Opportunities & Events

Gronfa Sbarduno I'r Celfyddydau - Gwynedd

Location: Gwynedd | Start Date: 25 Mehefin 2024

Summary:

Treialu ffyrdd newydd a chreadigol o weithio yng Ngwynedd Grantiau or £2000 ar gael i ymarferwyr creadigol. Cysylltu a celf@gwynedd.llyw.cymru. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 25ain o Fehefin 2024.

Content:

Gronfa Sbarduno a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin

Gronfa sbarduno i'r celfyddydau - treialu ffyrdd newydd a chreadigol o weithio yng Ngwynedd

Mae Adran Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd yn cynnig grantiau o £2000 i ymarferwyr creadigol o Wynedd i dreialu ffyrdd newydd a chreadigol o weithio. Nod y cyllid sbarduno hwn yw i gefnogi ymarferwyr creadigol sydd wedi’u lleoli yng Ngwynedd, i roi cynnig ar brosiect neu ddigwyddiad newydd, a chwrdd ag un neu fwy o’r nodau canlynol...

  • Ystyried ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd yng Ngwynedd
  • Archwilio sut y gall y celfyddydau gefnogi iechyd a lles pobl Gwynedd
  • Rhannu gwersi effeithiol a ffyrdd newydd o weithio gydag eraill yn y sector gelfyddydol yng Ngwynedd
  • Treialu dulliau amgen o gynnal gweithgareddau celfyddydol yng Ngwynedd
  • Arbrofi gyda thechnoleg a dulliau digidol o weithio er budd y sector gelfyddydol yng Ngwynedd
  • Cyrraedd cyfranogwyr neu gynulleidfaoedd mewn ffordd amgen a hygyrch
  • Codi ymwybyddiaeth o werth y celfyddydau i fywydau pobl Gwynedd
  • Sicrhau darpariaeth a phrofiadau celfyddydol o safon
  • Darparu darpariaeth neu gyfleoedd celfyddydol Cymraeg

 

*O fewn y term Celfyddydau rydym yn cynnwys celf gweledol, dawns, llenyddiaeth, cerddoriaeth, drama, ffilm a ffotograffiaeth.*

 

Beth sy’n bosib ariannu (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Costau gweithdai celfyddydol yn cynnwys ffi yr artist (yr ymgeisydd) a chynorthwyydd.
  • Rent ar stiwdio neu ofod creadigol
  • Deunyddiau am gweithdai neu ymarfer creadigol
  • Marchnata fel elfen o’r prosiect

 

Ni fydd y grant yma yn ariannu :

  • Gweithgareddau tu allan i Wynedd
  • Cost cynnal gweithgareddau sydd eisoes yn bodoli
  • Gweithgareddau sy'n gwneud elw
  • Ceisiadau gan artistiaid sy'n gweithio ar brosiect sydd eisoes yn cael ei ariannu gan SPF yng Ngwynedd

 

Llenwch y  ffurflen isod a’i dychwelyd i celf@gwynedd.llyw.cymru erbyn y 25ain o Fehefin 2024.

Rhaid cwblhau eich prosiect erbyn Hydref 31ain 2024

 

Gronfa Sbarduno a arriennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin

Search