Opportunities & Events

Ymgynghoriad: Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl

Start Date: Nes: 19 Mis Medi 2025

Summary:

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i wella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl. 

Mwy o wybodaeth yma

Content:

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i wella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl

Mae tystiolaeth wedi dangos nad yw'r dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol (o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) i asesu a chefnogi gofalwyr cymwys yn cael eu gweithredu fel y bwriadwyd.

Mae'r diffyg Asesiadau Gofalwyr sy’n cael eu cynnal wedi cael sylw sylweddol eisoes. Nid yw'r Pwyllgor am fynd dros hen dir yn yr ymchwiliad hwn, felly bydd yn canolbwyntio yn hytrach ar ddarparu cymorth statudol i ofalwyr di-dâl, a mynediad at gymorth o’r fath, yn enwedig gofal seibiant.

Nod yr ymchwiliad fydd archwilio’r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau gofal seibiant i ofalwyr di-dâl ledled Cymru, a’r mynediad atynt, a nodi newidiadau i wella’r gefnogaeth statudol, a galluogi gofalwyr di-dâl i allu byw yn ogystal â gofalu. Mae hyn yn cynnwys:

  • y prif rwystrau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu wrth gael gafael ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt; gan gynnwys unrhyw heriau penodol i ofalwyr yn seiliedig ar ffactorau fel oedran, ethnigrwydd neu ble maen nhw'n byw;
  • y graddau y mae gofal seibiant ar gael ledled Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys faint o amrywiad sydd ar draws y rhanbarthau;
  • i ba raddau y mae'r galw am wasanaethau cymorth i ofalwyr yn cael ei asesu ac yn cael sylw, a, beth yw lefel yr anghenion sydd heb eu diwallu ar hyn o bryd;
  • rôl Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wrth ddarparu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl, ac effeithiolrwydd arferion comisiynu gwasanaethau ar hyn o bryd;
  • y camau gweithredu sydd eu hangen i wella gweithrediad darpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gyfer gofalwyr di-dâl (gan gynnwys Asesiadau Gofalwyr a chynlluniau cymorth).

Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl 

Search