Opportunities & Events

cyfleoedd i artistiaid

Location: Sir Ddinbych | Start Date: Ebrill 2024

Summary:

DLL logo Mae tîm Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn awyddus i benodi nifer o artistiaid a chyfranogwyr creadigol llawrydd, gan weithio ar draws amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol, i gyflawni prosiectau celfyddydau cymunedol ledled Sir Ddinbych

Content:

Bydd y rhaglen weithgaredd yn cael ei hariannu gan y Gronfa Ffyniant Bro a bydd yn rhedeg rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2024.

 

Bydd y rhan fwyaf o'r prosiectau yn seiliedig ar y gymuned a chelf mewn iechyd a lles. Byddwn yn gweithio gydag oedolion a phlant a phobl ifanc, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cefnogi'r rhai â heriau iechyd meddwl a'r rhai a allai fod yn unig ac yn ynysig neu sydd wedi profi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).  Bydd prosiectau'n cael eu rhedeg mewn cydweithrediad â'n partneriaid, gan gynnwys Mind Dyffryn Clwyd, Grŵp Cynefin, Canolfan Grefft Rhuthun, BIPBC, Canolfan Ni, Tîm Ailsefydlu Sir Ddinbych a KIM-Inspire i enwi ond rhai a bydd prosiectau yn digwydd mewn lleoliadau fel cartrefi gofal, ysgolion, canolfannau cymunedol ac ysbytai cymunedol.

 

Rydym yn chwilio am artistiaid, gwneuthurwyr ac ymarferwyr creadigol proffesiynol profiadol iawn i gynnal gweithdai sy'n edrych ar amrywiaeth o dechnegau artistig a ffurfiau celf gan gynnwys y celfyddydau gweledol, crefft, cerddoriaeth, dawns, drama, ysgrifennu creadigol ayb.  

 

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gwahodd ymarferwyr creadigol i anfon llythyr Mynegi Diddordeb, drwy e-bost, i'w ystyried ar gyfer y rhaglen greadigol hon. Os dymunwch, mae croeso i chi hefyd awgrymu partneriaid y gallech fod yn awyddus i weithio gyda nhw a syniadau prosiect. Os nad yw'ch syniadau'n addas ar gyfer y rhaglen hon, mae grant Cronfa Ffyniant Bro yn agor 22 Ionawr 2024:

DLL Community Grant Scheme – Denbighshire Leisure Ltd                                   


Y dyddiad cau ar gyfer y 'Datganiadau o ddiddordeb' ynghyd â CV cyfredol yw 22 Rhagfyr 2023. Anfonwch eich ceisiadau wedi'u cwblhau, gan gynnwys

 

 

unrhyw ddolenni gwe, delweddau a deunydd cymorth, drwy e-bost (neu dros We Transfer os yw'r ffeiliau yn fawr), i sian.fitzgerald@denbighshireleisure.co.uk.

 

Byddwn yn awyddus i benodi artistiaid i brosiectau amrywiol o'r Flwyddyn Newydd ymlaen, er mai dim ond rhwng Ebrill a Hydref 2024 y bydd y mwyafrif o’r gwaith yn cael ei gyflawni.

 

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r canlynol:

Sian Fitzgerald, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol 01824 708216 / 07717540857sian.fitzgerald@denbighshireleisure.co.uk

 

Jo McGregor, Cydlynydd Prosiect Celfyddydau Cymunedol

jo.mcgregor @denbighshireleisure.co.uk 07799 582766 / 01824 712703

 

Search