Opportunities & Events
Crefftwyr Campus Galw ar Wneuthurwyr Conwy
Location: sir Conwy | Start Date: Yn ystod y gwyliau haf
Summary:
‘Crefftwyr Campus’ yw thema Sialens Ddarllen yr Haf eleni ac mae’n ymwneud â bod yn GREADIGOL. Mae Creu Conwy yn chwilio am Artist-wneuthurwyr i gynnal bloc o sesiynau ½ diwrnod ym mhob un o’n Llyfrgelloedd Ardal ar y diwrnodau canlynol dros 5 wythnos:
Content:
• Bob dydd Llun – Llanrwst • Bob dydd Mawrth – Llandudno • Bob dydd Mercher – Conwy • Bob dydd Iau – Bae Colwyn • Bob dydd Gwener - Abergele Dyma gyfle i arddangos eich gwaith fel Gwneuthurwr lleol tra'n cynnal sesiynau creadigol hamddenol ar sail galw heibio ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd. I wneud cais, anfonwch gynnig amlinellol ar gyfer y sesiynau (dim mwy nag 1 dudalen yn manylu ar eich profiad blaenorol) at creu@conwy.gov.uk erbyn 08/07/24 gan nodi'r lleoliad y byddech yn ei ffafrio. £150 y sesiwn fyddai'r ffi (yn cynnwys deunyddiau). Sylwch y bydd rhai sesiynau yn cael eu cynnal yn y gofod llyfrgell ei hun a rhaid meddwl sut y gallai hyn weithio. I gael mwy o wybodaeth, gweler: https://bit.ly/4cBv4ib