Opportunities & Events
Yn galw ar artistiaid/sefydliadau/unigolion creadigol i greu brandio ar gyfer Gogledd Cymru Iach
Location: Golgledd Cymru | Start Date: cyn gynted â phosibl
Summary:
BIPBC Ceisio ceisiadau i greu brandio ar gyfer Gogledd Cymru Iach trwy broses gydweithredol, greadigol ac apelgar.
Content:
Yn galw ar artistiaid/sefydliadau/unigolion creadigol i greu brandio ar gyfer Gogledd Cymru Iach
Mae Gogledd Cymru Iach yn bortffolio arloesol o ddulliau anfeddygol i ymdrin ag iechyd a lles sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, a hynny i helpu pobl Gogledd Cymru i fyw bywydau iachach.
Mae ein portffolio yn cynnwys: Y Celfyddydau mewn Iechyd, y Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal a Rhagnodi Cymdeithasol fel enghreifftiau o fodelau biogymdeithasol ar gyfer gofal iechyd.
Rydym yn chwilio am artist/sefydliadau/unigolyn creadigol i greu brandio ar gyfer Gogledd Cymru Iach yn gydweithredol ac yn rhyngweithiol. Rydym am i hon fod yn broses ymgysylltiol a chyfranogol er mwyn ymgysylltu â chymunedau i ddiffinio beth mae lles yn ei olygu i’n pobl a’n cymunedau ar draws Gogledd Cymru. Bydd y brandio’n cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r portffolio mewn digwyddiadau amrywiol ac ar ddogfennaeth fydd yn cynnwys cyfryngau print ac ar-lein. Rydym yn chwilio am geisiadau o ddiddordeb i wneud y gwaith hwn, sy'n rhaid ei gwblhau cyn 28 Mawrth 2025.
Felly rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu ymateb yn gyflym ac ymgysylltu â'n partneriaid i greu cyfleoedd i ymgysylltu â phobl a chreu brandio. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i helpu i ddod o hyd i leoliadau a chyfleoedd i ymgysylltu’n greadigol â phobl a chymunedau, naill ai drwy grwpiau sefydledig, neu sesiynau dros dro mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, lleoliadau celfyddydol a diwylliannol, er enghraifft. Rydym yn croesawu artistiaid/pobl greadigol a all fod â’u rhwydweithiau eu hunain a chyfleoedd i ymgysylltu’n greadigol ag ystod eang o bobl.
Anfonwch ddatganiad o ddiddordeb (dim mwy na 2 dudalen), a dyfynbris i:
erbyn Dydd Llun 3 Chwefor 2025 5pm
Rydym yn annog ac yn croesawu artistiaid i anfon CV ac enghreifftiau o waith (hyd at 5 delwedd) a dolenni i wefannau.
Ni ddylai dyfynbrisiau gynnwys dadansoddiad clir o ffioedd/amserlen i gwblhau'r prosiect, ac unrhyw adnoddau, deunyddiau fydd eu hangen, a’r canlyniadau a ddarperir o fewn y gost
Meini prawf:
- Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
- Rhaid gallu cyflwyno a chwblhau’r prosiect erbyn 28 Mawrth 2025 fan bellaf
- Rhaid bod yn barod i ymgysylltu ag ystod o gymunedau a phoblogaethau yng Ngogledd Cymru fel rhan o'r broses
- Cyllideb hyd at uchafswm o £15k, rhaid ei gostio'n llawn