Opportunities & Events
Cyfle Cymunedau Creadigol Creu Conwy: Ymarferydd Creadigol!
Location: Conwy | Start Date: 21-Gorffenaf
Summary:
Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan Ymarferwyr Creadigol sydd â phrofiad o ddarparu prosiectau celfyddydau cymunedol yn llwyddiannus a gweithio mewn modd cynhwysol gyda phobl o bob oedran a gallu mewn lleoliadau cymunedol. Mwy o wybodaeth yma.
Content:
Mae Cymunedau Creadigol yn brosiect gelfyddydau cymunedol newydd a arweinir gan dîm Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth CBSC fel rhan o ddarpariaeth Strategaeth Ddiwylliannol Creu Conwy.
Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan Ymarferwyr Creadigol sydd â phrofiad o ddarparu prosiectau celfyddydau cymunedol yn llwyddiannus a gweithio mewn modd cynhwysol gyda phobl o bob oedran a gallu mewn lleoliadau cymunedol.
Bydd y prosiect yn digwydd ledled Conwy er mwyn sicrhau uchafswm cyrhaeddiad daearyddol gyda darpariaeth yn canolbwyntio ar y pum tref fwyaf - Abergele, Bae Colwyn, Conwy, Llandudno a Llanrwst.
Ariennir Cymunedau Creadigol Creu Conwy gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy Creu, rhaglen Ariannu Celfyddydau’r Loteri Genedlaethol.
Rydym yn cynnig proses ymgeisio gynhwysol ac yn derbyn ceisiadau yn y ffurfiau canlynol -
- Ysgrifenedig (uchafswm o 2 ochr A4 wedi’i gyflwyno mewn fformat Word neu PDF)-
- Fformat clywedol (mp3)
- Fideo (MP4)
- Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 21/07/25
Am ragor o wybodaeth a chopi o'r crynodeb lawrlwythwch y ddogfen: yma