Opportunities & Events

Dewch i Ddawnsio! 2025

Location: UK | Start Date: 02nd Mawrth

Summary:

Mae Let’s Dance! (Dewch i Ddawnsio!) yn ymgyrch genedlaethol a grëwyd i ysbrydoli pawb yn y DU i gofleidio dawns fel ffordd o wella eu hiechyd, cysylltu ag eraill, a chael hwyl! Wedi’i sefydlu gan Angela Rippon CBE, cefnogir y fenter gan sefydliadau blaenllaw gan gynnwys y Gynghrair Chwaraeon a Hamdden, y GIG, a Parkinson’s UK. 

Mwy o gwybodaeth yma

Content:

Mae dawns yn fwy na symud yn unig, mae’n achub bywydau. Ein cenhadaeth yw ysbrydoli mwy o bobl i ddawnsio gyda’i gilydd, waeth beth fo’u hoedran, lefel ffitrwydd neu brofiad.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth o fanteision dawns, ar gyfer eich iechyd meddwl a chorfforol a’i gwneud yn haws nag erioed i bobl ymuno a dod o hyd i weithgaredd dawns addas, gan ddod â phobl o bob cefndir ynghyd, i gysylltu trwy ddawns.

2 Mawrth yw diwrnod lansio swyddogol yr ymgyrch, ond rydym yn annog pawb i ddawnsio pryd bynnag y bydd yn gyfleus iddyn nhw—hyd yn oed os yw’n yfory, yr wythnos nesaf, neu pan fydd eich amserlen yn caniatáu hynny. Po fwyaf o bobl a fydd yn dawnsio, y gorau oll, does dim ots pryd ydyw!

Mwy o gwybodaeth yma

Search