Opportunities & Events

Gweithlu Natur Cymru, Arolwg 2025

Summary:

Rydyn ni am gynnal arolwg i ddeall y bobl (eu swyddi, sgiliau, cymwysterau, oed, niferoedd ac ati) a’r sefydliadau sy’n ffurfio’r ‘gweithlu natur’ yng Nghymru. Nid oes gennym ddiffiniad pendant o ‘weithlu natur’ eto gan nad ydyn ni’n gwybod digon am yr amrywiaeth o bobl, sefydliadau a swyddi sy’n rhan ohono. Felly, rydyn ni am ofyn i chi benderfynu. Gallwch fod yn weithiwr amser llawn, rhan-amser, am dâl, heb dâl (gwirfoddolwr), yn y sector cyhoeddus, di-elw, academaidd neu breifat neu’r trydydd sector. Os ydych chi’n meddwl eich bod yn cyfrannu at warchod neu adfer natur, am dâl neu fel gwirfoddolwr, atebwch yr holiadur hwn.

Cymerwch yr arolwg nawr

Content:

Mae Gweinidogion Cymru wedi cydnabod ei bod yn argyfwng natur ac wedi ymrwymo i warchod a rheoli’n effeithiol 30% o amgylchedd y môr a 30% o amgylchedd y tir yng Nghymru erbyn 2030. Mae’r rheini sy’n gweithio ym maes adfer natur, y ‘gweithlu natur’ fel maen nhw’n cael eu galw, yn hanfodol i daro’r targed uchelgeisiol.

Ond mae Llywodraeth Cymru’n brin o wybodaeth, felly rydyn ni am gynnal arolwg i ddeall y bobl (eu swyddi, sgiliau, cymwysterau, oed, niferoedd ac ati) a’r sefydliadau sy’n ffurfio’r ‘gweithlu natur’ yng Nghymru. Nid oes gennym ddiffiniad pendant o ‘weithlu natur’ eto gan nad ydyn ni’n gwybod digon am yr amrywiaeth o bobl, sefydliadau a swyddi sy’n rhan ohono.

Felly, rydyn ni am ofyn i chi benderfynu. Gallwch fod yn weithiwr amser llawn, rhan-amser, am dâl, heb dâl (gwirfoddolwr), yn y sector cyhoeddus, di-elw, academaidd neu breifat neu’r trydydd sector.

Os ydych chi’n meddwl eich bod yn cyfrannu at warchod neu adfer natur, am dâl neu fel gwirfoddolwr, atebwch yr holiadur hwn.

Os ydych chi’n gwybod am bobl eraill allai fod o ddiddordeb i ni a’i bod yn briodol gwneud hynny, anfonwch y neges hon atyn nhw. Gallech felly dderbyn y neges hon sawl gwaith ac o lefydd gwahanol. Rydyn ni’n ymddiheuro ymlaen llaw am hyn.

Atebwch yr arolwg unwaith yn unig, waeth faint o swyddi (â thâl a heb dâl) sydd gennych.

Ar ddiwedd yr holiadur, bydd cyfle i chi ddewis rhoi’ch manylion cysylltu. O wneud, byddwch yn cytuno’ch bod yn fodlon i Lywodraeth Cymru gadw’ch manylion cysylltu i lunio rhestr o randdeiliaid y ‘gweithlu natur’. Byddwn yn ei defnyddio i gysylltu â chi am waith pellach y byddwn ni’n wneud gyda a thros y gweithlu natur e.e. hyfforddi a datblygu, arolygon, gwybodaeth am gyfleoedd datblygu, digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer y gweithlu natur ac ati. Os byddwch yn dewis rhoi’ch manylion cysylltu at y dibenion hyn, byddwch yn cael ffurflen wahanol i chi roi’ch manylion cysylltu a’ch caniatâd.

Cymerwch yr arolwg nawr

Search