Opportunities & Events
Comisiwn Artist - Lle ar gyfer Geni
Location: Ysbyty Castell Nedd Port Talbot | Start Date: 15/01/2024
Summary:
Nod y prosiect yw cyfoethogi’r amgylchedd gofal iechyd yn y Ganolfan Geni yn ysbyty Castell Nedd Port Talbot drwy gyd-greu a gosod gwaith celf 2D ar wal.
Content:
Teitl y Prosiect: Lle ar gyfer Geni
Comisiynydd y Prosiect: Johan Skre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Reolwr y Prosiect: Tracy Breathnach, Rhwydwaith Celfyddydau Iechyd a Llesiant Cymru
Fee Artist: £5,000 (yn cynnwys TAW) – ar sail 20 dydd @ £250/dydd a deilir mewn 2 randaliad: 50% wrth lofnodi’r contract a 50% wrth gwblhau’r gwaith celf. Telir drwy BACS pan dderbynnir anfoneb.
Cyllideb Deunyddiau: £1,000
Amserlen:
· Galwad am Artistiaid: 15 Rhagfyr 2023
· Dyddiad Cau Cynigion: Canol Dydd, 10 Ionawr 2024
· Cyhoeddi’r Comisiwn: 12 Ionawr 2024
· Cyflwyno Briff Manwl: 15 Ionawr 2024
· Cyflwyno 3 chysyniad: 31 Ionawr 2024
· Y tîm yn dewis 1 cysyniad: 5 Chwefror 2024
· Yr artist yn cyflwyno’r cynllun terfynol i’r tîm: 27 Chwefror 2024
· Gosod y gwaith celf: Mawrth 2024
· Digwyddiad lansio: Diwedd mis Mawrth 2024
Y Briff:
Nod y prosiect yw cyfoethogi’r amgylchedd gofal iechyd yn y Ganolfan Geni yn ysbyty Castell Nedd Port Talbot drwy gyd-greu a gosod gwaith celf 2D ar wal.
- Creu man cynnes, croesawgar i fenywod a phobl sy’n geni yn y ganolfan, gan ymgorffori cynllun a all helpu i gynyddu lefelau ocsitosin a gwella canlyniadau esgor naturiol.
- Gosod gwaith celf weledol sy’n teithio drwy bob un o’r ystafelloedd yn y ganolfan geni i adlewyrchu cysondeb yn y profiad geni.
- Cynnwys y tîm bydwreigiaeth cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio er mwyn iddynt allu bod yn rhan o’r broses i greu amgylchedd gwaith y gallant ymfalchïo ynddo. [Caiff adborth o’r gweithdai hyn ei rannu gyda’r artist dethol erbyn 15 Ionawr 2024].
- Ymgynghori â mamau a phobl sydd wedi geni yno yn y gorffennol am sut y gallai eu profiad fod wedi bod yn well gyda’r cynllun, a gyda menywod a phobl feichiog sy’n bwriadu geni yn y Ganolfan Geni yn 2024. [Caiff adborth o’r gweithdai hyn ei rannu gyda’r artist dethol erbyn 15 Ionawr 2024].
Rheolir y prosiect gan Tracy Breathnach, Rheolwr Prosiectau Rhwydwaith Celfyddydau Iechyd a Llesiant Cymru sy’n cydweithio’n agos gyda bydwragedd yn y Ganolfan Geni, dan arweiniad cyffredinol Johan Skre, Rheolwr y Celfyddydau mewn Iechyd gyda’r Bwrdd Iechyd. Tracy fydd eich prif bwynt cyswllt.
Enghreifftiau o waith tebyg:
Gweler y PDF atodedig am enghreifftiau o’r ffordd y mae celf wedi’i hymgorffori mewn Canolfannau Geni ac Unedau Bydwragedd eraill ledled y DU. [Cyswlltwch â Tracy - programmes@wahwn.cymru]
Eich Cynnig:
Dylech gynnwys y canlynol yn eich cynnig:
1. Esboniad cryno pam yr hoffech ymgymryd â’r gwaith (uchafswm 300 gair neu fideo 3 munud) a chadarnhad y gallwch weithio i’r terfynau amser a osodir yn y briff hwn.
2. Amlinelliad cychwynnol o sut rydych chi’n meddwl am y prosiect (gall fod yn ysgrifenedig ond dylai gynnwys syniadau gweledol fel braslun neu collage o syniadau). Nid ydym yn edrych am unrhyw beth terfynol neu bendant gan fod angen i’r broses fod yn un o gyd-greu; yr hyn rydyn ni am ei weld yw sut rydych chi’n meddwl amdano’n greadigol.
3. Enghreifftiau o waith blaenorol sy’n berthnasol. Gallai hyn gynnwys gwaith 2D arall mewn adeiladau, neu waith gyda thema debyg, neu enghreifftiau o brosiectau cydweithredol ac a gyd-grëwyd. Gallwch gyflwyno hyn mewn dolenni gwe, neu ddolen at ffolder Dropbox neu Google neu drwy WeTransfer.
4. Amlinelliad o’ch cyllideb ar gyfer deunyddiau.
Byddwn yn gwerthuso ar sail y meini prawf canlynol:
1. Dealltwriaeth/Diddordeb yn y maes gofal iechyd hwn (20%)
2. Syniadau creadigol (40%)
3. Profiad blaenorol, gan gynnwys cyd-greu (40%)
Cyflwyniadau:
Rhaid cyflwyno eich cynnig drwy ebost erbyn hanner dydd ar 10 Ionawr 2024 i:
· Tracy - programmes@wahwn.cymru
Cysylltwch â Tracy gydag unrhyw gwestiynau. Nodwch na fydd ar gael i ateb negeseuon ebost rhwng 24 a 28 Rhagfyr.