Opportunities & Events

Ymgynghorydd Datblygu Rhaglen Dawnsio i Iechyd Cymru

Location: Gweithio gartref ac ymweliadau rheolaidd â lleoliadau yn Abertawe | Start Date: 15 Ionawr 2025 – 30 Ebrill 2025

Summary:

Yma yn Aesop, rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig ac angerddol i ymuno â’r tîm ac i gefnogi’r datblygiad o’n gwaith yng Nghymru.

Content:

Bydd y swydd yn helpu Aesop i ddatblygu’r rhaglenni Dawnsio i Iechyd; meithrin a chynnal ein rhwydweithiau a phartneriaethau lleol yn ardaloedd Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot; deall effaith a chanlyniadau’r rhaglen i weithredu fel eiriolwr a llysgennad; cefnogi’r gwaith o werthuso ac adnabod cyfleoedd i gysylltu Dawnsio i Iechyd â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â sefydliadau diwylliannol, iechyd creadigol a chymunedol.

Byddwch yn gweithio’n agos â Rheolwr Rhaglenni Aesop yng Nghymru, a’r Cynorthwyydd Rhaglenni yn lleol, sy’n gyfrifol am reoli’r rhaglenni o ddydd i ddydd. Byddwch hefyd yn ymddwyn fel y cyswllt â thîm rheoli rhaglenni Aesop a phartneriaid a rhwydweithiau lleol.

 

CWMPAS

1. Cefnogi datblygiad y rhaglen Dawnsio i Iechyd yng Nghymru a’i hehangu

2. Cefnogi’r gwaith o werthuso’r rhaglen fel un sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru

3. Gweithio gyda phartneriaid a grwpiau rhanbarthol

  • Mapio’r ddarpariaeth iechyd creadigol leol
  • Datblygu perthynas gyda chomisiynwyr a phartneriaid diwylliannol/iechyd creadigol.
  • Datblygu digwyddiadau a rhwydweithiau lleol mewn cydweithrediad â rheolwyr rhaglenni Aesop gan gynnwys digwyddiad undydd ym mis Chwefror 2025
  • Casglu a chofnodi straeon ac adborth gan gyfranogwyr, gofalwyr, gwirfoddolwyr ac ati  
  • Cefnogi gwerthuso rhaglenni a phrosiectau

CANLYNIADAU DYMUNOL

1. Mwy o ymwybyddiaeth o’r rhaglen Dawnsio i Iechyd yng Nghymru

2. Adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau lleol

3. Cefnogi Aesop i asesu dichonoldeb gwneud cais ariannu mawr gyda phartneriaid lleol i gefnogi twf a chynaliadwyedd ymyriadau sy’n seiliedig ar y celfyddydau sy'n cefnogi ansawdd bywyd pobl hŷn.

 

Am ragor o wybodaeth, a disgrifiad swydd llawn, ewch i'n gwefan: https://dancetohealth.org/hiring-wales-programme-development-consultant / I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich diddordeb ac addasrwydd ar gyfer y swydd hon erbyn 23 Rhagfyr 2024.

Anfonwch eich CV at ceo@ae-sop.org.

Ein nod yw cwrdd ag ymgeiswyr addas yn yr wythnos sy’n dechrau ar 6 Ionawr 2025. Bydd y cyfweliadau cyntaf yn cael eu cynnal ar-lein.

Search