Opportunities & Events

MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles) yn USW

Location: Caerdydd

Summary:

Mae Dr Thania Acarón wedi’i henwi’n Arweinydd Cwrs ar gyfer y radd MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles) ym Mhrifysgol De Cymru. Dymunwn ymddeoliad hapus i Carol Hiles, cyn-arweinydd y cwrs! Os oes gennych ddiddordeb
mewn dyfnhau eich ymarfer celf ac adeiladu cymuned gydag ymarferwyr eraill, beth am wneud cais ar gyfer y radd MA ran- amser hon, sy’n 18 mis o hyd?

Mwy o gwybodaeth yma

Content:

Mae'r cwrs yn cwmpasu Iechyd a’r Celfyddydau, ac mae gweithwyr ym myd y celfyddydau yn gweithio i wella amgylcheddau iechyd trwy ymyriadau celfyddydol, neu i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd trwy ddarparu gweithiau celf a digwyddiadau, neu drwy gynnig profiadau/prosiectau/gweithdai ymarferol i unigolion a grwpiau sy'n ceisio gwella lles.

Mae Dr Thania Acarón wedi’i henwi’n Arweinydd Cwrs ar gyfer y radd MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles) ym Mhrifysgol De Cymru. Dymunwn ymddeoliad hapus i Carol Hiles, cyn-arweinydd y cwrs! Os oes gennych ddiddordeb
mewn dyfnhau eich ymarfer celf ac adeiladu cymuned gydag ymarferwyr eraill, beth am wneud cais ar gyfer y radd MA ran- amser hon, sy’n 18 mis o hyd? Mae gennym ni fyfyrwyr o bob rhan o'r DU yn dod at ei gilydd unwaith y mis ar benwythnosau,
ac mae gennym ni ddarlithwyr gwadd anhygoel sy'n arbenigwyr yn y sector.

Os ydych chi eisiau gweld detholiad o waith ein graddedigion, ewch i'n gwefan allanol: www.uswmaartspracticeartshealthandwellbeing.com
Ar gyfer ymholiadau cyn ymgeisio, e-bostiwch Dr Acarón: thania.acaron@southwales.ac.uk
I wneud cais yn uniongyrchol, dyma’r ddolen i wefan Prifysgol De Cymru: https://www.southwales.ac.uk/cy/cyrsiau/ymarfer-celf-celfyddydau-iechyd-a-lles---ma/

Search