Opportunities & Events

Hwb Celf/Datganiad o ddiddordeb - Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd)

Location: Suth Gorllewin Cymru | Start Date: Ionawr 2022

Summary:

BIPHDd yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan fudiadau celfyddydol i ddatblygu a darparu Hwb Celf; rhaglen beilot y celfyddydau ym maes iechyd meddwl a fydd yn para am flwyddyn, ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw ag anhwylderau bwyta, hunan-anafu, hwyliau isel a/neu sy'n meddwl am hunanladdiad.

Content:

Hwb Celf/Datganiad o ddiddordeb

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan fudiadau celfyddydol i ddatblygu a darparu Hwb Celf ymhellach; rhaglen beilot y celfyddydau ym maes iechyd meddwl a fydd yn para am flwyddyn, ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw ag anhwylderau bwyta, ymddygiadau hunan-anafu, hwyliau isel a/neu sy'n meddwl am hunanladdiad.

Ariennir y rhaglen gan Celf a’r meddwl | Arts and minds – rhaglen newydd gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n anelu at gefnogi iechyd meddwl gwell yng Nghymru ac a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol.

Dyddiad cau: 9am dydd Llun 6 Rhagfyr 2021

Cyfweliadau: dydd Mercher 15 Rhagfyr 2021

 

Cyd-destun Prosiect Hwb Celf:

Bydd yr ymyrraeth gelfyddydol o ansawdd uchel hon yn gyfle i BIPHDd dorri tir newydd mewn modd uchelgeisiol, a bydd yn treialu gweithgareddau creadigol sy'n manteisio ar bŵer trawsnewidiol y celfyddydau i leihau trallod seicolegol ymhlith plant a phobl ifanc. Mae'r grŵp hwn wedi'i nodi yn flaenoriaeth trwy'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed (sCAMHS), a bydd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag sCAMHS a Thîm Celfyddyd mewn Iechyd newydd Hywel Dda, a bydd yn cynnwys cleifion y mae sCAMHS yn ymwybodol ohonynt ac sy'n cael triniaeth.

Y Briff:

Mae BIPHDd yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan fudiadau celfyddydol i gynllunio, paratoi, cydgysylltu a darparu rhaglen beilot egnïol artistig newydd o weithgareddau creadigol a fydd wedi'u cynllunio i gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc sy'n byw yng Ngorllewin Cymru (Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin).

Rydym yn chwilio am gynigion creadigol a fydd yn cynnig rhaglen o weithgarwch celfyddydol i alluogi plant a phobl ifanc i leihau trallod seicolegol, meithrin y sgiliau a'r cadernid i'w harfogi ymhellach i ymdopi â phrofiadau negyddol, a chael mwy o ymdeimlad o fod wedi eu grymuso.

Bydd BIPHDd yn dewis hyd at dri mudiad celfyddydol i ddatblygu'r cynigion ymhellach, mewn partneriaeth ag sCAMHS a Thîm Celfyddyd mewn Iechyd newydd Hywel Dda.

Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais bydd angen i chi fod yn fudiad celfyddydol sydd wedi eich lleoli yng Nghymru ac sy'n gweithio yn un o ffurfiau celfyddydol cydnabyddedig Cyngor Celfyddydau Cymru a restrir yma https://arts.wales/cy/funding/help.

Oherwydd natur y prosiect, bydd BIPHDd yn disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o bolisïau a gweithdrefnau cyfredol yn rhan o'r broses ddethol.

Mae BIPHDd yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Yn cynnig cyfuniad o weithgareddau creadigol wyneb yn wyneb a/neu o bell rheolaidd ar gyfer hyd at 30 o blant a phobl ifanc y mae sCAMHS BIPHDd yn ymwybodol ohonynt, erbyn mis Hydref 2022
  • Yn cynnig gweithgareddau creadigol sy'n briodol i'r oedran dan sylw ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng Blwyddyn 6 a Blwyddyn 11 (11-16 oed)
  • Yn cael eu cyflwyno dros ddau dymor o waith (y Gwanwyn 2022 a'r Haf 2022)
  • Gallai pob tymor gael ei gynnal dros gyfnodau o 8-10 wythnos
  • Wedi eu cynllunio i ymateb i anghenion o ran oedran a lleoliad y plant a'r bobl ifanc ar yr adeg y cânt eu cynnal
  • Yn cael eu cyflwyno mewn modd sy'n bodloni cyfyngiadau newidiol y pandemig
  • Yn cael eu cynnal yn ddwyieithog, os bydd angen
  • Y gellir eu haddasu – dylai'r gweithgareddau arfaethedig gael eu cynnal ar-lein, ond bod modd eu symud i fod wyneb yn wyneb os bydd y cyfyngiadau yn caniatáu i hynny ddigwydd
  • Eu bod yn hygyrch – yn gweithio gyda BIPHDd i sicrhau bod anghenion amrywiol pob un sy'n cymryd rhan yn cael eu diwallu
  • Yn enwi artistiaid a fydd yn cyflwyno'r gweithgareddau, a dylai'r Datganiadau o Ddiddordeb roi manylion pellach am brofiad ac arbenigedd yr artistiaid.

Bydd angen i fudiadau celfyddydol wneud y canlynol:

  • Darparu profiadau celfyddydol diogel ac ystyrlon o ansawdd uchel sy'n ennyn diddordeb ac yn diwallu'r canlyniadau arfaethedig a amlinellir isod, a hynny i blant a phobl ifanc y mae BIPHDd yn ymwybodol ohonynt.
  • Cyflwyno'r ddarpariaeth gelfyddydol gytunedig i'r plant a'r bobl ifanc yn unol â phrotocolau lleol a gweithdrefnau cytunedig.
  • Cynnal dyletswydd gofal i'r claf a pharchu urddas y plant a'r bobl ifanc, a gweithredu mewn modd proffesiynol bob amser tuag at y plentyn a'r teulu gan fod yn ymwybodol o amrywiaeth a chredoau diwylliannol.
  • Ymrwymo i ddiogelwch y cyfranogwyr agored i niwed a nodwyd trwy baratoi asesiadau risg, a gweithio o fewn fframwaith polisi BIPHDd. Bydd BIPHDd yn disgwyl bod gan fudiadau celfyddydol bolisïau cadarn yn ymwneud â diogelu, cydraddoldeb a chynhwysiant, ynghyd â pholisïau eraill y bydd angen eu cyflwyno os bydd y Datganiad o Ddiddordeb hwn yn llwyddo.
  • Cymryd rhan mewn sesiynau cynefino celfyddydol BIPHDd a gweithgareddau hyfforddi perthnasol.
  • Cadw pob cofnod yn unol â phrotocolau a chanllawiau lleol cytunedig.
  • Darparu system gweinyddu'r prosiect, e.e. trefnu lleoliadau, comisiynu a chontractio artistiaid unigol, artistiaid i baratoi dyddiaduron myfyrio.
  • Ymrwymo i werthuso ac arfer gorau trwy weithio gyda staff BIPHDd i gyflawni'r cynlluniau gwerthuso ar gyfer y prosiect hwn.
  • Ymrwymo i gyd-gynllunio'r rhaglen.
  • Ymrwymo i rannu'r canlyniadau.
  • Cofnodi'r gweithgarwch, gan gynnwys cipio delweddaeth, deunydd ffilm ac allbynnau creadigol.
  • Hwyluso'r broses dechnegol o gyflwyno gweithdy ar-lein neu all-lein.

Dylai datganiadau o ddiddordeb ddangos gallu i gyflawni'r canlyniadau arfaethedig canlynol ar gyfer y ddau grŵp targed o blant a phobl ifanc:

  • Lleihau trallod seicolegol ymhlith plant a phobl ifanc agored i niwed.
  • Cefnogi technegau hunanreoli.
  • Galluogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y celfyddydau yn broses o fynegiant creadigol trwy'r weithred o adeiladu ffurfiau diriaethol ar feddyliau ac emosiynau personol.
  • Galluogi plant a phobl ifanc i chwalu safbwyntiau negyddol a datgymalu poen sydd wedi'i gadw'n fewnol trwy'r technegau celfyddydol sy'n cynnwys gweithredoedd dinistriol o rwygo, torri, difrodi, yn ogystal â diwygio a thrawsnewid darnau o gelf a grëwyd yn flaenorol.
  • Arfogi'r plant a'r bobl ifanc ymhellach i'w galluogi i ymdopi â phrofiadau negyddol ac i ddatblygu ffyrdd newydd o ddeall yr emosiynau sy'n codi i'r wyneb trwy brofiadau anodd.
  • Canolbwyntio ar yr agwedd fyfyriol ar greadigrwydd, a helpu'r plant a'r bobl ifanc i feithrin dulliau ymdopi i'w cynorthwyo i leihau teimladau o drallod, ac annog ymwybyddiaeth ofalgar ac ymdeimlad o lonyddwch.
  • Hybu cadernid a sgiliau ymdopi, a chynyddu'r ymdeimlad o fod wedi eu hymrymuso.
  • Galluogi plant a phobl ifanc i rannu profiadau, gan anelu at gynyddu'r weithred o sgwrsio ag aelodau'r teulu.
  • Creu man diogel i ganiatáu i'r broses adfer ddechrau.

Plant a phobl ifanc sy'n byw ag ymddygiadau hunan-anafu, hwyliau isel a/neu sy'n meddwl am hunanladdiad:

  • Bod yn fodd o dynnu sylw oddi ar ystyriaethau yn ymwneud â hunan-anafu/hunanladdiad a dod yn gynhwysydd mwy defnyddiol ar gyfer ymdopi ag emosiynau poenus.
  • Creu gwaith celf sy'n trosi'r boen, neu gall y plant a'r bobl ifanc greu celfyddyd sy'n cyflwyno delweddaeth gadarnhaol a all fynd i'r afael â'r ddelweddaeth negyddol y maent yn ei dal ar y tu fewn.

Plant a phobl ifanc sy'n byw ag anhwylderau bwyta:

  • Caniatáu i blant a phobl ifanc allu cyfleu gwrthdaro mewnol eu hanhwylder bwyta i aelodau o'r grŵp er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel, ac nid ar eu pen eu hunain.
  • Caniatáu i blant a phobl ifanc allu trafod eu gorbryder a'u hofn o'u diffygion canfyddedig a phrofiadau a rennir.

Bydd timau Hywel Dda yn rhannu ymrwymiad i werthuso, i sicrhau arfer gorau ac i gyd-gynllunio'r rhaglen, a bydd yn gyfrifol am y canlynol:

Bydd tîm y sCAMHS yn darparu'r canlynol:

  • Clinigydd a enwebir
  • Cyswllt â rhieni
  • Atgyfeiriadau, nodi cleifion, rhannu gwybodaeth ynghylch cleifion
  • Cydsyniad ar sail gwybodaeth
  • Cyswllt â'r Fforwm Cyfranogiad Profiadau Byw

Tîm Celfyddyd mewn Iechyd BIPHDd:

  • Ymdrin â Datganiadau o Ddiddordeb, dewis a chontracio
  • Cysylltu ag artistiaid
  • Comisiynu ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau a chymorth
  • Rheoli cyllidebau
  • Cysylltu ag artistiaid, briffio, cymorth, hyfforddiant a sesiynau cynefino

Ar gyfer pwy y mae hyn?

Bydd o fantais i hyd at 30 o blant a phobl ifanc, y mae sCAMHS yn ymwybodol ohonynt, sydd ag anhwylderau bwyta penodedig a/neu ymddygiadau hunan-anafu/hwyliau isel/sy'n meddwl am hunanladdiad. Byddant yn cael eu hatgyfeirio i'r prosiect gan ddeiliaid achosion sCAMHS gyda chydsyniad ar sail gwybodaeth gan y plant a'r bobl ifanc.

Ymrwymiad i werthuso:

Bydd gan y rhaglen beilot fodel werthuso trwyadl wedi'i sefydlu. Rydym yn chwilio am fudiadau celfyddydol i gynorthwyo BIPHDd i ddatblygu astudiaethau achos a fydd yn ein helpu i ddeall yn well a hybu'r effaith y gall y celfyddydau ei chael ar wella iechyd meddwl a lleihau straen yn ein cleifion.

Bydd Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion safonol (PROMs) yn llywio'r atgyfeiriadau ac yn mesur canlyniadau. Bydd dyddiaduron myfyrio gan artistiaid hefyd yn ofynnol.

Gwneud cais:

Gwnewch gais trwy anfon eich Datganiad o Ddiddordeb, na ddylai fod yn fwy na dwy ochr A4, at Kathryn.lambert@wales.nhs.uk, yn amlinellu eich cynnig a'r modd y byddai'n bodloni gofynion y briff, ynghyd â CV eich sefydliad a llythyr eglurhaol byr yn esbonio pam yr hoffech ymgymryd â'r prosiect hwn.

Cofiwch hefyd gynnwys dolenni i enghreifftiau blaenorol o'ch gwaith ar-lein, artistiaid a enwir a chyllideb arfaethedig

Meini prawf dethol:

Dewisir yr ymgeiswyr llwyddiannus trwy iddynt amlygu eu dawn yn unol â'r meini prawf canlynol:

  • Ansawdd y cynnig ac ymateb creadigol i'r briff
  • Ansawdd artistig (arloesedd, priodoldeb, gwreiddioldeb, perthnasedd)
  • Profiad o weithio ym maes y celfyddydau iechyd a llesiant/cymunedol/cyfranogol (yn enwedig iechyd meddwl)
  • Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc
  • Cymhwystra (yn pasio gwiriadau perthnasol yn ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau)
  • Y posibilrwydd o gyflawni'r prosiect (cynllun y prosiect a'r gallu i'w ddarparu)
  • Ymrwymiad i werthuso
  • Ehangder y ffurf gelfyddydol
  • Dosbarthiad daearyddol
  • Gwerth am arian

Gwahoddir rhestr fer o fudiadau celfyddydol i ddau gyfweliad ac i gael rhagor o wybodaeth am eu polisïau a'u gweithdrefnau

Cyfweliad 1 – Panel Dethol y Prosiect

Cyfweliad 2 – Fforwm Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc – sy'n cynnwys plant a phobl ifanc â phrofiad byw o anhwylderau bwyta a hunan-anafu.

Argaeledd

Cyflawnir y prosiect rhwng mis Ionawr 2022 a mis Medi 2022. Bydd yr union ddyddiadau yn cael eu cadarnhau â'r ymgeiswyr llwyddiannus wrth eu recriwtio.

Ffioedd

Hyd at £8,000 fesul comisiwn yn seiliedig ar gyfradd ddyddiol o £200 y dydd.

Mae'r holl ffioedd yn cynnwys TAW, treuliau teithio, a chostau deunyddiau a mynediad.

Cytunir ar amserlen dalu ar ddechrau'r contract.

Cofiwch amlinellu'r modd y byddech yn bwriadu gwario'r gyllideb o £8,000.

Cydraddoldeb

Bydd y prosiectau yn cydymffurfio â gofynion o ran Cydraddoldeb a'r Gymraeg, ac yn cael eu cynllunio i fod yn hygyrch i bawb.

Diogelu

Bydd yr artist(iaid) neu'r grŵp celfyddydol yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl artistiaid a staff llawrydd a gyflogir gan y sefydliad (gan eu cynnwys eu hunain) wedi cael gwiriad manwl gan y CRB/DBS, a hynny ar sail gwiriad bob tair blynedd o leiaf.

Yswiriant

Dylai mudiadau celfyddydol gael eu cynnwys yn eu hyswiriant indemniad proffesiynol a'u hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus eu hunain am swm nad yw'n llai na £5 miliwn o yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac £11 miliwn o yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr.

Datganiad Preifatrwydd

Mae Tîm Celfyddyd mewn Iechyd BIPHDd yn parchu eich preifatrwydd ac yn diogelu'r holl wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi i ni yn rhan o'ch Datganiad o Ddiddordeb. Dim ond yn rhan o'r broses o wneud cais y bydd yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn cael ei defnyddio gennym i gysylltu â chi.

Cliciwch yma i gael manylion llawn Hysbysiad Preifatrwydd BIPHDd.

Os ydych yn dymuno cael newyddion a chyfleoedd Celfyddydau mewn Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, rhowch wybod i ni yn eich cais.

Os hoffech drafod unrhyw beth cyn gwneud cais, anfonwch neges e-bost at kathryn.lambert@wales.nhs.uk, Cydgysylltydd Celfyddyd mewn Iechyd Hywel Dda.

Search