Opportunities & Events

Sesiynau Adlewyrchol ar Ymarfer Creadigol yn g39

Location: Caerdydd | Start Date: 22nd Mai

Summary:

Rydym yn cynnal Sesiynau Adlewyrchol ar Ymarfer Creadigol wedi’u hwyluso gan yr artist gweledol a’r hwylusydd Celeste Burr Herrera a’r cynhyrchydd creadigol a’r hyfforddwr Tom Bevan. Bydd y sesiynau peilot hyn yn rhad ac am ddim.

Mwy o wybodaeth yma

Content:

Rydym yn cynnal Sesiynau Adlewyrchol ar Ymarfer Creadigol wedi’u hwyluso gan yr artist gweledol a’r hwylusydd Celeste Burr Herrera a’r cynhyrchydd creadigol a’r hyfforddwr Tom Bevan. Bydd y sesiynau peilot hyn yn rhad ac am ddim. Yn ddiweddar bu Celeste a Tom yn cymryd rhan mewn hyfforddiant hwyluso Ymarfer Adlewyrchol Creadigol Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru.

Mae deg lle ar gael a byddant yn cael eu cynnig ar sail cyntaf i’r felin.

Bydd y sesiynau 90 munud yn cael eu cynnal yn y cnawd, yng ngofod llyfrgell G39, ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

  • Dydd Iau 22 Mai, 18:00-19:30
  • Dydd Iau 12 Mehefin, 18:00-19:30
  • Dydd Iau 31 Gorffennaf, 18:00-19:30

Bwriad y sesiynau yw:

  • bod mewn amgylchedd cefnogol a chreadigol lle yr ydym yn myfyrio ar ein gwaith a’n hymarfer
  • meddwl am ein lles ein hunain mewn perthynas â’n gwaith a’n hymarfer
  • bod yn chwilfrydig ac yn feddylgar gyda’n gilydd yn hytrach na chynnig cyngor neu ddatrysiadau
  • rhannu strategaethau ac ymarferion er mwyn cefnogi ein twf

Mae buddiannau Ymarfer Adlewyrchol (yn seiliedig ar waith Alison O’Connor) yn cynnwys:

  • Datblygu systemau cefnogol er mwyn lleihau unigrwydd proffesiynol
  • Gwella gwydnwch personol a phroffesiynol
  • Cynyddu gwerthfawrogiad a mwynhad o’n gwaith drwy werthuso
  • Cryfhau ymarfer moesegol, ac ymrwymo i fod yn ddidwyll – sut mae ein hymarfer yn cydfynd â’nhegwyddorion

I gymryd rhan, ebostiwch, warp@g39.org, cyn Dydd Iau 21 Mai. Gofynnwn eich bod yn gallu ymrwymo i bob un o’r 3 sesiwn cyn rhoi eich enw i lawr.

Search