Opportunities & Events

Lleisiau Pobl Ifanc: Waiting Spaces Ionawr 2025 Galwad am Artistiaid ac Ymarferwyr Creadigol unrhyw gyfrwng

Location: BIP Aneurin Bevan, | Start Date: Mawrth 2025

Summary:

Mae timau Celfyddydau Mewn Iechyd BIP Aneurin Bevan, CAMHS a Seicoleg Plant a Theuluoedd yn chwilio am artistiaid i ymgysylltu â phobl ifanc a theuluoedd fel rhan o'u prosiect Celfydd a Chrebwyll 2025-26, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, Lleisiau Pobl Ifanc.

Content:

BETH?

Mae timau Celfyddydau Mewn Iechyd BIP Aneurin Bevan, CAMHS a Seicoleg Plant a Theuluoedd yn chwilio am artistiaid i ymgysylltu â phobl ifanc a theuluoedd fel rhan o'u prosiect Celfydd a Chrebwyll 2025-26, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, Lleisiau Pobl Ifanc.

PAM?

Hoffem sefydlu ystod eang o Artistiaid preswyl mewn nifer o fannau aros yr ymwelir â hwy gan bobl ifanc (13–17 oed), a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn ystod eu triniaeth gyda BIPAB.

Rydym am ddefnyddio creadigrwydd i wella'r mannau hyn; dod o hyd i ffyrdd chwareus o archwilio Lleisiau Pobl Ifanc, eu profiadau a'u straeon.

Mae ein Panel Cyfranogiad Ieuenctid wedi dweud yr hoffent weld pobl ifanc yn cael eu hadlewyrchu yn y mannau hyn, gan gysylltu â'i gilydd ac annog ei gilydd.

Bydd gofyn i artistiaid ymgysylltu â theuluoedd, ac archwilio creadigrwydd fel ffordd o wella'r mannau aros a'r broses aros.

SUT?

Bydd artistiaid preswyl yn canolbwyntio eu gwaith ar gyfleoedd rheolaidd i ymgysylltu â theuluoedd o fewn y mannau aros dros gyfnod o 6-8 mis (dyddiadau a manylion i'w cytuno).

Gall ymgysylltu rheolaidd arwain at allbynnau artistig sy'n aros yn y gofodau.

Bydd gofyn i artistiaid greu eu hymateb eu hunain i’r gwaith, gan rannu themâu allweddol a’r hyn y maent wedi’i ganfod yn ystod y cyfnod preswyl.

BLE?

- Mae 2 x fan aros o fewn Safle Ysbyty Sant Cadog yng Nghaerllion, Casnewydd.

- 1 x man aros i ganolbwyntio ar Bobl Ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, Casnewydd

- 1 x cyfnod preswyl gyda chyfarfod y Panel Cyfranogiad Ieuenctid yn Sant Cadog, Caerllion (ond heb fod yn gyfyngedig i)

PRYD?

- Ionawr - Chwefror 2025: Proses ymgeisio ac ymgysylltu ag artistiaid

- Mawrth – Hydref 2025: Cyflawni (dyddiadau a manylion i'w trafod)

- Tachwedd 2025: Cyflwyno'r canfyddiadau a'r broses werthuso

FFI:

8 diwrnod ar gael ym mhob safle, yn unol ag angen y prosiect.

Cyfradd ymarferydd celfyddydol dyddiol cystadleuol; adlewyrchu sgiliau, profiad a gofynion y prosiect ee £175-£275 yn dibynnu ar brofiad.

Mae adnoddau ar gyfer y prosiect yn ychwanegol at y ffi hon.

DYDDIAD CAU:

Ceisiadau i'w derbyn erbyn 12pm dydd Gwener 21 Chwefror 2025

SUT I WNEUD CAIS:

Anfonwch y canlynol trwy e-bost* at: ABB.ArtsinHealth@wales.nhs.uk

  • Llythyr cyflwyno byr (500 gair ar y mwyaf)
  • Eich ymateb i'r briff (fformat ysgrifenedig neu fideo 5 munud ar y mwyaf):
  1. Dywedwch fwy wrthym am sut y byddech yn ymgysylltu â Phobl Ifanc a theuluoedd sy'n defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl, a pha gyfrwng/cyfryngau a fyddech yn eu defnyddio?
  2. Sut fyddech chi'n mynd ati i sicrhau bod eich gwaith yn hygyrch, yn ddifyr, ac yn annog pobl ifanc i archwilio eu straeon a'u profiadau yn ddiogel?
  3. Sut byddech yn sicrhau bod canlyniadau creadigol a fydd yn aros yn y mannau aros o bosib, yn cael eu cydgynhyrchu? (Ysgrifenedig: 750 gair / 2 dudalen A4 ar y mwyaf NEU Fformat fideo os yw'n well gennych: uchafswm o 5 munud)
  • Eich CV yn tynnu sylw at eich gwaith blaenorol yn y maes hwn ac unrhyw enghreifftiau neu ddolenni i waith a gynhyrchwyd ar y cyd â phobl ifanc y gallwch eu rhannu. Amlinellwch hefyd:
  • Eich argaeledd (diwrnodau'r wythnos) ar gael yn ystod yr amserlen a ddisgrifiwyd.
  • Eich statws DBS a thystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • Rydym yn annog artistiaid sy’n cael eu tangynrychioli o fewn y celfyddydau i ymgeisio.

Mae hyn yn cynnwys artistiaid sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor, artistiaid niwrowahanol, artistiaid o gefndiroedd incwm isel, artistiaid LHDTCRh+ ac artistiaid o'r Mwyafrif Byd-eang.

Croesewir cynigion gan artistiaid Cymraeg eu hiaith.

Os oes gennych unrhyw ofynion o ran hygyrchedd y dylem fod yn ymwybodol ohonynt, o ran gwneud cais cychwynnol a/neu fynychu cyfweliad, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Er gwybodaeth: Mae’n rhaid i bob ffeil atodedig fod yn .pdf, .docx, .jpg neu .png. Ar gyfer fformatau eraill, neu ddolenni i yriannau cwmwl ar-lein, cysylltwch â ni cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno. Mae gennym wal dân diogelwch a all atal pethau rhag ein cyrraedd fel y bwriadwyd, felly os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â ni.

Beth sy'n digwydd nesaf Cysylltir â phob ymgeisydd ar ôl y dyddiad cau.

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad wyneb yn wyneb yn y lleoliad Dydd Llun 3ydd Mawrth 2025 Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â: ABB.ArtsinHealth@wales.nhs.uk neu ffoniwch: Claire Turner 07989 140462 neu Sarah Goodey 07976 375781

Cefnogir y prosiect hwn gan BIPAB, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring

Search