Opportunities & Events

Economi Llesiant Cymru: Gwyl Syniadau

Location: Arena Abertawe | Start Date: Dydd Llun 18 Mis Tachwedd

Summary:

Mae 4theRegion, Economi Llesiant Cymru, Oxfam Cymru, Cwmpas a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn trefnu cynhadledd gyntaf erioed Economi Llesiant Cymru ym mis Tachwedd 2024.

Content:

Bydd hon yn Ŵyl Syniadau, sy’n agored i bawb o bob cefndir, gyda pherthnasedd arbennig i’r holl rai hynny sy’n gweithio yn y busnes cynaliadwy, datblygu’r economi, grymuso’r gymuned a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nod y digwyddiad hwn fydd newid y ffordd yr ydym yn meddwl am ein heconomi, ei bwrpas, a’i bosibiliadau – a bydd yn amlygu camau ymarferol sy’n cael eu cymryd ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i drawsnewid Cymru i economi llesiant.

1. Mae ein system economaidd yn ffocysu ar dwf economaidd. Sut fedrwn ni sicrhau ein bod yn datblygu economi sy’n dod ậ llesiant i bobl, lleoedd a’r blaned?

2. Beth mae’n ei olygu i fod yn ddinesydd, busnes, corff cyhoeddus neu sefydliad Economi Llesiant, a’r modd y gallwn i gyd fuddsoddi yn (a thyfu) economi llesiant Cymru o ddydd i ddydd.

3. Sut y gall Economïau Llesiant ddarparu’r naratif unedig sydd arnom ei angen ar gyfer yr economi yng Nghymru, a sut y gallwn lunio’r weledigaeth gyffredin honno drwy’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

4. Sut i gymhwyso Economïau Llesiant at bolisïau a strategaethau datblygu economaidd ar bob lefel i lunio eich economi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

5. Pwysigrwydd mesur yr economi llesiant, i gydbwyso metrigau economaidd traddodiadol megis Cynnyrch Domestig Gros (GDP), ac ysgogi newid go iawn.


Ymunwch ậ ni, wrth i ni ddod at ein gilydd o gymunedau, busnesau a sefydliadau, i archwilio’r hyn y gall Economi Llesiant ei wneud dros Gymru.

 

Archebwch eich tocyn yma: AM DDIM

Search