Opportunities & Events

Ymunwch â WAHWN fel Cyfarwyddwr-Ymddiriedolwr yn 2025

Summary:

Oes gennych chi angerdd ynghylch pŵer creadigrwydd i drawsnewid iechyd a llesiant? Ydych chi’n meddu ar y sgiliau, profiad neu frwdfrydedd sydd eu hangen i gyfrannu at sector celfyddydau ac iechyd bywiog a chynhwysol yng Nghymru? Os felly, mae gennym ni gyfle cyffrous i chi.

Network Meetings - Eventbrite Banner (4)

Content:

Mae WAHWN yn chwilio am Gyfarwyddwyr-Ymddiriedolwyr newydd i ymuno â Bwrdd ein sefydliad deinamig. Fel y sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi sector y celfyddydau, iechyd a llesiant, rydym wedi ymrwymo i ysgogi datblygiad cynaliadwy a thwf sector y celfyddydau ac iechyd i fod yn ffyniannus, cynrychioliadol a chynhwysol yng Nghymru, gan gynorthwyo gweithwyr proffesiynol y celfyddydau ac iechyd, a hyrwyddo cyfranogiad creadigol. Mae ein haelodaeth o bron i 1000 - nifer sy’n cynyddu’n gyflym - yn cynrychioli’r sectorau celfyddydol, iechyd ac addysg uwch, ac yn weithio ar draws yr ystod lawn o arferion celfyddydol mewn lleoliadau iechyd, y celfyddydau a mannau cymunedol eraill. Mae WAHWN yn falch o'i rôl ganolog o fewn nifer cynyddol o fentrau partneriaeth allweddol a’i allu i ddarparu llais cenedlaethol i'r sector ar lefel strategol.

Rydym yn chwilio am unigolion a fydd yn cynyddu’r ystod o sgiliau, gwybodaeth a safbwyntiau o fewn ein bwrdd. Nid yw ein gweithlu presennol a’n harweinyddiaeth yn adlewyrchu’r amrywiaeth o brofiadau bywyd, ac felly rydym yn arbennig yn annog ceisiadau gan bobl nad yw eu treftadaeth, eu hunaniaeth neu eu llais yn cael eu cynrychioli’n gyffredin yn sectorau’r celfyddydau, iechyd a diwylliant gan gynnwys pobl o hunaniaethau a chefndiroedd mwyafrifol byd-eang.

Yn bwysicaf oll, rydym eisiau pobl sy'n dod â brwdfrydedd, dychymyg ac ymrwymiad i rôl ymddiriedolwr WAHWN. Os ydych yn gwerthfawrogi creadigrwydd fel arf hanfodol i hybu iechyd a lles pobl, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i ymuno â’n bwrdd ymddiriedolwyr yw Ionawr 15 , 2025.
  • Byddwn yn trefnu sgyrsiau gydag ymgeiswyr ddiwedd Ionawr, gyda’r nod o gadarnhau apwyntiadau cyn diwedd Mawrth 2025.

Mae’r rôl Cyfarwyddwr-Ymddiriedolwr yn wirfoddol a di-dâl. Rydym yn cynnig treuliau i gwrdd â chostau teithio ac i gefnogi anghenion mynediad personol unigol. Gallwch fod wedi eich lleoli unrhyw le yn y Deyrnas Unedig gan y gellir ymuno â mwyafrif y cyfarfodydd ar-lein; gofynnwn i ymddiriedolwyr ymrwymo i ymuno â ni wyneb y wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn.

 

How to Apply

Anfonwch eich cais at info@wahwn.cymru erbyn 15 Ionawr 2025.

Gwyddom y gall ymgeisio am rôl gymryd llawer o amser a gall y trefniadau fod yn llafurus, felly ein nod yw gwneud hon yn broses gyfeillgar. Os hoffech drafod gwaith WAHWN, y rôl a'ch cais, ac os oes angen unrhyw addasiadau neu gefnogaeth arnoch, trefnwch amser i siarad ag Angela Rogers (Cyfarwyddwr Gweithredol) neu Justine Wheatley, Cadeirydd WAHWN. Gallwch gysylltu â ni drwy:

 

WAHWN_TrusteePack_CY

WAHWN_Trustee_EOIForm_CY

Search