Opportunities & Events

Ymgynghorydd Datblygu Rhaglen Dawnsio i Iechyd Cymru

Location: Abertawe | Start Date: ionawr

Summary:

Lleoliad: Gweithio gartref ac ymweliadau rheolaidd â lleoliadau yn Abertawe | Dyddiad Dechrau: 15 Ionawr 2025 – 30 Ebrill 2025

Crynodeb:   Yma yn Aesop, rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig ac angerddol i ymuno â’r tîm ac i gefnogi’r datblygiad o’n gwaith yng Nghymru.

Content:

Cynnwys:

Bydd y swydd yn helpu Aesop i ddatblygu’r rhaglenni Dawnsio i Iechyd; meithrin a chynnal ein rhwydweithiau a phartneriaethau lleol yn ardaloedd Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot; deall effaith a chanlyniadau’r rhaglen i weithredu fel eiriolwr a llysgennad; cefnogi’r gwaith o werthuso ac adnabod cyfleoedd i gysylltu Dawnsio i Iechyd â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â sefydliadau diwylliannol, iechyd creadigol a chymunedol.

Byddwch yn gweithio’n agos â Rheolwr Rhaglenni Aesop yng Nghymru, a’r Cynorthwyydd Rhaglenni yn lleol, sy’n gyfrifol am reoli’r rhaglenni o ddydd i ddydd. Byddwch hefyd yn ymddwyn fel y cyswllt â thîm rheoli rhaglenni Aesop a phartneriaid a rhwydweithiau lleol.

CWMPAS 1. Cefnogi datblygiad y rhaglen Dawnsio i Iechyd yng Nghymru a’i hehangu

2. Cefnogi’r gwaith o werthuso’r rhaglen fel un sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru

3. Gweithio gyda phartneriaid a grwpiau rhanbarthol

- Mapio’r ddarpariaeth iechyd creadigol leol

- Datblygu perthynas gyda chomisiynwyr a phartneriaid diwylliannol/iechyd creadigol.

- Datblygu digwyddiadau a rhwydweithiau lleol mewn cydweithrediad â rheolwyr rhaglenni Aesop gan gynnwys digwyddiad undydd ym mis Chwefror 2025

- Casglu a chofnodi straeon ac adborth gan gyfranogwyr, gofalwyr, gwirfoddolwyr ac ati  

- Cefnogi gwerthuso rhaglenni a phrosiectau CANLYNIADAU DYMUNOL

1. Mwy o ymwybyddiaeth o’r rhaglen Dawnsio i Iechyd yng Nghymru

2. Adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau lleol

3. Cefnogi Aesop i asesu dichonoldeb gwneud cais ariannu mawr gyda phartneriaid lleol i gefnogi twf a chynaliadwyedd ymyriadau sy’n seiliedig ar y celfyddydau sy'n cefnogi ansawdd bywyd pobl hŷn.

Am ragor o wybodaeth, a disgrifiad swydd llawn, ewch i'n gwefan:https://dancetohealth.org/hiring-wales-programme-development-consultant / I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich diddordeb ac addasrwydd ar gyfer y swydd hon erbyn 23 Rhagfyr 2024. Anfonwch eich CV at ceo@ae-sop.org. Ein nod yw cwrdd ag ymgeiswyr addas yn yr wythnos sy’n dechrau ar 6 Ionawr 2025. Bydd y cyfweliadau cyntaf yn cael eu cynnal ar-lein.

 

Search