Opportunities & Events

Gŵyl Gwanwyn

Location: Wales | Start Date: 1 Mai 2023

Summary:

Ers 2007, mae Gwanwyn wedi gweithio gydag artistiaid a sefydliadau o bob math i hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau yn ymwneud â’r celfyddydau, o Bollywood i glybiau llyfrau.

Content:

Mae Gŵyl Gwanwyn yn cynnig cyfleoedd i bobl hŷn i gymryd rhan yn y celfyddydau a gweithgareddau creadigol, drwy gymryd rhan eu hun, drwy drefnu gweithgareddau neu wrth fod yn rhan o gynulleidfa. Mae Gŵyl Gwanwyn yn helpu pobl hŷn i elwa a gwella eu hiechyd a’u lles wrth fod yn greadigol. Y thema ar gyfer mis Mai 2023 yw Natur. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi helpu nifer ohonom i werthfawrogi byd natur o’n cwmpas, drwy fynd am dro a thrwy gwrdd â chyfeillion tu allan. Rydyn ni eisiau dathlu sut mae natur yn ein hysbrydoli ni i fod yn greadigol, nid yn unig wrth i ni arddio a choginio, ond ym mhob rhan o’n bywydau. Gall hyn gynnwys dylunio gardd, tyfu pig y crëyr, grilio cynnyrch ein hun, yn ogystal â gweithgareddau creadigol traddodiadol. Rhan o nod Gwanwyn yw herio stereoteipiau heneiddio a stereoteipiau pobl hŷn. Byddwn yn rhoi pwyslais ar weithgareddau, digwyddiadau, artistiaid a grwpiau sydd yn arddangos amrywiaeth profiadau pobl hŷn ledled Cymru. I lanlwytho digwyddiad i’n Calendr Digwyddiadau’r Ŵyl, llenwch ein ffurflen ar-lein: https://forms.gle/c71ucZ578JWmsSwS8 I gael y newyddion diweddaraf am Ŵyl Gwanwyn, ac i ddarganfod sut allwch chi fod yn rhan o’r Ŵyl, ymunwch â’r rhestr bostio drwy e-bostio gwanwyn@agecymru.org.uk Neu ffoniwch 029 2043 1576.

Search