Opportunities & Events

Age Cymru: Prosiect Eiriolaeth ementia

Location: Cymru

Summary:

Mae ein prosiect eiriolaeth dementia annibynnol yn ymwneud â galluogi pobl sydd a diagnosis o ddementia i gael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth y mae eu hangen arnynt a chael llais mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Mae’r prosiect yma i’w cefnogi gyda sefyllfaoedd lle gallent gael eu cam-drin ac angen dod o hyd i ffordd o ddiogelu eu hun. Bydd yr eiriolaeth rydyn ni'n ei gynnig yn annibynnol o unrhyw wasanaeth arall y mae pobl sy'n byw gyda dementia yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y bydd yr unigolyn â dementia wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a gallwn eu cefnogi a'u cynrychioli heb unrhyw wrthdaro buddiannau.

Mwy o Gwybodaeth Yma

Content:

Ble fydd y prosiect yn darparu ei wasanaethau?

Dyma brosiect ledled Cymru sy'n cael ei gyflawni gan eiriolwyr cyflogedig ond byddwn ni'n gweithio ar draws rhanbarthau ag eiriolwyr rhanbarthol.

Dyma'r rhanbarthau hyn:

  • Caerdydd, a Bro Morgannwg
  • Conwy a Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint a Wrecsam
  • Gwent
  • Gwynedd ac Ynys Môn
  • Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf
  • Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin
  • Powys
  • Abertawe, Pen-y-bont a Chastell Nedd Port Talbot

Pwy fydd y prosiect hwn yn ei helpu a'i gefnogi?

Unrhyw un 18+ sydd a diagnosis o ddementia

Pwy fydd yn cyflawni'r prosiect hwn?

Mae ein holl eiriolwyr yn eiriolwyr cyflogedig ac ni fyddwn yn defnyddio gwirfoddolwyr ar y prosiect hwn.

Sut alla i ddarganfod mwy o wybodaeth?

Am fwy o wybodaeth gweler ein taflen

Sut y gallaf gael mynediad at eiriolaeth annibynnol

Os ydych yn meddwl eich bod chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, angen ein cefnogaeth eiriolaeth, lawrlwythwch furflen atgyfeirio a'i dychwelyd y ffurflen wedi'i llenwi i dementiaadvocacy@agecymru.org.uk

Os nad ydych yn siŵr am wneud atgyfeiriad anfonwch e-bost atom neu rhowch alwad ar 029 2043 1555.

Search