Opportunities & Events

Cefnogaeth Ymarfer Creadigol gya Jain ac Alison

Location: Ar lein | Start Date: 03 Chwefror, 6.30yp - 8yp

Summary:

Lle ar gyfer Cyd-reoleiddio a Thosturi gydag Alison a Jain.

Tocynnau yma

Content:

Cwrs 6 wythnos yn dechrau o dyd Llun 3 Chwefror tan dydd Llyn 17 Mawrth, 6.30yp - 8.00yp, ar-lein (egwyl a dydd Llyn 24 Chwefror)


Mae bod yn ymarferydd celfyddydau llawrydd yn gallu bod yn unig. Mae Ymarfer Myfyriol Creadigol Sut Mae’n Mynd? yn lle i gysylltu ag ymarferwyr creadigol eraill.

Bydd Jain yn cynnig set o ymarferion somatig i leddfu a chefnogi eich system nerfol a dod â chi i fan o ddifyrrwch er mwyn i chi osgoi cael eich llethu. Bydd Alison yn rhannu cyfres o ymarferion, gan eich gwahodd i fyfyrio ar eich gwaith a’ch llesiant drwy lens drugarog.

Ein bwriad yw creu man lle gallwn gefnogi ein gilydd a gyda hyn yn ein meddwl rydym ni’n gofyn i’r cyfranogwyr ymrwymo i’r cyfnod llawn o 6 wythnos.

Anelir y rhaglen at ymarferwyr creadigol sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd meddwl neu yn cefnogi cyfranogwyr sy’n fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl, gan gynnwys y system cyfiawnder troseddol, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, goroeswyr trais domestig a rhywiol a phobl sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n bodloni’r meini prawf, cysylltwch â Rheolwr y

Rhaglen Tracy Breathnach am sgwrs programmes@wahwn.cymru.

Jain Boon – Gwneuthurwr theatr ac Ymarferydd Profi Somatig yw Jain, sydd â phractis preifat bach. Mae’n Gyd-Gyfarwyddwr thisPlace | Cwmni Dawns a Theatr sy'n Ystyriol o Drawma a hefyd yn gweithio’n gyson gyda Re-Live TheatreHijinx a Music Theatre Wales. Yn ddiweddar bu’n hyfforddi fel Hwylusydd Llesiant ar gyfer y Diwydiannau Ffilm, Teledu a Theatr gyda 6ft From The Spotlight. Mae Jain hefyd yn Ymgynghorydd a Hyfforddwr yn cefnogi unigolion a sefydliadau i ddod yn Ymwybodol o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Mae’n angerddol dros gefnogi llesiant ymarferwyr a deall beth yw bod yn iach.

Alison O’Connor - Mae gan Alison 25 mlynedd o brofiad mewn waith grŵp, therapi a theatr mewn carchardai, lleoliadau iechyd meddwl diogel, cartrefi plant amddifad yn Romania a gyda chyn-filwyr. Mae’n Gyd-Sylfaenydd Re-Live, elusen Celfyddydau ac Iechyd arobryn, sy’n creu gwaith stori bywyd therapiwtig gydag oedolion hŷn a phobl y mae trawma ac adfyd wedi effeithio arnynt. Mae’n therapydd integreiddiol ac yn oruchwyliwr clinigol, gyda diddordeb arbennig mewn dulliau’n seiliedig ar dosturi. Mae’n gweithio gyda hiwmor a mwynder, gan annog therapyddion i ofalu amdanynt eu hunain a’u meithrin eu hunain o fewn y gwaith a wnânt.

 

Tocynnau yma

Search