Opportunities & Events
Artist Dawns Cynorthwyol Iechyd Dawns
Location: Swan Gardens, Abertawe | Start Date: 21st May
Summary:
Rydyn ni’n recriwtio Artist Dawns Cynorthwyol (ADA) llawrydd i gefnogi rhaglen Iechyd Da-wns! wythnosol newydd sy’n dechrau ddydd Mercher 21ain Mai.
Content:
Fel yr artist dawns cynorthwyol, byddwch yn cefnogi’r artist dawns arweiniol drwy:
- gofrestru cyfranogwyr,
- dangos addasiadau fel bod pobl yn gallu gwneud fersiwn wrth sefyll,
- fersiwn â chymorth a fersiwn wrth eistedd o ddeunydd yn y dosbarth,
- hwyluso amser cymdeithasol,
- a helpu i gynnal awyrgylch diogel a phleserus i bobl weithio ar eu cryfder, cydbwysedd a chreadigrwydd.
Yn ddelfrydol, mae artistiaid dawns cynorthwyol yn raddedigion dawns neu â'r lefel gyfatebol o brofiad galwedigaethol, gyda phwyslais ar ymarfer dawns cymunedol a/neu weithio gyda phoblogaethau hŷn.
Cyfanswm ffi yr artist dawns cynorthwyol ar gyfer y rhaglen yw £975.00 a chostau teithio o 40c y filltir, hyd at £20 y sesiwn.
Dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb: 5pm ddydd Llun 21 ain Ebrill 2025
Cyfweliad ar-lein: 2 il Mai 2025
Rhaglen yn dechrau: 21 ain Mai 2025