Opportunities & Events

Ysgogwyr Newid

Location: Wales | Start Date: 24/07/2024

Summary:

Rydyn ni’n arddangos pobl hŷn sydd wedi herio stereoteipiau heneiddio, neu sydd ar flaen y gad yn eu meysydd. Ydych chi’n nabod rhywun dros 50 oed sydd wedi gwneud gwahaniaeth i chi, yn lleol, neu yng Nghymru? Beth am eu henwebu nhw a disgrifio sut maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth.

Content:

Mae Age Cymru yn dathlu pobl sy’n herio stereoteipiau fel rhan o raglen yr elusen sy’n dathlu creadigedd ymhlith pobl hŷn Mae Age Cymru wedi enwebu Mary Lloyd Jones, yr arlunydd, gwneuthurwr printiau ac awdures fyd-enwog, fel eu Ysgogwr Newid cyntaf. Mae’r anrhydedd yn dathlu pobl sydd wedi herio stereoteipiau ac arwain y ffordd yn eu meysydd creadigol gwahanol. Ganwyd Mary ym 1934 a magwyd hi ym Mhontarfynach yn Aberystwyth. Disgrifiwyd ei gwaith fel amlweddog, sy’n defnyddio adnoddau sy’n adlewyrchu dechreuon iaith, yn cynnwys marciau cynnar o waith dyn, yr ogham a choelbren y beirdd. Meddai Mary fod ei gwaith yn cael ei ddylanwadu gan hen ddiwylliannau ac ieithoedd, gyda diddordeb arbennig yng nghyd-destun ei thirwedd ei hun. Yn y gorffennol, mae hi wedi derbyn dwy gymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth, a doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, Caerdydd. Enwebwch eich Ysgogwr Newid Os ydych chi’n nabod person hŷn fel Mary sydd wedi herio stereoteipiau ac arwain y ffordd yn eu meysydd, enwebwch nhw i fod yn rhan o brosiect Ysgogwyr Newid Age Cymru. Byddwn yn dathlu eich Ysgogwr Newid ynghyd â Mary mewn arddangosfa ar-lein, ac mae’n bosib bydd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol a gyda’r Wasg. Ffoniwch Age Cymru ar y rhif 0300 303 44 98 neu e-bostiwch gwanwyn@agecymru.org.uk i ofyn am ffurflen enwebu. https://bit.ly/GwanwynC-AC

Search