost: BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk
Bydd tîm Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn ymdrechu i ymateb i'r ymholiadau hyn o fewn 3-4 diwrnod gwaith.
Dylai eich Datganiad o Ddiddordeb gynnwys:
• Datganiad byr yn nodi pam fod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn (500 gair ar y mwyaf), a'ch dulliau gweithredu cychwynnol
• 2 enghraifft o waith perthnasol yn y maes hwn, gallwch gynnwys dolenni i enghreifftiau ar-lein
• 2 argymhelliad (gallai hyn gynnwys dyfyniad byr neu fanylion cyswllt ond dylai ddatgan yn glir y gydberthynas rhyngoch chi a’r sawl sy’n eich cymeradwyo a’u gwybodaeth am eich gwaith chi)
• Dyfynbris ar bapur pennawd yn rhoi gwybod am eich costau.
Dylai’r uchod gynnwys cyfanswm o bedair tudalen ar y mwyaf neu ddewis cyfatebol arall ar ffurf sain/fideo
Dewisol:
• Eich CV Asesu ceisiadau Bydd eich cais yn cael ei asesu gan dîm partneriaeth y prosiect. Asesir cryfder y ceisiadau yn ôl y meini prawf isod: Y cais – cwrdd â brîff y prosiect
• Pa mor dda mae'r cais yn ateb y brîff
• Pa mor dda mae'r cais yn cyfleu'r gallu i gyflawni'r holl ofynion a chyflawniadau Cyllideb
• Dichonoldeb yn seiliedig ar y gyllideb a gyflwynwyd (os oes angen)
• Gwerth am arian Tîm y prosiect
• Gallu’r artist i roi sicrwydd ynghylch eu sefydlogrwydd a'u hyfywedd trwy gydol y prosiect
• Gallu'r artist i ddangos ei allu i weithio mewn partneriaeth ac i weithio gyda chyfranogwyr sy'n profi ystod o heriau iechyd meddwl a heriau iechyd eraill sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles Diogelu Data a Chydymffurfiaeth Risg
• Gallu'r artist i sicrhau cydymffurfiaeth data a chyfrinachedd
• Gallu'r artist i sicrhau prosesau asesu risg priodol Arweiniad pellach
Mae tîm y prosiect yn cadw’r hawl, gan weithredu’n rhesymol, i:
• Terfynu’r broses ddyfarnu os na cheir ceisiadau priodol;
• Newid yr amserlen ar gyfer caffael y Contract, ac mewn amgylchiadau o'r fath bydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn hysbysu pob ymgeisydd o unrhyw newid yn y modd cyflymaf posibl;
• Terfynu trafodaethau gydag artistiaid sy'n ymgeisio;
• Terfynu'r drefn sy'n arwain at ddyfarnu'r Contract;
• Peidio â dyfarnu unrhyw Gontract o gwbl o ganlyniad i'r broses hon Ni fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol mewn unrhyw fodd o ran unrhyw un o'r gweithredoedd hyn.
• Ni chaniateir unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â'r prosiect hyd nes y bydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig penodol i hynny ddigwydd. Ni ellir gwneud unrhyw ddatganiadau i unrhyw ran o’r cyfryngau ynglŷn â natur y cais hwn, ei gynnwys nac unrhyw gynigion, sy’n ymwneud â’r cais, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan bartneriaid y prosiect.
• Ni fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn ad-dalu unrhyw gostau yr eir iddynt gan artistiaid wrth baratoi eu ceisiadau.
• Os nad ydych yn sicr o ystyr cwestiwn neu unrhyw beth yn y gwahoddiad hwn i dendro yna cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gofyn i Gelfyddydau mewn Iechyd BIPBC i egluro yn ysgrifenedig drwy e-bost.
• Bydd BIPBC yn ymdrechu i ymateb i unrhyw ymholiadau o fewn 3-4 diwrnod gwaith. Gall Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC hefyd wrthod ateb cwestiwn os yw'n ystyried bod y cwestiwn yn amhriodol. Os na fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn gallu ateb cwestiwn, bydd hyn yn cael ei gyfleu.
• Mae Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn croesawu gofynion penodol ar gyfer cefnogi mynediad artistiaid i ymgymryd â chyflogaeth yn unol â chylch gorchwyl y prosiect a bydd yn cynnig cefnogaeth a goruchwyliaeth berthnasol fel sy'n briodol i'r prosiect.