Opportunities & Events

Heneiddio Creadigol Rhyngwladol: Bwrsariaethau Mynd i Weld i Ymarferwyr Celfyddydau, Iechyd a Llesiant

Start Date: Dyddiad Cau Wedi'i Ymestyn: 30 Mai 2025

Summary:

Mae WAHWN yn falch i allu cynnig pedair bwrsariaeth i artistiaid o Gymru sy’n gweithio yn y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant ym maes Heneiddio Creadigol, neu i artistiaid hŷn i ddechrau neu ddatblygu perthnasoedd cydweithredol gydag artistiaid neu sefydliadau celfyddydol yn ein gwledydd partner: y Ffindir, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Y dyddiad cau wedi'i ymestyn tan hanner nos ar ddydd Gwener 30 Mai 2025 - gydag uchafswm o 2 fwrsariaeth ar gael.

Content:

Mae WAHWN yn falch i allu cynnig pedair bwrsariaeth i artistiaid o Gymru sy’n gweithio yn y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant ym maes Heneiddio Creadigol, neu i artistiaid hŷn i ddechrau neu ddatblygu perthnasoedd cydweithredol gydag artistiaid neu sefydliadau celfyddydol yn ein gwledydd partner: y Ffindir, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Cyllidir y cyfle hwn gan Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol Celfyddydau Cymru, ac mae’n dod yn sgil ein digwyddiad pum Cenedl: Estyn Allan i Fod yn Fyd-eang, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2024.

 

Mae hwn yn gyfle i:

  • Artistiaid cyfranogol unigol sy’n gweithio ym maes heneiddio creadigol, sydd â phrofiad o gyflwyno mewn lleoliadau/prosiectau iechyd a llesiant sy’n dymuno ymweld ag artist neu sefydliad/prosiect celfyddydol arall yn un o’n gwledydd partner.
  • Artistiaid hŷn (dros 50 oed), sy’n awyddus i ddatblygu perthynas greadigol gydag artist neu sefydliad celfyddydol yn un o’n gwledydd partner.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi'i leoli yng Nghymru.

 

Faint?

  • Hyd at £800 fesul cais – dylech ymgeisio am y costau sydd eu hangen yn unig.

 

Beth mae’n ei gynnwys?

  • Costau teithio
  • Costau llety
  • Costau cynhaliaeth
  • Tocynnau mynediad
  • Costau hyfforddi i gefnogi eich ymarfer
  • Costau cyfieithu
  • Costau mynediad personol
  • Unrhyw gostau perthnasol eraill i alluogi eich ymweliad/cydweithio

 

Beth mae derbyn grant Mynd i Weld yn ei olygu?

  • Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu o fewn wythnos i’r dyddiad cau.
  • Bydd angen i chi wario’r grant erbyn 30 Medi 2025.
  • Caiff taliadau eu gwneud o fewn pythefnos i gyflwyno anfonebau.
  • Bydd angen i chi gwblhau ffurflen adborth fer yn disgrifio gweithgaredd y grant a sut mae wedi bod o fudd i’ch gwaith, gan gynnwys cofnod ffotograffig os yw’n berthnasol. Caiff ymatebion eu casglu gan bawb sy’n derbyn grant i lunio adroddiad i’r cyllidwr, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
  • Bydd angen i chi rannu eich gwersi gyda ni a’r cyllidwr mewn ffordd briodol. Gallai hyn fod mewn blog neu adroddiad byr (dim mwy na 500 gair), vlog (dim mwy na 5 munud) neu ymateb creadigol (ffotograffau a thestun) am eich ymweliad.
  • Bydd angen ad-dalu unrhyw grant na chaiff ei wario o fewn 14 diwrnod.

 

Sut i ymgeisio

Ebostiwch eich cais at Becca May Collins, Swyddog Rhaglenni, WAHWN: programmes@wahwn.cymru

Dyddiad cau wedi'i ymestyn: hanner nos, Gwener 30 Mai 2025

Search