Opportunities & Events

Webinar Sut i fod yn hwylusydd creadigol o fewn eich cymuned

Location: Ar-lein | Start Date: 4 Mawrth 2025

Summary:

Ydych chi’n fardd neu’n awdur sy’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau er mwyn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol yn eich cymuned ond yn ansicr lle i ddechrau? Ydych chi’n credu ym mhŵer llenyddiaeth i wella, ysbrydoli, a grymuso unigolion ond ddim yn gwybod sut i roi eich syniadau ar waith?  

Ymunwch â’r awduron a’r hwyluswyr creadigol Dr Sophie Buchaillard, Taylor Edmonds a Sian Hughes wrth iddynt rannu eu profiadau o ddechrau arni, arfer gorau wrth gynllunio, cynnal a gwerthuso prosiect, ffrydiau cyllid posibl, a’r cyfleoedd a’r heriau y maent wedi’u wynebu.

Content:

P’un a oes gennych ddiddordeb mewn cynnal sesiynau ystyriol i gefnogi iechyd a lles cymuned, helpu meithrin cysylltiad agosach â natur, neu ysbrydoli cynulleidfaoedd ifanc i ymgysylltu â llenyddiaeth, bydd y siaradwyr wrth law i ateb eich cwestiynau ar ddiwedd trafodaeth fywiog. Byddwch yn gadael y digwyddiad gyda syniad cliriach o beth yw rôl hwylusydd creadigol a beth fydd eich camau nesaf. 

Mae’r digwyddiad hwn wedi ei drefnu i gyd-fynd â ffenestr ymgeisio rhaglen ‘Sgwennu’n Well, sydd ar agor hyd nes 5.00 pm ar brynhawn Iau 13 Mawrth. Rhaglen ddatblygu ddwys yw hon i hwyluswyr creadigol lled-newydd. 

Siaradwyr: Sophie Buchaillard (Cadeirydd), Taylor Edmonds, Sian Hughes 

Dyddiad: Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2025 

Amser: 6.30 pm – 7.30 pm GMT 

Iaith: Saesneg 

Mwy wybodaeth yma.

Search