Opportunities & Events
Galw ar ddarpar artistiaid o blith Staff y GIG
Location: BCUHB
Summary:
Oriel Ysbyty Gwynedd – Galwad am weithiau celf gan Staff y GIG
Content:
Ers 2011, mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd a Ffynnon Greadigol (Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC), wedi rhoi llwyfan i artistiaid lleol arddangos eu gwaith yn lobi ysbyty Ysbyty Gwynedd ac mae ymwelwyr, cleifion a staff wedi mwynhau cyfres o arddangosfeydd.
Am y tro cyntaf, ym mis Mawrth 2025, byddwn yn cynnal arddangosfa arbennig iawn o waith celf i ddathlu creadigrwydd anhygoel ein staff! Rydym ni'n chwilio am bobl a hoffai arddangos eu gwaith celf. Boed yn ddechreuwr neu’n fwy profiadol, rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw aelod o staff sy’n hoffi gwneud a chreu. Nid oes angen i chi fod wedi arddangos eich gwaith o'r blaen.
Yr unig beth sydd ei angen yw brwdfrydedd i rannu'r hyn rydych chi wedi bod yn ei greu ag eraill. Dyma gyfle i staff arddangos gwaith, rhannu eu doniaucroesawu ceisiadau mewn amrywiaeth eang o fformatau a chyfryngau celf weledol gan gynnwys: ffotograffiaeth, peintio, lluniadu, animeiddio, graffeg … artistig, ac ysbrydoli eraill!
Rydym yn ac mae lle ar gyfer eitemau 3-D (cerameg, gemwaith crefftus ac ati…)
hefyd!
Os hoffech chi gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen (isod)
dyddiad cau wedi'i ymestyn 3 Chwefror 2025 5pm
https://forms.office.com/e/p0EDgsW1wn