Opportunities & Events
Swydd Wag: Cydlynydd Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC)
Location: Sir Benfro (Gweithio hybrid yn bosibl) | Start Date: Dyddiad Cau: 28 Mawrth 2025
Summary:
Mae Gyda’n Gilydd dros Newid (TfC) yn chwilio am Gydlynydd medrus a brwdfrydig i gefnogi'r gwaith o gasglu straeon Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC) yn Sir Benfro. Dyma swydd sy’n allweddol wrth hwyluso'r dull MSC, gan sicrhau bod naratifau personol a grymus yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau strategol a chynllunio gweithredu cymunedol.
Content:
Bydd y Cydlynydd yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr Gyda’n Gilydd dros Newid, gan gefnogi pob agwedd ar y broses MSC, o hyfforddi a chasglu straeon i gydlynu paneli a dogfennau.
Bydd y Cydlynydd hefyd yn gweithio'n agos â chydweithwyr mewn sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol, Cyngor Sir Penfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a byddant yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys dinasyddion lleol, grwpiau cymunedol, gweithwyr proffesiynol, ac uwch reolwyr.
Cyfrifoldebau allweddol
Datblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddi ar ddull MSC ar gyfer aelodau’r gymuned a rhanddeiliaid.
Rhoi cefnogaeth i gasglwyr straeon MSC a’u mentora yn ôl yr angen
Cydlynu'r gwaith casglu straeon MSC, gan sicrhau bod yr ymwneud â chyfranogwyr yn foesegol ac yn effeithiol.
Sefydlu a hwyluso paneli MSC er mwyn adolygu a dadansoddi’r straeon a gesglir.
Cymryd nodiadau a gwneud gwaith cydlynu ar gyfer paneli MSC a chyfarfodydd cysylltiedig.
Gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr Gyda’n Gilydd dros Newid i sicrhau bod gweithgareddau MSC yn cyd-fynd ag amcanion sefydliadol ehangach.
Cefnogi’r gwaith o lunio canfyddiadau MSC a’u cyfathrebu ag eraill er mwyn llywio prosesau gwneud penderfyniadau.
Hyrwyddo'r dull MSC ymhlith rhanddeiliaid a phartneriaethau a datblygu adnoddau cyfathrebu yn ôl yr angen.
Manyleb y person
Sgiliau a phrofiad hanfodol:
Sgiliau ardderchog wrth drin pobl, gyda'r gallu i gefnogi ac i ymwneud ag aelodau amrywiol o'r gymuned.
Sgiliau cryf o ran gweinyddu a threfnu, gan gynnwys cadw cofnodion ac amserlennu.
Gwybodaeth am ddulliau ymchwil gweithredol, yn enwedig dulliau cyfranogol fel MSC.
Dealltwriaeth o bwysigrwydd cynhyrchu tystiolaeth wrth wneud penderfyniadau strategol.
Y gallu i weithio'n annibynnol ac i reoli nifer o flaenoriaethau'n effeithiol.
Sgiliau a phrofiad dymunol:
Profiad o weithio ym maes datblygu cymunedol, adrodd straeon, neu ymchwil ansoddol.
Bod yn gyfarwydd â thirwedd gymunedol a sefydliadau lleol Sir Benfro.
Profiad o hwyluso trafodaethau grŵp a gweithdai cyfranogol.
Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg A1 neu A2
Telerau ac amodau
Cynigir y rôl hon ar gytundeb cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026.
Mae'r swydd yn un ran-amser, 1.5 diwrnod yr wythnos (0.3 FTE).
Efallai y bydd trefniadau gweithio hybrid yn bosibl, ond bydd angen bod yn Sir Benfro yn rheolaidd.
Sut i wneud cais
I wneud cais, anfonwch eich CV ynghyd â llythyr eglurhaol byr sy’n disgrifio eich addasrwydd i wneud y swydd i jessie.buchanan@tfcpembrokeshire.org erbyn 28 Mawrth 2025.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Jessie Buchanan, jessie.buchanan@tfcpembrokeshire.org