Opportunities & Events
Cefnogaeth Ymarfer Creadigol gyda Cai Tomos
Location: Ar Lein | Start Date: 20 Feb, 19 March
Summary:
Lle ar gyfer gwneud, rhannu a chysylltu tyner! Tocynnau yma
Content:
Diben y sesiynau hyn yw helpu pobl sydd angen rhagor o genfogaeth wrth fyfyrio ar eu gwaith eu hunain, ac effaith eu grŵp o gleientiaid a’r cyd-destun neu’r sefydliad y maen nhw’n gweithio o’i fewn ar yr hyn y maen nhw ei wneud, a sut.
Fframwaith o gymorth therapiwtic a dealltwriaeth o drawma yw sesiwn cefnogaeth gwaith creadigol. Mae’n gyfle i edrych ar y modd y mae gweithgareddau sy’n seiliedig ar y celfyddydau yn cael eu darparu. Mae’n gyfle hefyd i ystyried sut i ofalu amdanoch chi’ch hun o fewn gofynion y gwaith. Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal drwy Zoom.
Mae Cai Tomos yn artist dawns a Seicotherapydd Celfyddydau annibynnol, ac yn Ymarferydd profi Somatig. Mae wedi gweithio fel perfformiwr a gwneuthurwr yn y DU ac yn Ewrop, a thros y 15 mlynedd ddiwethaf mae ei waith wedi canolbwyntio ar iechyd a rôl dawns, symud a’r celfyddydau gweledol yn y maes.