Opportunities & Events
Mae Dawns Genedlaethol leuenctid Cymru'n troi'n 25 - Ymunwch yn y Dathlu!
Location: Glan yr Afon, Casnewydd | Start Date: Mis Hydref 30 a 31
Summary:
Dewch i ddawnsio, hel atgofion a chael eich ysbrydoli! Mae eleni'n nodi 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol leuenctid Cymru (DGIC) yn grymuso dawnswyr ifanc ac yn llywio dyfodol dawns ieuenctid yng Nghymru.
I nodi'r garreg filltir anhygoel yma, mae Celfyddydau Cenedlaethol leuenctid Cymru (CCIC) yn lansio dathliad cenedlaethol – sy'n anrhydeddu ein gorffennol, yn arddangos ein presennol ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr. Gallwch edrych ymlaen at berfformiadau pwerus, straeon cofiadwy, a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sy'n gosod y llwyfan ar gyfer y 25 mlynedd nesaf!

Content:
Byddwn yn rhannu'r holl fomentau, atgofion, a'r hud sydd wedi diffinio DGIC - a chredwch chi ni, mae pethau mawr ar y gorwel.
Rydym yn mynd â stori DGIC ar daith! Bydd arddangosfa ddynamig a rhyngweithiol yn teithio i theatrau, llyfrgelloedd a mannau cymunedol ledled Cymru, gan ddod â'n hanes yn fyw. Ond mae mwy - yn ogystal â'r arddangosfa bydd pob lleoliad ar hyd y daith yn cynnal gweithdy dawns DGIC AM DDIM, dan arweiniad ein cyn disgyblion anhygoel a staff DGIG. Pa un ai a ydych yn ddawnsiwr profiadol neu am roi cynnig arni, dyma eich cyfle chi i brofi egni a llawenydd DGIC!
I ddathlu'r garreg filltir arbennig hon, rydym yn cyhoeddi Rhaglen Arbennig i Ddathlu 25 Mlynedd, sy'n llawn dop â:
- Delweddau trawiadol o berfformiadau
- Cyfweliadau ecsgliwsif gyda choreograffwyr a chyn disgyblion
- Mewnwelediad gan y rheiny sydd wedi helpu i siapio DGIC, o banelwyr ymgynghorol, arweinwyr grŵp ac eiriolwyr dawns
- Darluniau nas gwelwyd erioed o'r blaen o gynlluniau ein cynyrchiadau eiconig
...a llawer mwy!
Mae'r rhaglen yn gymaint fwy na chofrodd - mae'n waddol ar gyfer dawnswyr, addysgwyr a chefnogwyr y celfyddydau.
Ac mae'r cyffro'n parhau! Byddwn yn cyhoeddi Cwmni a Choreograffydd DGIC yn 25 cyn bo hir-a bydd y cwmni'n creu coreograffi gwefreiddiol ar gyfer dau berfformiad o bwys:
SADLER'S WELLS, LLUNDAIN - 25 Gorffennaf, 2025
Yn rhannu'r llwyfan â Chwmni Dawns Genedlaethol leuenctid yr Alban a Chwmni Dawns Genedlaethol leuenctid (Lloegr).
GLAN-YR-AFON, CASNEWYDD – 30 a 31 Hydref, 2025
Byddwn yn dychwelyd i Gymru ar gyfer arddangosiad mawreddog o angerdd, pŵer a chelfyddyd.
Dwedodd Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns, Dawns Genedlaethol leuenctid Cymru:
"Am 25 mlynedd, mae DGIC wedi bod yn gatalydd i ddawnswyr ifanc - gan danio creadigrwydd, creu cysylltiadau gydol oes, a gwthio ffiniau yr hyn sy'n bosib ym myd dawns. Mae'r garreg filltir hon yn gwneud mwy nag edrych yn ôl; rydym yn camu'n eofn i'r dyfodol, gan ddathlu pŵer symudiad, ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i gamu i'r llwyfan."
Oeddech Chi'n Rhan o DGIC? Rydym Ni Am Glywed Gennych Chi!
Os fuoch chi'n rhan o DGIC ar un adeg, rydych chi bob amser yn rhan o'r teulu! Os wnaethoch chi ddawnsio gyda ni, cysylltwch â ni! Rhannwch eich enw, eich lleoliad a'r flwyddyn y buoch chi'n rhan o DGIC - ac os oes gennych chi luniau neu fideos, byddem ni wrth ein boddau'n eu gweld nhw!
Dyma eich dathliad chi, ac rydym ni am i chi fod yn rhan ohono... Beth am wneud hon yn flwyddyn i'w chofio- mae #DGIC25 yn cychwyn nawr!
