Opportunities & Events

Rheolwr Rhaglen Llawrydd ar gyfer Camu i Mewn  

Location: croesryw | Start Date: Ebrill 2024

Summary:

Mae WAHWN yn chwilio am Reolwr Rhaglen llawrydd rhagorol yng Nghymru â phrofiad o oruchwylio a chyflenwi prosiectau aml-bartner, hyfforddiant neu raglenni mentora. 

Content:

Camu i Mewn   

Rhaglen hyfforddi a mentora ar gyfer carfan fach o 4 mentai yw 'Camu i Mewn' a gyllidir gan Loteri Celfyddydau ac Iechyd Cyngor Celfyddydau Cymru ac a gyflwynir mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; PeopleSpeakUp, Datblygu Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Ysgol Gelf Caerdydd. 

Cynlluniwyd Camu i Mewn mewn ymateb i ddiffyg amrywiaeth yn y gweithlu creadigol ym maes y celfyddydau ac iechyd. Y nod yw meithrin carfan o ymarferwyr i gyflwyno prosiectau mewn lleoliadau gofal iechyd sy’n rhannu profiad byw pobl o gymunedau lleiafrifedig. Anogir ymarferwyr mentai â phrofiad byw o iechyd meddwl, cefndiroedd mwyafrif byd-eang, eithrio cymdeithasol neu gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel i ymgeisio i’r rhaglen a chânt eu cefnogi i gymryd rhan mewn wythnos lawn o hyfforddiant preswyl dwys, cysgodi artist profiadol ar brosiect byw mewn lleoliad iechyd neu gymunedol am hyd at 10 diwrnod (gyda chymorth partneriaid y prosiect), derbyn sesiynau mentora, bwrsariaeth a chymorth cyfannol gan gynnwys goruchwyliaeth a chymorth cymheiriaid. 

Y Rôl  

Mae WAHWN yn chwilio am Reolwr Rhaglen llawrydd rhagorol yng Nghymru â phrofiad o oruchwylio a chyflenwi prosiectau aml-bartner, hyfforddiant neu raglenni mentora. 

Y Rôl Rheolwr Rhaglen, contract tymor penodol 1 Ebrill – 30 Hydref 2024 

Atebol i: Prif Swyddog Gweithredol WAHWN  

Lleoliad: Cymru. Disgwylir gweithio cyfunol o bell ac wyneb yn wyneb. 

Ffi: £9000 (yn cynnwys TAW) yn seiliedig ar 36 dydd @ £250 y dydd  

Costau Mynediad: Mae WAHWN yn annog y gweithlu i ddisgrifio eu gofynion mynediad mewn atodiad mynediad a bydd yn ceisio diwallu anghenion a nodir drwy drafodaeth 

Dyddiad Cau: Hanner dydd, dydd Gwener 22 Mawrth 2024   

Cyfweliadau: w.y.d 25 Mawrth 2024 (ar Zoom)   

Mae WAHWN yn dymuno penodi unigolyn sy’n meddu ar arbenigedd ac yn gallu gweithio’n gyflym i gefnogi cyflenwi, olrhain ac adrodd effeithlon ar draws rhaglen Camu i Mewn ac a all reoli perthynas gyda phartneriaid niferus. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid prosiect, hyfforddwyr ac ymarferwyr allanol, mentoriaid, ymarferwyr mentai, gwerthuswr prosiect a thîm  WAHWN i gyflenwi’r prosiect, gan gynnwys cyflenwi ac adrodd ar y prosiect o’r dechrau i’r diwedd

Mwy o wybodaeth:

Rheolwr Rhaglen Llawrydd ar gyfer Camu i Mewn

Search