What is WAHWN?

Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN)

Corff aelodaeth sy’n ehangu’n gyflym yw Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru.

Darllen Mwy

Become a WAHWN member

Dod yn aelod o WAHWN

Byddai dod yn aelod o WAHWN yn eich helpu i glywed y diweddaraf am newyddion, cyfleoedd, ymchwil, cyllido, digwyddiadau a datblygiadau yn y sector.

Darllen Mwy

Weave 2025 - Arts and Health Conference

Gwehyddu 2025 - Cynhadledd Iechyd a Celfyddydau

Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer cynhadledd deuddydd Gwehyddu 2025 mewn partneriaeth gyda BIPBC a Phrifysgol Wrecsam, a daeth dros 300 o weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, polisi a chyllid i Brifysgol Wrecsam.

Darllen mwy

Hapus

Hapus

Hapus yw ymgyrch genedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer hyrwyddo lles meddyliol ledled Cymru.  Mae’n annog sgwrs genedlaethol ynghylch yr hyn sy’n helpu pobl i “deimlo’n dda a gweithredu’n dda,” drwy gynnig arweiniad yn seiliedig ar dystiolaeth – fel neilltuo amser ar gyfer creadigrwydd, natur, gweithgaredd corfforol a chyswllt cymdeithasol – i ddiogelu a gwella lles meddyliol.

 

Darllen mwy

WAHWN Manifesto

Maniffesto WAHWN

Rydym yn galw am y pum ymrwymiad allweddol canlynol i sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant yn chwarae rhan ganolog wrth ffurfio Cymru fwy iach a mwy egnïol.

Darllen Mwy

NEWYDDION WAHWN

WAHWN members urged to have their say in new Culture and Sport Strategy

Wales' Arts Health and Wellbeing Network welcomes the launch of the Welsh Government's open call for evidence on a new Culture and Sport Strategy for Wales

Dyddiad: 17/08/2026

Creative health sector resilient but pressures growing, new survey finds

There is a growing gap between the value placed on creative health and the resources made available to sustain it, according to latest State of the Sector survey.

Dyddiad: 20/07/2026

Croeso i WAHWN: Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru

Corff aelodaeth sy’n ehangu’n gyflym yw Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Mae’n rhwydwaith agored am ddim i unrhyw un sy’n gweithio yn y celfyddydau, iechyd a llesiant, neu sydd â diddordeb yn y maes. Ymhlith yr aelodau ceir artistiaid, cyrff celfyddydol, gweithwyr iechyd proffesiynol, academyddion, cyrff gwirfoddol, cyllidwyr, cyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol gan gynrychioli’r ystod lawn o ffurfiau ac ymarfer celfyddydol mewn lleoliadau iechyd, celfyddydau a chymunedol.

Darllen Mwy

Am ddechrau arni?

Rydym ni wedi crynhoi rhai adnoddau penodol i bob un o’n mathau o ddefnyddiwr. Cliciwch y botymau isod i weld yr adnoddau fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer gweithio, comisiynu neu gefnogi’r celfyddydau mewn iechyd:

Dod yn aelod o WAHWN

Ydych chi’n ymroddedig i gydweithio i gryfhau ac eiriol ar ran y celfyddydau fel rhan o lesiant ac iechyd? Yna mae WAHWN yn addas i chi.

Rhwydwaith strategol i’r celfyddydau, iechyd a llesiant yng Nghymru yw WAHWN – man cyfarfod cyffredin ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a chyd-hyrwyddo gweithgareddau. Mae ein gwaith ar hyn o bryd yn cynnwys datblygu hyfforddiant a darpariaeth datblygu, datblygu adnoddau, ymchwil, digwyddiadau ac eiriolaeth.

Bydd aelodau o WAHWN yn gallu:

  • Rhannu eu gwybodaeth gydag eraill yn y Rhwydwaith

  • Postio cyfleoedd, digwyddiadau, newyddion a blogiau

  • Cysylltu â’i gilydd i rannu gwybodaeth a datblygu gwaith ar y cyd

  • Cyflwyno astudiaethau achos, ymchwil, papurau, adroddiadau gwerthuso a phrosiect

Gweld ein rhestr o aeloadu | Ymuno â WAHWN ar-lein

Become a Member

"Mae WAHWN yn chwarae rôl allweddol drwy rannu ymarfer gorau a thystiolaeth am sut mae deddfwriaeth a pholisi’n cael eu rhoi ar waith yn ymarferol gan sector y celfyddydau, iechyd a llesiant. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda WAHWN wedi galluogi a chefnogi Conffederasiwn GIG Cymru i rannu ymarfer da a gwybodaeth ynghylch y celfyddydau ac iechyd gyda sefydliadau na fydden ni efallai wedi eu cyrraedd."

Nesta Lloyd-Jones, Conffederasiwn GIG Cymru

"Rydyn ni’n feddygfa yn 19 Hills, datblygiad cymdogaeth a chymunedol yn Ringland yn nwyrain Casnewydd yn y de-ddwyrain. Aethom ni i gynhadledd GWEHYDDU eleni ac ers hynny mae’r eiriolaeth, y cymorth a’r cysylltiadau drwy Angela a’i chydweithwyr, a’r rhwydwaith gyfan o bartneriaid celfyddydau ac iechyd wedi bod yn gwbl hanfodol i’n gwaith. Fe wyddom y gall y celfyddydau drawsnewid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn cynnwys pobl i’n helpu i gyflwyno dulliau gwell mewn iechyd a gwasanaethau cyhoeddus ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio wrth i Gymru weithredu ymhellach yn y paradeim newydd hwn."

Jonny Currie, Partner Meddyg Teulu, arweinydd clinigol Practis Meddygol Ringland a Chyd-gyfarwyddwr Cwmni Buddiant Cymunedol 19 Hills

"Mae WAHWN bob amser yn teimlo’n gynnes – mae’n lle i wrando, dysgu a rhannu, cymuned greadigol o artistiaid llawrydd a blethir i’w gilydd gan brofiadau a rennir, ble bynnag yr ydyn ni yng Nghymru."

Tara Dean, Ymarferydd Creadigol

"Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r rhwydwaith gwych hwn sydd wedi chwarae rhan mor allweddol yn llunio’r argymhellion."

Sandy Clubb, Arweinydd Polisi: Cynnwys, Cydweithredu a Diwylliant yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

"Mae WAHWN yn gymaint o ased i Gymru – mae’n wych gallu cysylltu â’r gweithlu celfyddydau ac iechyd drwy un llwybr a bod yna sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi datblygu gweithlu’r celfyddydau ac iechyd ac sy’n mynd ati i ysgogi datblygiadau yn y dystiolaeth dros y celfyddydau ar gyfer iechyd a llesiant yng Nghymru."

Emily Van de Venter, Ymgynghorydd Arweiniol, Llesiant Meddwl, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Chwilio