Opportunities & Events

Merthyr Tudful: Byddwch yn rhan o Sgwrs Genedlaethol Hapus

Location: Merthyr Tudful | Start Date: 8 Awst 2024

Summary:

Ymunwch â Hapus am weithdy AM DDIM i roi cynnig ar fod yn greadigol a darganfod ffyrdd eraill y gallwch chi amddiffyn a gwella eich lles meddyliol.

Content:



Ymunwch â ni am weithdy AM DDIM i roi cynnig ar fod yn greadigol a darganfod ffyrdd eraill y gallwch chi amddiffyn a gwella eich lles meddyliol.

Bydd yr artist Bill Taylor-Beales yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau galw heibio:

Llyfr bach o dawelwch: creu llyfrau plygu mewn ffyrdd personol i ymlacio.

Cwilt emosiynol: creu sgwariau gan ddefnyddio lliw sy'n cynrychioli emosiynau, ar gyfer arddangosfa gyfunol.

Fy mwgwd innau: creu mwgwd unigryw yn mynegi pwy ydych chi.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch yma.

Search