Opportunities & Events
Amgueddfa Cymru Galwad am artistiaid i gyflwyno gweithdai i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia
Location: Cenedlaethol – ar draws saith amgueddfa, Amgueddfa Cymru
Summary:
Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am bobl greadigol i ddatblygu a chynnal sesiynau arloesol a deniadol i gyfoethogi’r rhaglen o waith o gwmpas Dementia
Content:
Project tair blynedd yw Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion ac mae’n bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer’s Cymru. Mae’n archwilio sut gallwn ni ddefnyddio ein hamgueddfeydd a'n casgliadau amgueddfa i wella lles pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. Ers 2022 mae tîm Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi bod yn gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, staff y sector gofalwyr, cydweithwyr yn y sector treftadaeth a chymunedau a sefydliadau ledled Cymru, ac yn canolbwyntio ar bedwar prif ddarn o waith: • sefydlu Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth i helpu i lywio a siapio'r project • datblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddi ymwybyddiaeth dementia ar gyfer staff a gwirfoddolwyr y sector treftadaeth • darparu pecyn cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl/staff y sector gofal wrth ddefnyddio adnoddau'r Amgueddfa gyda'r rhai y maen nhw’n gofalu amdanynt • creu rhaglen gynaliadwy o weithgareddau i'r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, yn ein hamgueddfeydd ac yn y gymuned Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein gwefan: https://amgueddfa.cymru/lles/amgueddfeydd-yn-ysbrydoli-atgofion-gweithio-dros-ddementia/?_gl=1*1jo7zxu*_gcl_au*MTQwOTEzMTAyOS4xNzE2MzAwNTE2*_ga*NTQ4OTU3OTA3LjE2NTc3MjYwMDQ.*_ga_Q4211BYX1V*MTcyMjUwMjY0NC40MjQuMS4xNzIyNTAyNjQ1LjAuMC4w&_ga=2.247370052.1576928057.1722352069-548957907.1657726004 Yn nhrydydd cam y project, rydyn ni’n datblygu’r rhaglen o weithgareddau ar draws ein saith amgueddfa ledled Cymru ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. Bydd llawer o'r gweithgareddau hyn yn cael eu cyflawni gan dimau mewnol yn yr Amgueddfa, ond rydyn ni hefyd yn chwilio am bobl greadigol i ddatblygu a chynnal sesiynau arloesol a deniadol i gyfoethogi’r rhaglen. Yn ddelfrydol, dylid adeiladu'r rhain o amgylch un neu fwy o'r Pum Ffordd at Les, h.y. cysylltu, bod yn sylwgar, bod yn fywiog, dal ati i ddysgu, rhoi. Yn ddelfrydol, dylen nhw gynnwys y synhwyrau, a rhaid iddyn nhw ymwneud â'n hamgueddfeydd neu gasgliadau mewn rhyw ffordd. Po fwyaf arloesol ac anarferol, gorau oll! Rydyn ni’n croesawu diddordeb cychwynnol gan bob unigolyn creadigol – awduron, cerddorion, artistiaid gweledol ac yn y blaen. Ffi ac Amserlen Cyfanswm y ffi yw £500 – sy'n cynnwys datblygu sesiwn/gweithdy a’i gyflwyno yn un o'n saith amgueddfa. Mae'r ffi hon yn cynnwys yr holl gostau teithio. Bydd y rhaglen gweithgareddau mewnol yn cael ei lansio'n ffurfiol yn ystod haf 2024, ond bydden ni’n croesawu syniadau i'w cyflwyno y tu allan i'r amserlen hon. Cysylltwch â Sharon.Ford@amgueddfacymru.ac.uk am ragor o fanylion, neu i anfon mynegiant o ddiddordeb 200-400 gair.