Opportunities & Events
Yn galw ar artistiaid sefydliadau unigolion creadigol i greu brandio ar gyfer Gogledd Cymru Iach
Location: Golgledd Cymru | Start Date: Mai 2025
Summary:
Rydym yn chwilio am artist/sefydliadau/unigolyn creadigol i greu brandio ar gyfer Gogledd Cymru Iach yn gydweithredol ac yn rhyngweithiol - yn bortffolio arloesol o ddulliau anfeddygol i ymdrin ag iechyd a lles, a hynny i helpu pobl Gogledd Cymru i fyw bywydau iachach
Content:
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod yr alwad hon bellach wedi'i hymestyn tan ddydd Gwener 11 Ebrill 2025 Mae Gogledd Cymru Iach yn bortffolio arloesol o ddulliau anfeddygol i ymdrin ag iechyd a lles sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, a hynny i helpu pobl Gogledd Cymru i fyw bywydau iachach.
Mae ein portffolio yn cynnwys: Y Celfyddydau mewn Iechyd, y Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal a Rhagnodi Cymdeithasol fel enghreifftiau o fodelau biogymdeithasol ar gyfer gofal iechyd.
Rydym yn chwilio am artist/sefydliadau/unigolyn creadigol i greu brandio ar gyfer Gogledd Cymru Iach yn gydweithredol ac yn rhyngweithiol. Rydym am i hon fod yn broses ymgysylltiol a chyfranogol er mwyn ymgysylltu â chymunedau i ddiffinio beth mae lles yn ei olygu i’n pobl a’n cymunedau ar draws Gogledd Cymru.
Bydd y brandio’n cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r portffolio mewn digwyddiadau amrywiol ac ar ddogfennaeth fydd yn cynnwys cyfryngau print ac ar-lein.
Rydym yn chwilio am geisiadau o ddiddordeb i wneud y gwaith hwn dros gyfnod y Gwanwyn a’r Haf ar gyfer lansiad yn yr Hydref.
Felly, rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu ymateb ac ymgysylltu ag amrywiaeth o bartneriaid i feithrin cyfleoedd i ymgysylltu â phobl a chreu'r brandio.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i helpu i ddod o hyd i leoliadau a chyfleoedd i ymgysylltu’n greadigol â phobl a chymunedau, naill ai drwy grwpiau sefydledig, neu sesiynau dros dro mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, lleoliadau celfyddydol a diwylliannol, er enghraifft.
Rydym yn croesawu artistiaid/unigolion creadigol a all fod â’u rhwydweithiau eu hunain a chyfleoedd ar gyfer ymgysylltu creadigol.
Anfonwch ddatganiad o ddiddordeb (dim mwy na 2 dudalen), a dyfynbris i: BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk erbyn ddydd Gwener 11 Ebrill 2025 5pm
Rydym yn annog ac yn croesawu artistiaid i anfon CV ac enghreifftiau o waith (hyd at 5 delwedd) a dolenni i wefannau neu fformatau gweledol eraill.
Ni ddylai dyfynbrisiau gynnwys dadansoddiad clir o ffioedd/amserlen i gwblhau'r prosiect, ac unrhyw adnoddau, deunyddiau fydd eu hangen, a’r canlyniadau a ddarperir o fewn y gost
Meini prawf:
- Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
- Rhaid gallu cyflwyno a chwblhau’r prosiect erbyn hydref 2025 fan bellaf
- Rhaid bod yn barod i ymgysylltu â chymunedau a phoblogaethau yng Ngogledd Cymru fel rhan o'r broses
- Cyllideb hyd at uchafswm o £15k, rhaid ei gostio'n llawn