Opportunities & Events

Cyfle i Awdur Llawrydd - LitWales Sgwennun Well

Summary:

Sgwennu’n Well - Dolen yma.

Content:

CYFLE I AWDURON LLAWRYDD: Sgwennu’n Well | Writing Well

Ar agor i geisiadau!

Rhaglen 15 mis @LlenCymru i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned a chreu prosiectau sydd o fudd i iechyd a llesiant y rhai sy’n cymryd rhan. Dyddiad cau 5.00 pm, Dydd Iau 13 Mawrth 2025 

Ydych chi'n fardd neu'n awdur sydd â rhywfaint o brofiad o gyflwyno prosiectau ysgrifennu creadigol a iechyd a lles yn eich cymuned? Gallai rhaglen Sgwennu’n Well | Writing Well gan @LlenCymru fod yn berffaith i chi. Mwy o wybodaeth yma.   

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cyfle datblygu ar gyfer hwyluswyr llenyddol yn dychwelyd am ail flwyddyn. Mae Sgwennu'n Well | Writing Well yn rhaglen 15 mis mewn dwy ran. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys gyda'r nod o wella'r sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned, a bydd rhan dau yn cefnogi'r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5.00 pm, Dydd Iau 13 Mawrth 2025 

Search