Opportunities & Events
Rheolwr Prosiect y Celfyddydau ac Iechyd, HDUHB
Location: Hywel Dda University Health Board
Summary:
Bydd ein Rheolwr Prosiect newydd ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd yn rhan o'n Tîm Celfyddydau ac Iechyd sefydledig a'r tîm Phrofiad y Claf ehangach, a bydd yn cydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol i ddatblygu, cynnwys a gweithredu amrywiaeth o raglenni iechyd, ac i gefnogi'r broses o weithredu ein Siarter Celfyddydau ac Iechyd, gan gwmpasu'r ystod lawn o wasanaethau iechyd a ddarparwn ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Content:
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i reolwr prosiectau profiadol, sydd â chefndir yn y celfyddydau, ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n teimlo'n angerddol dros y celfyddydau i ysbrydoli eraill ac i annog y defnydd o'r celfyddydau er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol i lesiant ein cleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau, eu teuluoedd a'n staff
Bydd ein Rheolwr Prosiect newydd ar gyfer y Celfyddydau ac Iechyd yn rhan o'n Tîm Celfyddydau ac Iechyd sefydledig a'r tîm Phrofiad y Claf ehangach, a bydd yn cydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol i ddatblygu, cynnwys a gweithredu amrywiaeth
o raglenni iechyd, ac i gefnogi'r broses o weithredu ein Siarter Celfyddydau ac Iechyd, gan gwmpasu'r ystod lawn o wasanaethau iechyd a ddarparwn ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
Bydd deiliad y swydd yn adrodd i Bennaeth y Celfyddydau ac Iechyd ac yn bodloni terfynau amser penodol, gan weithio'n effeithiol mewn amgylchedd cyflym sy'n esblygu'n gyson.
Er mai rôl lawn-amser, barhaol yw hon, byddem hefyd yn croesawu ymgeiswyr a fyddai'n dymuno ymgymryd â'r rôl yn rhan-amser yn rhan o gynllun rhannu swydd.
Cefnogir y swydd hon gan Elusennau Iechyd Hywel Dda a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Band 6, Hybrid Working Available
37.5 hours per week
Salary: £37,898 - £45,637 (pro rata if part time)
Dyddiau Cau: 16 Mis Chwefror 2025
Interview date: 5th March 2025