Opportunities & Events
Ymarferydd Creadigol - Ysgolion Creadigol Arweiniol
Location: Ysgol y Bannau - Brycheiniog | Start Date: Ionawr 2024
Summary:
Mae Ysgol y Bannau yn awyddus i ddatblygu ei hadnodd awyr agored diweddaraf: Llwyfan Llafar. Mae’r llwyfan yn adlewyrchu nod yr ysgol i feithrin sgiliau llafaredd ac mae’r ysgol am recriwtio Ymarferydd iaith Gymraeg i ddatblygu prosiect wedi’i ysbrydoli gan y llwyfan i ddysgwyr Blwyddyn 2 a 3.
Content:
Bydd y prosiect, a fydd yn cymryd lle yn ystod penblwydd 25ain yr ysgol, yn archwilio potensial y Llwyfan Llafar fel adnodd i helpu dysgwyr o Flwyddyn 2 & 3 i ddatblygu sgiliau llafaredd Cymraeg, ac i gefnogi arferion meddwl creadigol wrth symud ymlaen, yn enwedig y gallu i gydweithio’n greadigol. Cwestiwn yr ysgol i ddarpar Ymarferwyr Creadigol felly yw: A allech chi helpu ni i ddatblygu ein ‘Llwyfan Llafar’ fel rhan o’n dathliadau penblwydd? A allech chi ein helpu i lunio prosiect wedi’i ysbrydoli gan y llwyfan a fyddai’n meithrin sgiliau llafaredd ymhlith dysgwyr Blwyddyn 2 a 3 tra hefyd yn meithrin tallu’r dysgwyr i gydweithio’n greadigol? Ein nod ehangach yw darparu profiad dysgu creadigol sy’n gwella lles dysgwyr. Y dyddiau cau yw 3edd o Dachwedd ác fe gynigir ffi o £300 y dydd am hyd at 15 diwrnod. Am fwy o wybodaeth am y swydd ac am sut i wneud cais, ffoniwch Sian Hughes ar 07810 362 146 neu drwy ebostio sianeh@gmail.com neu gweler y ddolen isod: https://1drv.ms/w/s!AjC8q2CA_63j0njt-uamO2Eg4KDZ?e=rdFaAM