Opportunities & Events
Gweinyddydd Cynorthwy ydd Personol i'r Cyfarwyddydd Artistig a Busnes
Location: Llanelli | Start Date: Ebrill
Summary:
Oriau gwaith: 15 awr yr wythnos – 3 awr y dydd o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Mae'r amseroedd yn hyblyg ond rhaid iddyn nhw fod rhwng ein horiau craidd – 9 tan 5.
Content:
Cyflog: £23,500 pro rata. Cytundeb: Tymor penodol 1 Ebrill – 30 Medi 2024 gyda phosibilrwydd o estyniad yn amodol ar gyllid.
Prif le gwaith: Ffwrnes Fach, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
People Speak Up
Mae People Speak Up (PSU) yn sefydliad cymunedol cymdeithasol, celfyddydol, iechyd, iechyd meddwl, a llesiant sy'n cysylltu pobl a chreu cymunedau iachach a mwy gwydn trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol, gwirfoddoli, hyfforddi, a'r celfyddydau cyfranogol.
Rydym yn elusen gofrestredig (1193117) wedi ein lleoli yn Ffwrnes Fach, Hwb Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Llanelli yng nghanol tref Llanelli ac yn gweithio ar draws De Cymru.
Rydym yn cael ein hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ymddiriedolaethau a sefydliadau, a thrwy gomisiynau gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol.
Sefydlwyd People Speak Up gan y Cyfarwyddydd Artistig a Busnes, Eleanor Shaw, yn 2017 ac mae'n tyfu'n gyflym felly rydym yn ehangu'r tîm gyda chreu’r swydd newydd hon am gyfnod penodol yn unol â'n cyllid cadarn.
Darllenwch am PSU a'n prosiectau cyfredol - www.peoplespeakup.co.uk
Gwyliwch fideo byr am bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud - https://bit.ly/AboutPSU
Y rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn hynod drefnus a fydd yn hanfodol i redeg y sefydliad yn esmwyth.
Byddwch yn adrodd i, ac yn gweithio'n agos gyda Eleanor Shaw, sylfaenydd PSU a'r Cyfarwyddydd Artistig a Busnes.
Byddwch chi
• yn gallu gweithio'n gyflym ac yn gywir i sicrhau bod systemau'n rhedeg yn dda, gofalu am weinyddiaeth o ddydd i ddydd, sicrhau bod y systemau swyddfa ar waith ac yn gadarn wrth i ni dyfu'r sefydliad,
• yn wyneb croesawgar yn y swyddfa yn helpu staff, llawryddion ac ymwelwyr gydag ymholiadau,
• yn rheoli ein cyfeiriad e-bost cyffredinol, yn ateb ac yn cyfeirio ymholiadau,
• yn cefnogi'r Cyfarwyddydd Artistig a Busnes i reoli ei mewnflwch fel sy'n ofynnol,
• yn gyswllt cyntaf ar gyfer cyflenwyr; cymorth TG, Wi-Fi a systemau ffôn, cynnal a chadw adeiladau, a gweithio gyda nhw i ddod o hyd i atebion i unrhyw broblemau sy'n codi,
• yn sicrhau bod y swyddfa wedi'i chyfarparu'n addas ac wedi'i chyflwyno ar gyfer staff i ddefnyddio desgiau poeth,
• yn gyfrifol am gadw systemau ffeilio OneDrive a ffeilio papur yn daclus,
• cadw'r calendr, sy’n cael ei rannu, yn gyfoes,
• cefnogi'r Rheolwr Marchnata wrth gasglu copi ar gyfer y llyfryn tymhorol, a chadw'r wefan yn gyfoes,
• creu systemau newydd fel sy'n ofynnol i rannu neu gofnodi gwybodaeth,
• trefnu gwiriadau DBS ar gyfer staff, llawryddion a gwirfoddolwyr,
• cofnodi diwrnodau gwyliau a salwch,
• casglu a chofnodi gwybodaeth fonitro gan y tîm dosbarthu yn barod i adrodd yn ôl i ariannwyr,
• cyfrif, a thalu rhoddion arian parod i mewn i'r cyfrif banc,
• cofnodi a chysoni gwariant arian bach a chyfrifo'r rhain a threuliau i system cyfrifyddu Quickbooks, (darperir hyfforddiant)
• trefnu cyfarfodydd a chymryd cofnodion,
• profi llythyrau, dogfennau a cheisiadau am gyllid.
Rydym yn dîm bach felly rydym i gyd yn cefnogi ein gilydd, yn enwedig pan fydd gennym ddigwyddiad cymunedol mawr, felly efallai y byddwn yn gofyn i chi wneud pethau eraill o bryd i'w gilydd, o fewn rheswm, fel helpu i baratoi ar gyfer digwyddiadau neu helpu ein hymwelwyr i gael lluniaeth.
Mae hwn yn rôl newydd yr ydym yn gobeithio a fydd yn datblygu dros amser wrth i ni dyfu fel sefydliad.
Amdanoch chi
Mae'r gallu i gynllunio'n dda, bod yn drefnus, gweithio'n dda'n annibynnol a chyfathrebu'n dda gydag eraill yn hanfodol.
Bydd gennych o leiaf 2 flynedd o brofiad yn gweithio mewn gweinyddiaeth, rheolwr swyddfa, cynorthwyydd cyllid, swydd PA neu debyg.
Bydd gennych sgiliau rhifedd a llythrennedd cryf gyda sylw manwl i fanylion.
Byddwch yn gyfrifiadurol hyddysg, yn gallu cefnogi staff gyda'r defnydd o Microsoft 365 – Outlook, OneDrive, Word, Excel.
Efallai bod gennych brofiad o ddefnyddio systemau cyfrifyddu ar-lein i mewnbynnu trafodion gan ddefnyddio Quickbooks neu becyn cyfrifyddu tebyg ond os nad ydych, gellir darparu hyfforddiant.
Bydd gennych ddiddordeb yn y celfyddydau, iechyd meddwl a/neu waith cymunedol.
Byddwch yn sensitif i sicrhau bod eich cyfathrebu gyda'r staff, tîm llawrydd a gwirfoddolwyr, a chyfranogwyr yn hygyrch, cynhwysol a chefnogol.
Rydym yn ymdrechu i ddod yn gwmni dwyieithog ac yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Byddai'r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg sylfaenol yn ddymunol. Mae bod yn weithgar i wella eich Cymraeg yn hanfodol.
Os ydych chi'n siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gallu ysgrifennu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg, hyd yn oed yn well.
Byddwch yn ein helpu i hyrwyddo ein statws fel elusen a ffyrdd o'n cefnogi ac yn llysgennad dros ein gwaith.
I wneud cais
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol gan roi enghreifftiau i esbonio sut rydych chi'n bodloni gofynion y rôl, i Eleanor Shaw eshaw@peoplespeakup.co.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Saesneg neu Gymraeg
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am ar Ddydd Gwener 1 Mawrth 2024
Byddwn yn cysylltu â’r ymgeiswyr a ddewisir ar y rhestr fer ar Ddydd Llun 4 Mawrth i drefnu cyfweliad.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar Ddydd Iau 7 Mawrth yn Ffwrnes Fach, Llanelli.
Mae People Speak Up eisiau cyflawni nodau ac ymrwymiadau a nodir yn ein polisi cydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys peidio â gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac adeiladu darlun cywir o gyfansoddiad ymgeiswyr i'n helpu i annog cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein proses recriwtio.
Rydym yn gofyn i chi ein helpu i wneud hyn trwy lenwi'r ffurflen monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth cyfrinachol hon. Mae cwblhau'r ffurflen yn wirfoddol, cedwir y wybodaeth a ddarperir yn gyfrinachol ac mae’n cael ei ddefnyddio at ddibenion monitro yn unig.