Opportunities & Events
Blwyddyn Cymru Japan 2025: Galwad am Ddatganiadau o Ddiddordeb
Summary:
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwahodd mynegi diddordeb am gyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau a fydd yn digwydd rhwng Cymru a Japan rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025.
Content:
Fel rhan o’n cyfraniad i’r rhaglen, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwahodd mynegi diddordeb am gyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau a fydd yn digwydd rhwng Cymru a Japan rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025.
Nod y cyfle ariannu hwn yw:
- cyfoethogi ac ehangu partneriaethau a chydweithrediadau celfyddydol presennol rhwng Cymru a Japan
- datblygu cysylltiadau a chydweithrediadau artistig a diwylliannol newydd a fydd yn meithrin perthnasoedd cynaliadwy hirdymor rhwng artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr diwylliannol
Mae'n agored i unigolion a sefydliadau sy'n gweithio yn y celfyddydau yng Nghymru.
Cyllid ar gael:
Mae gennym gyfanswm o £150,000 ar gael.
Gallwch wneud cais am gyllid rhwng £1,000 a £40,000
Haen 1: rhwng £1,000 a £10,000
Rydym yn rhagweld y byddwn yn gwneud 8-10 dyfarniad fach.
Haen 2: rhwng £10,000 a hyd at £40,000
Rydym yn rhagweld y byddwn yn gwneud 1-2 ddyfarniad mawr o hyd at £40,000 yr un.
Meini Prawf Cymhwysedd:
I fod yn gymwys i gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb, bydd rhaid:
- Creu cynllun ar gyfer prosiect sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau neu ymweliad strwythuredig â phartner yn Japan
- Cael partner yn Japan
- Gallu cyflawni’r gweithgaredd arfaethedig yn Japan, yng Nghymru neu’n ddigidol rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025
- Eich bod yn ymarferydd celfyddydau unigol neu'n sefydliad celfyddydol wedi'i leoli yng Nghymru
I gael llawer mwy o wybodaeth, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i wefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru yma.