Opportunities & Events

Cyfle Gwaith Swydd Gweithiwr Annibynnol

Location: Newport | Start Date: August 2025

Summary:

Cydlynydd Creadigol @'The Arts Space'

Content:

Gweithiwr annibynnol 12 mis: Cyflog oddeutu £12,000 y flwyddyn (£150 y dydd am tua 80 diwrnod. Un diwrnod a hanner yr wythnos i'w ddarparu'n hyblyg.)

Mae Gweithredu dros Blant, Maethu Cymru mewn partneriaeth â Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy
Gronfa Loteri'r Celfyddydau, Iechyd a Lles ar gyfer prosiect celfyddydau arloesol i bobl ifanc sydd wedi profi trawma yn y blynyddoedd cynnar.

Nod y prosiect hwn yw cyflwyno pobl ifanc sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod eu
plentyndod i gyfleoedd celf a chrefft sy'n cyfoethogi eu creadigrwydd. Mae'r profiadau hyn yn
hanfodol ar gyfer datblygiad iach, gan ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc hunanreoli a darganfod
creadigrwydd eu hunain.
Mae rôl y Cydlynydd Creadigol yn gyfle 12 mis llawrydd, ac mae'n swydd allweddol o fewn y
prosiect, yn gyfrifol am ddatblygu a chydlynu'r rhaglen gelfyddydau efo neu gyda’r gwasanaeth
maethu. Bydd y gwasanaeth maethu yn darparu hyfforddiant therapiwtig, cefnogaeth a
goruchwyliaeth wrth weithio gyda'r grŵp agored i niwed hwn.
Cynhelir y gweithgaredd yn yr 'Arts Space' Gweithredu dros Blant ym Mharc Beechwood ac yn
Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd.

Disgrifiad Swydd:
• Trefnu, amserlennu a chydlynu rhaglen o weithgareddau celfyddydol ar gyfer plant, pobl
ifanc a theuluoedd maeth.
• Cyflwyno sesiynau celf / crefft yn eich set sgiliau creadigol eich hun.
• Trefnu bod atgyfeiriadau yn rhan o brosiect a chysylltu ag arweinwyr therapiwtig y
gwasanaeth maeth wrth ddylunio'r prosiectau creadigol.
• Sicrhau bod gan artistiaid y profiad priodol a bod ganddynt wiriad Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd a geirdaon cywir.
• Darparu cefnogaeth i werthuswr y prosiect, a chasglu, olrhain a choladu set ddata y
cytunwyd arni.
• Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer casglu a dosbarthu gwybodaeth am y prosiect.
• Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y gwasanaeth maethu wrth ddylunio prosiectau
• Gweithio o fewn fframwaith Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. (Darperir
hyfforddiant gan y gwasanaeth maethu)
Manyleb y Person:
• Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol
• Gallu cydlynu prosiect sydd â sawl agwedd iddo
• Gallu meddwl yn greadigol a meddu ar brofiad o drefnu gweithdai a gweithgareddau
creadigol.
• Dull cynhwysol a llawn egni o weithio gyda phlant a theuluoedd
• Gwybodaeth am brosesau gweinyddu a gwerthuso.
• Ymarfer celfyddydol personol a'r gallu i gyflwyno sesiynau celf/crefftau creadigol
• Gwybodaeth am y sector celfyddydau
• Gwybodaeth am iechyd a diogelwch, diogelu, cynaliadwyedd a GDPR
• Ymrwymiad i ddysgu a gweithio o fewn dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma Gweithredu
dros Blant.
• Yn fodlon teithio ar draws Casnewydd a'r ardal gyfagos yn ôl yr angen
Crynodeb o’r Telerau:
Lleoliad Gwaith: 'Arts Space' Gweithredu dros Blant ym Mharc Beechwood, Casnewydd NP19
8AJ ac yn Theatr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd, NP20 1HG.
Yn atebol i: Martine Palmer
Oriau: 1.5 diwrnod yr wythnos (neu 12 awr)
Cyflog: £150 am ddiwrnod llawn / £75 am hanner diwrnod (tua £12,000 o fewn cyfnod 12 mis).
Yn cynnwys teithio i'r gweithle


I wneud cais am y swydd, anfonwch CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich sgiliau a'ch profiad,
gan gyfeirio at fanyleb y person, i FosteringWales@actionforchildren.org.uk erbyn 17 Awst 2025.
Cynhelir cyfweliadau ar 25th – 29th Awst 2025


Mae'r swydd yn amodol ar archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a dau eirda.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch ag Martine Palmer neu Matt Lewis ar 01633 420422

Search