Opportunities & Events

Cysylltu a Ffynnu Pobl Greadigol Llawrydd

Location: Conwy | Start Date: Gorffennaf 2024 - Rhagfyr 2024 (efallai y gellir ei ymestyn)

Summary:

Rydym yn chwilio am Unigolion Creadigol arloesol o gymunedau Cymraeg, a chymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd a lleiafrifol, i’n helpu i ddarparu prosiect Cysylltu a Ffynnu/ Connect & Flourish a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sydd yn brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Menter Iaith Conwy, Race Council Cymru a Venue Cymr

Content:

I fod yn Unigolyn Creadigol ar gyfer y prosiect hwn, fe allech chi fod yn: ddylunydd gwisgoedd, cerddor, perfformiwr, artist syrcas, dylunydd goleuadau, dylunydd graffeg, darlunydd, artist digidol, dawnsiwr, cerflunydd, crefftwr, crochenydd, gwneuthurwr ayyb… dydyn ni ddim eisiau bod yn rhy gyfarwyddol am eich creadigrwydd.

Nod ein prosiect yw datblygu sector celfyddydau Conwy. I adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog bywyd yng Nghymru a sicrhau bod cael mynediad at, ymgysylltu â, creu,
profi ac adeiladu gyrfa yn y maes celfyddydau ar agor i bawb. Rydym yn canolbwyntio’n arbennig ar gyrraedd a chysylltu â chyfranogwyr a chynulleidfaoedd
newydd posibl, o gymunedau Cymraeg eu hiaith a chymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd.

Nid ydym yn gwybod beth fydd yn cael ei greu; ond y broses o ddarganfod gyda chi
a’r cymunedau sydd yn gwneud y prosiect yn un gwerthfawr i ni.

Am beth ydym ni’n chwilio?


Mae hyn yn hyblyg - rydym eisiau dod o hyd i unigolion creadigol sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phobl i ddatblygu syniadau a phrosiectau. Cyd-greadigaeth
rhyngom ni a’r cymunedau nad ydynt yn cael digon o gyfleoedd celfyddydol sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd.

I wneud hyn, rydym angen unigolion creadigol sy’n gallu ymuno â’r prosiect gyda meddwl agored ynghylch pa fath o weithgareddau y gellir eu cynnal, ar gyfer pwy
maen nhw a phwy a all eu harwain. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unigolion sydd yn gallu addasu eu harferion i syniadau ac anghenion y gymuned ac
yn gallu meddwl y tu allan i’r bocs.

Bydd rhaid i chi fod wedi ymrwymo i herio’r “ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud” a bod yn agored i edrych ar eich dysgu a’ch datblygiad eich hun wrth i’r rhaglen fynd
rhagddi.

Efallai na fydd gennych brofiad o gynnal gweithgareddau mewn cymunedau, ond mae’n rhaid i chi fod yn angerddol bod eich cymuned yn cael mwy o brofiadau
celfyddydol. Rydych yn mwynhau’r cyfle i rannu eich sgiliau gydag eraill. Gallwn eich cefnogi i gymryd y cam nesaf i ddatblygu eich creadigrwydd mewn
ffyrdd newydd.

Sut i Wneud Cais


Sesiwn Gyfarfod, Cyfarch a Rhannu
Os ydych chi’n Unigolyn Creadigol o gefndir Lleiafrif Ethnig neu/ a siaradwr Cymraeg
sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’n prosiect, ymunwch â ni yn y sesiwn
gyfarfod, cyfarch a rhannu.
Ewch ar daith o amgylch Venue Cymru, rhannwch eich syniadau am amrywiaeth o
fewn sector Celfyddydau Conwy a chyfarfod y tîm y byddwch yn cydweithio â nhw ar
y prosiect hwn.
Yn gydnabyddiaeth am eich amser, cewch £20 pan fyddwch yn archebu drwy
ddefnyddio’r ddolen ac yn mynychu’r digwyddiad.
27 Mehefin 6pm - 8pm Caffi Venue Cymru
Cliciwch ar y ddolen i archebu eich lle
https://www.eventbrite.co.uk/o/cysylltu-a-ffynnuconnect-flourish-project-betweenconwy-county-borough-council-menter-iaith-conwy-race-council-cymru-venuecymru-86166330513


Os na allwch fynychu’r Sesiwn Gyfarfod, Cyfarch a Rhannu, bydd eich cais dal yn cael
ei ystyried ond hoffem annog gymaint o bobl â phosibl i fynychu.
I Wneud Cais Dywedwch wrthym pam eich bod yn gyffrous i fod yn rhan o’r prosiect hwn a rhannwch 2 o’ch uchafbwyntiau yn eich gwaith gyda ni mewn e-bost neu fideo byr 3
munud o hyd.

Anfonwch nhw at Helen a Vickie, a byddwn yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg
neu’r Saesneg:
helen.e.davies@venuecymru.co.uk  a info@pigtown-theatre.co.uk 

Pryd?

Hoffem glywed gennych cyn gynted â phosib, ond erbyn 12 hanner dydd, dydd
Llun 24 Mehefin 2024 fan bellaf.
Rydym yn rhagweld y cynhelir y gweithgaredd rhwng mis Gorffennaf a Rhagfyr 2024(efallai bydd hyn yn cael ei ymestyn).

Beth ydym yn ei gynnig i chi?
Ffi £300 y dydd os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd, hyd at uchafswm o 23 diwrnod.

Hyblygrwydd Rydym yn hyblyg o ran pryd cynhelir y gwaith yn y cymunedau; rydym eisiau i’r cyfle hwn fod ar agor i bawb. Cefnogaeth Mae’r cyfle hwn ar gyfer pawb i ddysgu o’r broses. Gobeithiwn y byddwn yn dysgu gennych chi ac yn gyfnewid y byddwn yn gallu cynnig Hyfforddiant Cydraddoldeb Hil, Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o’r Iaith Gymraeg, gweithdy Hyfforddiant Hunan-ddatblygu a Chreadigrwydd i chi. Os nad ydych eisoes yn siarad Cymraeg neu’n dysgu Cymraeg, byddwn angen i chi ymrwymo i ddysgu rhywfaint o
Gymraeg Greadigol sylfaenol.

Pwy all ymgeisio?

Rydym yn chwilio am bedwar unigolyn creadigol o gymunedau Cymraeg eu hiaith a/neu gymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd. Rhaid i chi fod yn gymwys i weithio yn y DU. Os nad ydych wedi cofrestru fel gweithiwr llawrydd hunangyflogedig eto, gallwn roi arweiniad i’ch helpu gyda’r broses hwn. Mae’n hanfodol eich bod wedi cofrestru, neu y byddwch yn cofrestru ar gyfer y rôl hon, a’ch cyfrifoldeb chi fydd eich Treth ac Yswiriant Gwladol eich hun.Bydd angen trwydded yrru lawn a defnydd o gar gan ei bod yn bosib y bydd yn
ofynnol i chi weithio mewn lleoliadau gwledig lle nad oes dim neu fawr ddim cludiantcyhoeddus

Mae unrhyw gytundeb contract yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Search