Opportunities & Events

Lleisiau Pobl Ifanc: Teuluoedd Creadigol

Summary:

Mae Celfyddydau mewn Iechyd BIP Aneurin Bevan, CAMHS a thimau Seicoleg Plant a Theuluoedd yn chwilio am artistiaid i ymgysylltu â phobl ifanc a theuluoedd fel rhan o’u prosiect Celf a’r Meddwl, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring 2025–26, Lleisiau Pobl Ifanc.

Content:

Trwy ein digwyddiadau dros dro, Teuluoedd Creadigol, hoffem ymgysylltu ag amrywiaeth o artistiaid i gyflwyno gweithdai ymgysylltu creadigol yn y gymuned/lleoliadau celfyddydol. Bydd pobl ifanc (rhwng 13 a 17 oed) sy’n derbyn cymorth iechyd meddwl gan BIPAB, ynghyd ag aelodau o’r teulu/gofalwyr, yn cael eu gwahodd i ymuno â gweithdai creadigol sydd wedi’u dylunio i archwilio eu straeon a chasglu eu lleisiau i lywio arloesedd gwasanaeth.

Rydym eisiau defnyddio creadigrwydd fel modd chwareus o ymgysylltu â’n teuluoedd, a dysgu oddi wrthynt, tra’n cynnig mecanweithiau a chysylltiadau ychwanegol i helpu i lywio heriau iechyd meddwl gyda’n gilydd fel teulu.

SUT?
Bydd gofyn i artistiaid ddarparu gweithgaredd/gweithdy ymgysylltu creadigol dros dro ar gyfer teuluoedd gwahoddedig am hyd at 2 awr y sesiwn. Bydd gweithdai yn ymatebol ac yn hyblyg, gan ddarparu ffyrdd addas i deuluoedd gael mynediad gyda’i gilydd neu fel unigolion. Bydd gofyn i artistiaid rannu dysgu/themâu allweddol sy’n dod o’r gwaith.
   
BLE?
Bydd 1 digwyddiad yn cael ei gynnal ym mhob ardal o ranbarth BIPAB: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

PRYD?
Mis Chwefror - mis Mawrth 2025: Proses ymgeisio ac ymgysylltu ag artistiaid
Mis Ebrill - mis Hydref 2025: Cyflwyno yn ystod gwyliau ysgol / penwythnos lle bo modd. Rhannu themâu a chanfyddiadau
allweddol.
Mis Tachwedd 2025: Gwerthusiad o’r prosiect wedi'i gwblhau.
 
FFI
1 diwrnod cyflwyno ar gael fesul safle, ynghyd ag amser cynllunio â thâl ac amser myfyrio/gwerthuso iw gytuno. Cyfradd
ddyddiol ymarferydd celfyddydau cystadleuol; adlewyrchu sgil, profiad a gofynion prosiect e.e. rhwng £175-£275 yn dibynnu ar
brofiad. Mae adnoddau ar gyfer y prosiect yn ychwanegol at y ffi hon.

DYDDIAD CAU: Mae’n rhaid i geisiadau gael eu derbyn erbyn 12pm dydd Gwener 21 Chwefror 2025
SUT I YMGEISIO: Anfonwch y canlynol dros e-bost* at: ABB.ArtsinHealth@wales.nhs.uk

  • Llythyr cyflwyniad byr (500 gair ar y mwyaf)
    - Eich ymateb i’r briff (Ysgrifenedig: 750 gair / 2 dudalen A4 ar y mwyaf NEU fformat fideo os yw'n well gennych: 5 munud ar y
    mwyaf)
    - Dywedwch fwy wrthym am sut y byddech yn ymgysylltu â Phobl Ifanc a Theuluoedd sy’n defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl a pha fodd(au) a dulliau y byddech yn eu defnyddio.
    - Sut y byddech yn sicrhau bod eich gwaith yn hygyrch, yn atyniadol ac yn annog pobl ifanc a theuluoedd i archwilio eu straeon a’u profiadau’n ddiogel?

  • Disgrifiwch ganlyniadau’r gweithdai arfaethedig a sut y bydd themâu a straeon allweddol teuluoedd yn cael eu harchwilio a’u cofnodi ar gyfer eu rhannu o fewn y prosiect.

  • Eich CV yn tynnu sylw at eich gwaith blaenorol yn y maes hwn ac unrhyw enghreifftiau neu gysylltiadau i waith a gynhyrchwyd
    ar y cyd â phobl ifanc y gallwch eu rhannu.

  • Amlinellwch y canlynol:
    - Eich argaeledd hysbys, dyddiau / dyddiadau dewisol yn ystod gwyliau ysgol a phenwythnosau.
    - Eich statws DBS a thystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
    - Rydym yn annog artistiaid sy’n cael eu tangynrychioli o fewn y celfyddydau i ymgeisio. Mae hyn yn cynnwys artistiaid sydd ag anableddau dysgu neu gyflyrau iechyd hirdymor, artistiaid niwrowahanol, artistiaid o gefndiroedd incwm isel, artistiaid LHDTC+ ac artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang. Croesawir cynigion gan artistiaid Cymraeg. Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad y dylem fod yn ymwybodol ohonynt, o ran gwneud cais cychwynnol a/neu fod yn bresennol mewn cyfweliad, mae croeso i chi gysylltu â ni.

    *Nodwch: Mae’n rhaid i bob ffeil fod ar ffurf pdf, docx, jpg neu png. Ar gyfer fformatau eraill neu ddolenni i yriannau cwmwl ar-
    lein, cysylltwch â ni cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno. Mae gennym wal dân diogelwch a all atal pethau rhag ein cyrraedd fel y
    bwriadwyd, felly os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â ni.

    BETH SY’N DIGWYDD NESAF?
    Byddwn yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr ar ôl y dyddiad cau. Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar 11 neu 12 Mawrth ar adeg sy’n gyfleus.

    Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â: ABB.ArtsinHealth@wales.nhs.uk neu ffoniwch: Claire Turner ar 07989 140462, neu Sarah Goodey ar 07976 375781.

Search