Opportunities & Events

Cyfleoedd Mentora i Ymarferwyr Creadigol - Camu i Mewn

Location: Cymru | Start Date: 15 Mis Mai

Summary:

Rhaglen hyfforddi a mentora gyffrous ar gyfer carfan o 4 mentai-ymarferwr creadigol o gymunedau lleiafrifedig yng Nghymru yw 'Camu i Mewn'.

Contact: stepping@wahwn.cymru

Content:

Rhagymadrodd

  • Ydych chi’n ymarferydd creadigol (unrhyw ffurf gelfyddydol) sy’n angerddol dros ddefnyddio eich sgiliau i gefnogi iechyd a llesiant pobl?
  • Oes gennych chi brofiad byw o un neu fwy o’r canlynol: hunaniaeth mwyafrif byd-eang, eithrio cymdeithasol, iechyd meddwl, Byddar/anabledd, LHDTC+, cefndir economaidd-gymdeithasol isel?
  • Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn rhaglen chwe mis gyda chefnogaeth, â’r nod o amrywio’r gweithlu celfyddydau ac iechyd?
  • Hoffech chi weithio a chael profiad mewn sefydliad celfyddydau ac iechyd mewn ardal sy’n lleol i chi?

Os gallwch ateb yn gadarnhaol i’r uchod i gyd yna gallai Camu i Mewn fod yn addas i chi!

 

Beth yw Camu i Mewn?

Rhaglen hyfforddi a mentora gyffrous ar gyfer carfan o 4 mentai-ymarferwr creadigol o gymunedau lleiafrifedig yng Nghymru yw 'Camu i Mewn'. Dyma’r rhaglen gyntaf o’i math, yn cael ei pheilota ar gyfer de a gorllewin Cymru. Cynlluniwyd Camu i Mewn gan WAHWN mewn ymgynghoriad â’r sector mewn ymateb i’r diffyg amrywiaeth yn y gweithlu yn y celfyddydau creadigol ac iechyd. Bydd y rhaglen yn helpu i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen i gyflenwi prosiectau mewn lleoliadau celfyddydau ac iechyd, drwy hyfforddi, cysgodi prosiect byw, mentora a chymorth gan gymheiriaid.

 

Partneriaid y Prosiect

 

Beth fydd y rhaglen yn ei gynnwys?

  • Cymryd rhan mewn wythnos lawn o hyfforddiant dwys yng Nghaerdydd – 5 diwrnod llawn a gyda’r nos Llun 24 – Gwener 28 Mehefin
  • Cysgodi ymarferydd/tîm/sefydliad celfyddydau ac iechyd profiadol ar brosiect byw mewn lleoliad iechyd neu gymunedol am hyd at 10 diwrnod (gyda chefnogaeth partneriaid y prosiect) rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref.
  • Cymorth mentora wedi’i deilwra
  • Cymryd rhan mewn sesiynau rhannu a gwerthuso gyda chymheiriaid.

Cynigir y canlynol i’r menteion:

  • Bwrsariaeth o £1,500
  • Cymorth a goruchwylio rheolaidd gan gymheiriaid / cymorth llesiant
  • Costau llety a theithio
  • Costau mynediad

Bydd cysgodi prosiectau byw yn digwydd yn un o’r rhanbarthau canlynol:

  • Cyngor Bwrdeistref Caerffili (Datblygu Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Caerffili)
  • Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) *
  • Llanelli/Sir Gaerfyrddin (PeopleSpeakUp)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot)

*Nodwch fod dyddiadau cysgodi byw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi’u gosod, felly os ydych chi’n dymuno cysgodi yn y rhanbarth hwn, rhaid i chi fod ar gael ar y dyddiadau canlynol: 20 Gorffennaf, 27 Gorffennaf, 3 Awst, 10 Awst, 17 Awst, 24 Awst.

 

Sut i gyflwyno cais

I gyflwyno cais, anfonwch un ochr o destun A4 (mewn dogfen Word neu PDF) neu ffeil fideo/sain nad yw’n hirach na 3 munud. Nodwch y canlynol:

  • Gwybodaeth amdanoch chi fel artist/person creadigol a’ch dull o hwyluso gweithdy
  • Pam fod gennych chi ddiddordeb yn y rhaglen a beth ydych chi’n gobeithio ei gael o’r profiad?
  • Beth ydych chi’n disgwyl ei gyfrannu i’r rhaglen?
  • Ble rydych chi’n byw a’r rhanbarth yr hoffech chi ymgymryd â’r lleoliad cysgodi ynddo.

Anfonwch hwn drwy ebost at Tom Bevan, Rheolwr Rhaglen Camu i Mewn, stepping@wahwn.cymru cyn hanner nos ar 15 Mai. Gofynnir hefyd i chi gwblhau ffurflen Monitro Amrywiaeth a Chydraddoldeb.

 

Llinell amser

  • Dyddiad cau ceisiadau: Hanner nos 15 Mai
  • Sesiwn Cwrdd â’r Partneriaid: gwahoddir menteion ar y rhestr fer i gwrdd â’r partneriaid ar brynhawn 23 Mai i glywed mwy am y rhaglen.
  • Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu erbyn Mai 31

Os hoffech drafod unrhyw beth yn benodol am y rhaglen neu’r broses ymgeisio, cysylltwch ag Angela Rogers info@wahwn.cymru

 

Mwy o wybodaeth yn ein PDF y gellir ei lawrlwytho:

CamuIMewn_MenteeCallout_CY

Search