Opportunities & Events

Galwad agored am werthuswyr annibynnol

Location: Gogledd Cymru | Start Date: May 2025

Summary:

Rydym yn awyddus i benodi gwerthuswr annibynnol i werthuso effaith y prosiect ar gyfranogwyr o ran cefnogi eu llesiant neu ei wella o bosib.

Content:

Crynodeb Mae Cysgod rhag y glaw yn brosiect sy’n bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Celfyddydau Awdurdod Lleol Conwy a Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

Mae’n defnyddio creadigrwydd i wella llesiant meddwl yn dilyn covid-19 trwy raglen Gelfyddydau Cymunedol ar gyfer pobl sy’n defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl neu sy’n profi heriau iechyd meddwl.

Rydym yn awyddus i benodi gwerthuswr annibynnol i werthuso effaith y prosiect ar gyfranogwyr o ran cefnogi eu llesiant neu ei wella o bosib.

Ariennir y prosiect gan NHS Charities Together [mae wedi’i gymeradwyo mewn egwyddor gan y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol, a disgwylir cymeradwyaeth derfynol].

Briff y prosiect Ers Covid gwelwyd effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles y boblogaeth.

Mae arferion diweddar yn tueddu i roi ffocws ar atal ac ymyrraeth gynnar i leihau’r pwysau ar wasanaethau’r GIG, ac i sicrhau bod pobl, yn unol â Strategaeth y Bwrdd Iechyd, yn gallu, lle bo’n bosibl, derbyn gofal yn nes at eu cartrefi.

Mae tystiolaeth gadarn bod defnyddio’r celfyddydau o fewn gofal iechyd yn effeithiol (e.e., Fancourt, Warran ac Aughterson 2020).

Gall creadigrwydd sbarduno, greu ffocws, difyrru, tawelu’r meddwl, cynnig seibiant, bod yn gymdeithasol, a rhoi mwynhad a phleser.

Mae'r prosiect hwn yn bartneriaeth gyda thimau Celfyddydau Awdurdod Lleol Conwy a Hamdden Sir Ddinbych Cyf lle cyflwynir gweithgareddau celfyddydol mewn lleoliadau cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Mae hyn yn golygu y gall y prosiect gynnwys sbectrwm eang o'r boblogaeth o ran difrifoldeb eu salwch, er mwyn ategu unrhyw driniaeth, i atal dirywiad mewn iechyd meddwl, i gynnal iechyd meddwl presennol a gwella iechyd meddwl a lles.

Bydd partneriaid cymunedol sy’n cynnal gweithgareddau ac yn cefnogi cyfranogwyr yn rhan o’r prosiect yma.

Mae'r bartneriaeth hon yn rhan o Fframwaith Strategol BIPBC y Celfyddydau mewn Iechyd gan ei bod yn gweithio mewn partneriaeth i wella iechyd poblogaeth Gogledd Cymru drwy'r celfyddydau.

Y gymuned yw ffocws y prosiect hwn, er mwyn lleihau’r pwysau ar unedau a gwasanaethau iechyd meddwl lleol, drwy ymgysylltu â’r rhai sy’n profi afiechyd meddwl, naill ai pan fyddant newydd gael diagnosis neu driniaeth, neu fel rhan o gefnogaeth barhaus ar ôl cyfnodau o fod yn glaf mewnol, neu i atal salwch rhag digwydd eto.

Yn yr un modd, dylai'r prosiect hybu lles cyffredinol y grŵp hwn, yn ogystal â gwella hwyliau - cynyddu hyder, ymdeimlad o werth, mwynhad a phleser, difyrrwch a ffocws, o bosibl.

Hyfforddiant a datblygiad staff yn rhoi’r hyder i unigolion integreiddio’r celfyddydau â gofal iechyd, cefnogi eu lles personol, ac ymgysylltiad â chleifion.

Bwriedir i hyn fod o fudd i'r staff a'r cleifion fel ei gilydd er mwyn gwella'r ddarpariaeth gofal iechyd.

Hyfforddiant a datblygiad partner ac artist yn cefnogi’r sector ehangach er mwyn bodloni’r galw a’r angen, ac i sicrhau bod hyfforddiant ac arbenigedd digonol yng Ngogledd Cymru i ddefnyddio’r celfyddydau a chreadigedd gyda phobl sy’n profi heriau o ran eu hiechyd meddwl a’u lles.

Rhan allweddol o hyn yw sicrhau iechyd a lles y rhai sy'n gweithio yn y maes hwn, er mwyn atal gorflinder a sicrhau eu bod nhw eu hunain yn cadw’n iach er mwyn iddynt allu parhau i wneud y gwaith hwn.

Nodau'r prosiect Ceir dwy elfen i’r prosiect ar gyfer cyflawni’r nodau:

1. Gweithio mewn partneriaeth i gefnogi gweithgareddau creadigol mewn lleoliadau cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych er mwyn cefnogi ystod eang o bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl naill ai: pan fyddant newydd gael eu rhyddhau o wasanaethau cleifion mewnol, yn aros am driniaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl neu wedi iddynt fod at feddyg teulu neu wasanaethau eraill am gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl. Nod yr elfen gymunedol hon yw cefnogi Gofal Iechyd trwy leihau'r pwysau ar wasanaethau drwy gefnogi'r rhai ag anawsterau iechyd meddwl yn gynt, yn ogystal â'r rhai sy'n profi heriau parhaus, i gefnogi eu lles meddwl er mwyn lleihau'r angen am fynediad at ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd.

2. Hyfforddiant a datblygiad celfyddydol ar gyfer y sefydliadau partner, staff gofal iechyd yn BIPBC, ac artistiaid. Rhagwelir ystod o fanteision i staff, gan gynnwys: cynyddu hyder a boddhad, cefnogi ymgysylltiad rhwng cleifion a staff yn ogystal â chefnogi lles meddwl staff. O ran partneriaid, bydd ganddynt fwy o hyder wrth ddefnyddio'r celfyddydau i gefnogi iechyd meddwl a lles eu cyfranogwyr a’u hiechyd a'u lles eu hunain. Bydd yn cynyddu’r ystod o artistiaid sy’n gallu gweithio gyda phobl sy’n profi heriau iechyd meddwl, yn ogystal â chefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles nhw i sicrhau sector cefnogol a ffyniannus sy’n gallu bodloni galw ac angen.

Bydd hyn yn cael ei gyflwyno gyda phartneriaid, sydd â phrofiad o gyflwyno cyrsiau byr a darpariaeth Addysg Uwch yn y Celfyddydau, Iechyd a Lles, yn ogystal â defnyddio ystod o adnoddau ac arbenigedd.

Gweithgareddau’r prosiect

Bydd gweithgareddau'n cael eu cynnal gan artistiaid a gontractir yn allanol.

Bydd y prosiect yn cael ei reoli gan Dîm Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC, gyda Thîm Celfyddydau pob sir yn arwain ar gyflwyno ac adrodd yn ôl yn eu meysydd penodol.

Bydd gweithgareddau’n digwydd fel a ganlyn:

• Oddeutu 6 x bloc 10 wythnos (neu debyg) o weithgaredd creu celf yn y gymuned ar gyfer y rhai ar restrau aros a’r rhai sy'n aros am ddiagnosis/triniaeth, neu sydd wedi gadael gwasanaethau iechyd meddwl o fewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn ddiweddar (3 ym mhob awdurdod lleol) - yn amodol ar gadarnhad

• Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol staff a phartneriaid ar ymgorffori'r celfyddydau i ymarfer iechyd

• Hyfforddi artistiaid ynghylch cynnal iechyd a lles y gweithlu artistiaid a datblygu'r rhai sy'n gweithio gyda phobl â heriau iechyd meddwl i gefnogi arfer gorau Bydd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol yn derbyn adroddiad ar gynnydd y prosiect ddwywaith y flwyddyn Lleoliad Bydd y prosiect yn cael ei gynnal mewn gwahanol leoliadau cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych Er enghraifft: canolfannau llesiant, lleoliadau celfyddydol, ardaloedd cymunedol Cyfanswm y gyllideb werthuso £4,750 (gan gynnwys TAW) a’r holl gostau ar gyfer dylunio, darparu ac adrodd Dylai pob ymateb gynnwys prisiau cywir sy’n cynnwys treuliau a dadansoddiad manwl o'r cynllun gwerthuso arfaethedig.

Bydd yr ymatebion a dderbynnir yn cael eu hasesu ar sail ansawdd y gwasanaeth a'r gallu amlwg i fodloni'r briff, yn hytrach na'r pris isaf. Fodd bynnag, mae gwerth am arian hefyd yn faen prawf i’w ystyried wrth ddewis. Rydym yn gwahodd pob ymgeisydd i gyflwyno eu cynigion mwyaf cost-effeithiol. Dulliau/ Gweithredu Rydym yn croesawu gwaith aml-ddull gan gynnwys dulliau meintiol ac ansoddol megis arsylwadau, mesurau llesiant safonol, cyfweliadau a grwpiau ffocws, yn ogystal â dulliau gweledol a chreadigol o werthuso y gellir eu hymgorffori yng ngweithgareddau’r prosiect. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ddarparwyr sy’n gweithio gyda ‘Newid Mwyaf Arwyddocaol’. Bydd angen i unrhyw werthusiad fod yn addas ar gyfer pobl sydd ag amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl. Gallai hyn gynnwys: • Newidiadau sy’n digwydd i gyfranogwyr wrth ymgysylltu â'r prosiect • Profiadau ac effeithiau sesiynau • Sylwadau artistiaid a phartneriaid sy’n cyflwyno Bydd mesurau’n cael eu cytuno a gallant gynnwys: hunan-adrodd a newidiadau i deimladau cyffredinol o lesiant a welir. Mae potensial hefyd i ystyried ymgysylltu â thimau a gwasanaethau gofal iechyd, neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill. Dylid hefyd sicrhau mesurau i ystyried teimladau sy'n gysylltiedig â chymryd rhan fel: rhyddhad, anogaeth, sgiliau newydd a hyder, gwell hwyliau, diddanwch, cynnydd yn sgiliau cymdeithasol, ac ymgygylltiad staff a chleifion, er enghraifft. Ar gyfer staff, partneriaid ac artistiaid, dylai gwerthusiad ystyried ymgysylltiad staff/cleifion, eu lles eu hunain, sgiliau a hyder newydd, rhwystrau neu gyfleoedd i ymgysylltu’n greadigol o fewn eu rôl, er enghraifft. Gofynion ar gyfer y gwerthuswr annibynnol Bydd y gwerthuswr annibynnol yn gweithio ar y prosiect hwn o fis Mai 2025 (pan gaiff ei benodi) hyd at 31 Mawrth 2026 (pan fydd yr adroddiadau terfynol yn cael eu cyflwyno). Bydd y gwerthuswr annibynnol yn gweithio'n agos gyda Creu Conwy, a Hamdden Sir Ddinbych Cyf i gwblhau gwerthusiad yn ôl yr hyn yr amlinellwyd yn y briff hwn. Bydd diweddariadau interim (3, 6 a 9 mis) yn cael eu cyflwyno i BIPBC, Creu Conwy, a Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Diogelu data a moeseg Bydd y prosiect yn cydymffurfio â gweithdrefnau moeseg BIPBC ar gyfer gwerthuso gwasanaethau. Bydd y gwerthuswr yn rheoli a threfnu unrhyw ddata gwerthuso a gesglir ar gyfer casglu, rhannu a diogelu data drwy gytundeb â phartneriaid. Bydd y gwerthuswr a ddewisir yn darparu datganiad diogelu data i gynnig sicrwydd ynghylch sut mae data’n cael ei storio a’i gadw. Bydd cytundeb wedi ei sicrhau ar gyfer rhannu data'n briodol i'w werthuso gan bartneriaid, yn ôl yr angen. Bydd y gwerthuswr a ddewisir yn rhoi sicrwydd ansawdd i dîm y prosiect bod y safonau ansawdd uchaf wedi'u cyrraedd yn y dulliau a ddefnyddiwyd, ac yn darparu diweddariadau interim a chopïau drafft o'r prif nodau. Dylunio a chasglu data Bydd y gwerthuswr yn gyfrifol am gasglu data, gan weithio gyda phartneriaid i sicrhau eu bod yn mynychu sesiynau’n rheolaidd yn ôl yr angen, yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd a thrafodaethau er mwyn datblygu’r gwerthusiad, ac yn gyfrifol am ddylunio, dadansoddi data ac adrodd. Bydd y gwerthuswr hefyd yn rhannu canlyniadau interim a diweddariadau allweddol gyda'r darparwyr a'r partneriaid. Canlyniadau • Protocol gwerthuso gan gynnwys disgrifiad byr o fwriad y gwerthusiad, dulliau a gweithredoedd arfaethedig, disgrifiad o’r ymyriadau, maint y samplau, manylion y data i'w casglu a llinellau amser ar gyfer casglu data • Adroddiad gwerthuso prosiect manwl yn cynnwys:  crynodeb gweithredol yn amlinellu canfyddiadau allweddol yr adroddiad  Cyflwyniad – yn rhoi’r cefndir ac yn amlinellu cynnwys yr adroddiad  Disgrifiad o'r ymyriad  Methodoleg – disgrifiad o'r strategaeth ymchwil a ddilynwyd  Canfyddiadau  Trafodaeth – ynglŷn â’r canlyniadau, cyfyngiadau’r treial a chyfeiriad yr ymchwil i ddod  Cyfeiriadau yn unol â dull Harvard ar gyfer unrhyw dystiolaeth a ddefnyddir  Unrhyw wybodaeth atodol berthnasol (e.e. tablau, siartiau, data cryno) Gall hyn fod yn weledol ac yn greadigol dyn. • Dylid cyflwyno’r adroddiad terfynol mewn fformat sy'n barod i'w gyhoeddi'n allanol, a dylai gynnwys logos partneriaid, a fformat y cytunwyd arno • Darparu gwybodaeth amserol am gynnydd y gwerthusiad fel y gall partneriaid prosiect adrodd i'w cyllidwyr nhw yn ôl y gofyn Llinell amser y prosiect Gweler isod linell amser ar gyfer y broses ymgeisio a llinell amser arfaethedig ar gyfer y prosiect Amserlen ar gyfer y cais a’r prosiect: Carreg Filltir Dyddiad dangosol Galwad agored 01 Ebrill 2025 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais Dydd Gwener 25 Ebrill 2025 5 pm BST Llunio rhestr fer a phenderfynu 29-01 Mai 2025 Contractio 1 -14 Mai 2025 Cychwyn y prosiect 14 Mai 2025 Diweddariadau/adroddiadau interim Diwedd Gorffennaf 2025, Diwedd Hydref 2025, Ionawr 2026 Adroddiad terfynol y prosiect 31 Mawrth 2026 Cymhwysedd Mae'r alwad hon yn agored i werthuswyr sy'n gallu bodloni briff y prosiect, yr hyn sydd angen ei gyflawni, a'r amserlen. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon. Gwneud cais • Anfonwch eich datganiad o ddiddordeb at: BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk erbyn 5pm Dydd Mercher 16 Ebrill 2025 • Byddwch yn cael gwybod y canlyniad erbyn Dydd Llun 21 Ebrill 2025 • Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect yn dechrau fis Mai 2025 Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r alwad agored hon, cysylltwch â ni drwy e-bost ar BCU.ArtsInHealth@wales.nhs.uk . Bydd tîm Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn ymdrechu i ateb unrhyw ymholiadau o fewn 3-4 diwrnod gwaith Dylai eich Cais gynnwys: • Datganiad byr yn dweud pam fod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn (500 gair ar y mwyaf), a'ch dull gweithredu cychwynnol • 2 enghraifft o waith gwerthuso perthnasol yn y maes hwn • Eich CV • Dyfynbris wedi'i gostio'n llawn • Gallwch gynnwys dolenni ar gyfer enghreifftiau ar-lein Asesu ceisiadau Bydd eich cais yn cael ei asesu gan dîm partner y prosiect. Asesir y ceisiadau yn ôl y meini prawf isod: Y cais – ateb briff y prosiect • Pa mor dda mae'r cais yn ateb y briff • Pa mor dda mae'n dangos y gallu i gyflawni'r holl ofynion a disgwyliadau • Y gallu i ddangos tystiolaeth o ystod o fesurau ac offer priodol Cyllideb • Dichonoldeb ar sail y gyllideb a gyflwynwyd • Gwerth am arian Tîm y prosiect • Gallu'r gwerthuswr i roi sicrwydd ynghylch ei sefydlogrwydd a'i hyfywedd trwy gydol y prosiect • Gallu'r gwerthuswr i ddangos ei allu i weithio mewn partneriaeth ac i weithio gyda chyfranogwyr sy'n profi heriau iechyd meddwl amrywiol a heriau iechyd eraill sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles Diogelu Data a chydymffurfiaeth moeseg • Gallu'r gwerthuswr i sicrhau cydymffurfiaeth o ran trin data • Gallu'r gwerthuswr i sicrhau prosesau moesegol Arweiniad pellach Mae tîm y prosiect yn cadw’r hawl, drwy weithredu’n rhesymol, i: • Roi'r gorau i'r drefn ddyfarnu os na cheir ceisiadau priodol; • Newid yr amserlen ar gyfer caffael y Contract, ac mewn amgylchiadau o'r fath bydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn hysbysu pob ymgeisydd o unrhyw newid, yn y ffordd cyflymaf posibl; • Terfynu trafodaethau gyda sefydliadau sy'n ymgeisio; • Terfynu'r drefn sy'n arwain at roi’r Contract; • Peidio â dyfarnu unrhyw Gontract o gwbl o ganlyniad i'r broses hon Ni fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw un o'r gweithredoedd hyn. • Ni chaniateir unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â'r prosiect hyd nes y bydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig penodol ar gyfer y cyhoeddusrwydd perthnasol. Ni ellir gwneud unrhyw ddatganiadau i unrhyw gyfryngau ynglŷn â natur y cais hwn, ei gynnwys nac unrhyw gynigion, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan bartneriaid y prosiect. • Ni fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn ad-dalu unrhyw gostau fydd gan sefydliadau wrth baratoi eu ceisiadau. • Os ydych yn ansicr o ystyr cwestiwn neu unrhyw beth yn y gwahoddiad hwn i dendro yna cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gofyn i Gelfyddydau mewn Iechyd BIPBC am eglurhad yn ysgrifenedig drwy e-bost. • Bydd BIPBC yn ymdrechu i ymateb i unrhyw ymholiad o fewn 3-4 diwrnod gwaith. Gall Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC hefyd wrthod ateb cwestiwn os yw'n ystyried bod y cwestiwn yn amhriodol. Os na fydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBC yn gallu ateb cwestiwn, byddant yn datgan hynny.

Search