Opportunities & Events
Cronfa arloesi o hyd at £50k i helpu i gynyddu lefelau gweithgarwch ymhlith menywod ifanc a merched
Location: Gogledd Cymru | Start Date: 23 Hydref
Summary:
Rydym yn gwahodd sefydliadau i weithio gyda ni ac i wneud cais am gefnogaeth o’n Cronfa Arloesi o hyd at £50,000 ar gyfer prosiectau yng Ngogledd Cymru i gynyddu’r nifer o ferched ifanc a genethod sy’n actif bob dydd.
Content:

Gwyddom fod merched ifanc a genethod yn wynebu llawer o heriau o ran bod yn actif ac mae deall y rhwystrau hyn yn hanfodol bwysig i ddechrau cynyddu lefelau cyfranogiad.
Rydym yn chwilio am geisiadau fydd yn:
- Gwella ein dealltwriaeth o’r rhwystrau y mae merched ifanc a genethod yn eu hwynebu i fod yn actif;
- Profi dulliau newydd;
- Ymgysylltu â phartneriaid newydd;
- Rhannu mewnwelediad a dysgu er mwyn siapio’r darpariaeth y dyfodol;
- Grymuso merched drwy weithgaredd corfforol/chwaraeon.
Er mwyn darllen mwy lawr lwythwch y dogfennau tendr.
Deadline: 23 Hydref